Desg y Wasg |
||||
|
PENNAETH TŶ’R CWMNIAU YN SYMUD I GYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU Mae Claire Clancy, Cofrestrydd Cwmnïau Lloegr a Chymru, wedi ei phenodi yn Brif Weithredwraig Comisiwn y Cynulliad a Chlerc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gan siarad am ei phenodiad dywedodd Claire: “Rwyf wrth fy modd i gael cynnig y swydd o Brif Weithredwraig Comisiwn y Cynulliad. Rwyf wedi treulio llawer o’m gyrfa yng Nghymru ac rwyf wedi byw ar fferm ger y Fenni am sawl blwyddyn. Bu’r bobl y bûm yn gweithio gyda nhw yn Nhŷ’r Cwmnïau yn wych, o ran cynhesrwydd eu personoliaethau ac am eu gwaith caled a’u hyblygrwydd wrth wynebu’r angen am newid. “Byddaf yn hynod o drist wrth adael Tŷ’r Cwmnïau. Mae’r staff yno wedi cyflawni llawer yn y pedair blynedd diwethaf ac rwyf yn hyderus y byddant yn parhau i gyflwyno manteision newydd i’r gymuned fusnes trwy wledydd Prydain. Ond mae sialensiau’r swydd newydd hon yn gyffrous iawn ac ni allwn wrthod y cyfle i gyfrannu’n uniongyrchol at lwyddiant y Cynulliad yn y dyfodol.” Wrth groesawu penodiad Claire, dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae hon yn swydd proffil cyhoeddus uchel iawn ac yn swydd heriol unigryw sydd yn rhoi’r cyfle i helpu i drawsnewid llywodraethu democrataidd yng Nghymru. Rwyf yn neilltuol o falch bod Claire wedi derbyn yr her hon. Mae ganddi record ardderchog yn y gwasanaeth cyhoeddus, ac wedi gweithio yn y Swyddfa Batentau a Thŷ’r Cwmnïau, yn ddau wedi’u lleoli yng Nghymru.” Mae Claire wedi bod yn Brif Weithredwraig yn Nhŷ’r Cwmnïau ers 2002. Mae ei phenodiad newydd yn adlewyrchiad o safle Tŷ’r Cwmnïau fel asiantaeth flaengar y llywodraeth a gyflawnwyd trwy raglen gynhwysfawr o newid mewnol a datblygiad arweinyddiaeth, ynghyd ag ymagwedd arloesol tuag at ddefnyddio technoleg mewn cyflwyno gwasanaethau llywodraeth i’r cyhoedd. O dan arweinyddiaeth Claire mae Tŷ’r Cwmnïau wedi dod yn brif gyfrannwr i agenda gwell rheoleiddio’r llywodraeth, gan arbed tua £50m y flwyddyn i gwmnïau mewn costau rheoleiddiol. Mae gan Dŷ’r Cwmnïau dros 2.4m o gwmnïau ar y gofrestr ac mae 124 o gwmnïau newydd yn cael eu corffori bob awr gwaith; mae 85% ohonynt yn cael eu corffori’n electronig. Nodiadau i olygyddion 1. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn Asiantaeth Weithredol o’r Adran Masnach a Diwydiant gyda chyfrifoldeb am gorffori a diddymu cwmnïau cyfyngedig, am gofrestru gwybodaeth a gyflenwir ganddynt i’r Cofrestrydd Cwmnïau o dan y Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth berthynol ac am wneud yr wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd. 2. Dechreuodd Claire Clancy ei gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil ym 1977. Roedd ei swyddi diweddaraf yn y Swyddfa Batentau lle roedd yn Ysgrifennydd ac yn Gyfarwyddwraig Gweinyddu ac Adnoddau rhwng dau gyfnod yn Nhŷ’r Cwmnïau - i ddechrau fel Cyfarwyddwraig Polisi a Chynllunio ym 1996-97, gan ddychwelyd fel Prif Weithredwraig a Chofrestrydd Cwmnïau i Lloegr a Chymru yn 2002. 3. Cafodd Claire egwyl o’i gyrfa o 1997-99 i fynd gyda’i gŵr oedd yn ymgymryd â swydd yn St Helena. Tra yno bu’n gweithio i Asiantaeth Ddatblygu St Helena a Rhaglen Ddatblygu’r Cenhedloedd Unedig yn ogystal â dysgu astudiaethau busnes. 4. Prif ddiddordeb Claire yw ceffylau ac mae ganddi ddau geffyl. Mae’n cystadlu mewn ‘dressage’ (yn llwyddiannus weithiau!). |
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|