Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Desg y Wasg

GWEISION SIFIL CYMRU YN ENNILL GWOBR RHYNGRWYD

Mae staff yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd yn dathlu ennill Gwobr Accountancy Age am y defnydd Gorau o’r Rhyngrwyd gan y Sector Cyhoeddus. 

Mae cyflwyniad Tŷ’r Cwmnïau o wasanaethau cofrestru ar-lein a thwf ei wefan wedi cyd-fynd â’r hyn a alwodd Accountancy Age yn “ymchwydd enfawr mewn cofrestriadau cwmnïau”. Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi gallu cofrestru dros filiwn o gwmnïau ar-lein dros y pum mlynedd diwethaf oherwydd bod ei ryngrwyd wedi gwneud prosesau yn haws ac wedi cwtogi ar fiwrocratiaeth. Dywedodd Accountancy Age:

“Mae’r gwelliant hwn mewn cael gafael ar wasanaethau’r llywodraeth yn gwneud y wefan yn garreg filltir sylweddol yn uchelgais y llywodraeth i gyflwyno gwasanaethau ar-lein.”

Dywedodd beirniaid y Wobr fod y wefan “yn drawiadol iawn ac yn enghraifft ardderchog o reolaeth brosiectau dda yn cael ei phrofi cyn cyrraedd y cyhoedd.”

Wrth groesawu’r Wobr, dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwraig Tŷ’r Cwmnïau:

“ Rydym wedi gweithio’n galed iawn i gynhyrchu safle sydd yn hawdd i’w defnyddio ac yn caniatáu i ni gyflwyno gwasanaeth cyhoeddus yn effeithiol. Rydym wedi cynnwys defnyddwyr busnes yn y dylunio ac yn natblygiad ein gwasanaethau ar-lein ac wedi sicrhau eu bod yn cynnwys mesurau diogelwch sydd yn helpu i amddiffyn cwmnïau rhag twyll. Hoffwn annog unrhyw un sydd yn gwneud busnes gyda Thŷ’r Cwmnïau i edrych ar y gwasanaethau electronig a ddarparwn.”

Nodiadau i Olygyddion
1. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn Asiantaeth Weithredol o’r Adran Masnach a Diwydiant gyda chyfrifoldeb am gorffori a diddymu cwmnïau cyfyngedig, am gofrestru gwybodaeth a gyflenwir ganddynt i’r Cofrestrydd Cwmnïau o dan y Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth berthynol ac am wneud yr wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd.

  1. Mae dros 4.5 miliwn o gwsmeriaid yn ymweld â gwefan Tŷ’r Cwmnïau bob mis. Mae dros 85% o gorfforiadau nawr yn cael eu derbyn yn electronig ac maent yn cael eu prosesu o fewn 24 awr. Mae tua 12,000 o gwmnïau yn cofrestru ar gyfer gwasanaethau ffeilio electronig bob wythnos ac mae 99% o chwiliadau cwmni yn cael eu gwneud yn electronig.

GWEISION SIFIL TŶ’R CWMNIAU YN CYRRAEDD Y BRIG!

Mae staff yn Nhŷ’r Cwmnïau, gyda’u pencadlys yng Nghaerdydd, yn dathlu ennill gwobr bwysig Accountancy Age am ‘Y Defnydd Gorau o’r Rhyngrwyd gan y Sector Cyhoeddus’ yn ogystal â chyrraedd ‘Prif Gyflogwr TG 2006/07’ y Sefydliad Ymchwil Corfforaethol.

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi llwyddo i gofrestru dros filiwn o gwmnïau ar-lein dros y pum mlynedd diwethaf oherwydd bod ei ryngrwyd wedi gwneud prosesau yn symlach ac wedi cwtogi ar fiwrocratiaeth. Dywedodd Accountancy Age: Mae’r gwelliant hwn mewn cael gafael ar wasanaethau’r llywodraeth yn gwneud y wefan yn garreg filltir sylweddol yn uchelgais y llywodraeth i gyflwyno gwasanaethau ar-lein.” Dywedodd beirniaid y Wobr fod y wefan “yn drawiadol iawn ac yn enghraifft ardderchog o reolaeth brosiectau dda yn cael ei phrofi cyn cyrraedd y cyhoedd’
Wrth groesawu’r Wobr, dywedodd Claire Clancy, Prif Weithredwraig Tŷ’r Cwmnïau:
“ Rydym wedi gweithio’n galed iawn i gynhyrchu safle sydd yn hawdd i’w defnyddio ac yn caniatáu i ni gyflwyno gwasanaeth cyhoeddus yn effeithiol. Rydym wedi cynnwys defnyddwyr busnes yn y dylunio ac yn natblygiad ein gwasanaethau ar-lein ac wedi sicrhau eu bod yn cynnwys mesurau diogelwch sydd yn helpu i amddiffyn cwmnïau rhag twyll. Hoffwn annog unrhyw un sydd yn gwneud busnes gyda Thŷ’r Cwmnïau i edrych ar y gwasanaethau electronig a ddarparwn.”

Nodiadau i Olygyddion
1. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn Asiantaeth Weithredol o’r Adran Masnach a Diwydiant gyda chyfrifoldeb am gorffori a diddymu cwmnïau cyfyngedig, am gofrestru gwybodaeth a gyflenwir ganddynt i’r Cofrestrydd Cwmnïau o dan y Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth berthynol ac am wneud yr wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd.

2. Mae dros 4.5 miliwn o gwsmeriaid yn ymweld â gwefan Tŷ’r Cwmnïau bob mis. Mae dros 85% o gorfforiadau nawr yn cael eu derbyn yn electronig ac maent yn cael eu prosesu o fewn 24 awr. Mae tua 12,000 o gwmnïau yn cofrestru ar gyfer gwasanaethau ffeilio electronig bob wythnos ac mae 99% o chwiliadau cwmni yn cael eu gwneud yn electronig.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies