Dirwyn cwmni i ben
Gall cwmni gael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol os na all dalu ei gredydwyr. Gellir ei ddirwyn i ben hefyd drwy orchymyn llys yn unol â chais rhywun o’r credydwyr. Yn y naill achos neu’r llall, bydd angen anfon y dogfennau perthnasol at Dŷ’r Cwmnïau.
Hefyd, gall cwmni sydd wedi rhoi’r gorau i wneud busnes ond sydd heb yr asedion i gyfiawnhau diddymiad ffurfiol, wneud cais am i’w enw gael ei ddileu o’r gofrestr gwmnïau.
Yn ogystal, gall y Cofrestrydd ddileu enw’r cwmni o’r gofrestr gwmnïau os oes ganddi sail dros gredu nad yw’r cwmni’n dilyn busnes neu nad yw’n gweithredu. Cyn gwneud hyn, bydd yn ysgrifennu’n ffurfiol at y cwmni ac yn cyhoeddi rhybudd am ei bwriad yn y Gazette swyddogol.
Darperir y canllawiau canlynol i’ch helpu i ddeall sut i ddirwyn cwmni i ben a’r gofynion cyfreithiol y mae’n rhaid ichi eu parchu.
|