Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 
Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009

Gwybodaeth a chanllawiau


Hysbysu Twyll i Dŷ’r Cwmnïau

Protected Online FilingSut y gallwn ni helpu

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn asiantaeth weithredol i’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS).  Swyddogaeth Tŷ’r Cwmnïau yw derbyn, storio a lledaenu gwybodaeth am gwmnïau cyfyngedig a rhai cyrff eraill.  Sylwch nad oes gan Dŷ’r Cwmnïau bwerau ymchwilio penodol. 

Mae’r cynnydd mewn Twyll yn fater difrifol ac rydyn ni’n gwerthfawrogi pryderon cwsmeriaid yn llawn, ac yn awyddus i wneud popeth posibl i helpu i ddatrys y materion hyn.

Er hynny, sylwch mai’r cyfan y gallwn ei wneud yw rhoi cyngor am faterion sy’n ymwneud â dogfennau statudol sydd wedi’u ffeilio drwy dwyll ac sydd wedi’i hanfon i Dŷ’r Cwmnïau, megis:

  • Newid cyfeiriad swyddfa gofrestredig heb gymeradwyaeth y cwmni
  • Penodi unigolion yn swyddog i’r cwmni heb yn wybod iddyn nhw neu heb eu cydsyniad
  • Newid enwau cwmnïau heb ganiatâd
  • Defnyddio cyfeiriadau annilys ar gyfer swyddfa gofrestredig cwmni a/neu fel cyfeiriad ar gyfer un o swyddogion y cwmni
  • Anghydfodau mewnol rhwng swyddogion cwmni ynglŷn â ffeilio dogfennau annilys.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion llawn eich cwyn inni, gan gynnwys eich manylion cysylltu.  Dylech roi gwybod am unrhyw honiadau o dwyll sy’n ymwneud â ffeilio’r dogfennau hyn i’r heddlu hefyd gan mai’r heddlu yw’r awdurdod priodol i ymdrin â materion o’r fath. 

Os cawn ni gais am wybodaeth gan yr heddlu wedyn, byddwn yn ceisio’u helpu mewn unrhyw fodd posibl.

Mae cyngor am wahanol fathau o dwyll fel fisa ar gyfer swydd/gwaith, esgrow a thwyll loteri ar gael ar y tudalen o Rybuddion Twyll Pwysig.

Os yw’ch cwyn yn bodloni unrhyw un o’r uchod, gallwch anfon y manylion aton ni drwy’r e-bost yn fraud@companieshouse.gov.uk (Byddwn yn anelu at ymateb i’ch neges e-bost o fewn pum diwrnod gwaith.)

Cangen Ymchwiliadau Cwmnïau (C.I.B.)

Sylwch na allwn ni helpu gydag unrhyw faterion nad ydyn nhw’n ymwneud â ffeilio ffurflenni yn Nhŷ’r Cwmnïau. 

Os yw’ch cwyn yn ymwneud ag ymddygiad cwmni neu ei swyddogion, er enghraifft:

  • Os oes ar gwmni arian ichi am unrhyw reswm
  • Os ydych yn credu bod cwmni neu un o swyddogion y cwmni yn gweithredu mewn modd twyllodrus

dylech gysylltu â’r Gangen Ymchwiliadau Cwmnïau (CIB).  Mae manylion sut i gwyno iddyn nhw ar gael drwy gysylltu â nhw ar 0207 5966100, neu drwy edrych ar eu gwefan www.insolvency.gov.uk/cib/index.htm

Bydd C.I.B fel arfer yn ymgymryd ag unrhyw gwyn sy’n rhoi rheswm da dros ymchwiliad ac os oes yna fudd cyhoeddus mewn ymchwilio a gobaith o gymryd camau o ganlyniad i’r ymchwiliad. Yn gyffredinol, mae’n rhaid bod yna sail resymol dros amau bod yna dwyll, camymddygiad difrifol neu afreoleidd-dra o sylwedd ym materion cwmni.

Rhagor o Gymorth

I gael rhagor o gyngor a chymorth ynghylch materion twyll, cysylltwch ag Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y Deyrnas Unedig i roi gwybod am dwyll, drwy eu gwefan: www.actionfraud.org.uk

I gael cyngor ynghylch Dwyn Manylion Adnabod, efallai y byddwch am edrych ar un o’r gwefannau canlynol sy’n cynnig cyngor a gwybodaeth ymarferol www.cifas.org.uk neu www.identitytheft.org.uk

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol) Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS.    This site uses valid RSS feeds. . IFTS Accredited  http://www.ebr.org/  http://www.berr.gov.uk/  http://www.businesslink.gov.uk/  http://www.direct.gov.uk  Community Interest Companies