Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 
Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009

Tŷ’r Cwmnïau yn Cyflwyno Gwasanaeth Gwrth-Gipio

Cwsmeriaid Newydd PROOF

I ymuno â’r cynllun PROOF statudol newydd, mae angen yn gyntaf ichi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth WebFiling.  Ar ôl ichi gofrestru a chwblhau’r broses mewngofnodi, byddwch yn gweld y sgrin ganlynol (1).  Ticiwch y blwch i gadarnhau eich bod wedi darllen y telerau a’r amodau ac wedi cytuno â nhw a dewiswch ‘Ymuno â PROOF’.

Sgrin 1

New Stat PROOF customers - screen 1

Sgrin 2

Bydd y sgrin ganlynol (2) yn cadarnhau bod eich cais am ymuno â’r cynllun PROOF wedi dod i law ac yn dangos rhif cyflwyniad i gyd-fynd â’ch cais.

I barhau â’ch cais, dewiswch y botwm ‘parhau’.  Bydd hynny’n cynhyrchu dwy neges e-bost, y gyntaf (e-bost 1) yn cydnabod bod eich cais wedi dod i law, a’r ail (e-bost 2) yn cadarnhau bod y cais wedi’i dderbyn neu wedi’i wrthod.

New Stat PROOF customers - screen 2

E-bost 1

Mae’r neges e-bost (1) ganlynol yn cael ei chynhyrchu i gadarnhau bod eich cais wedi dod i law, a chaiff neges e-bost (2) arall ei hanfon pan fydd y cais wedi’i dderbyn neu wedi’i wrthod.

Crewyd y neges hon mewn ymateb i'r manylion cwmni a gyflwynwyd i wasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau ar <dd/mm/bbbb>.

Rhif Cwmni: <01234567>
Enw Cwmni: <A Demo Company Ltd.>

Cewch e-bost o fewn y 2 diwrnod nesaf i gadarnhau a gafodd y ddogfen ei derbyn neu ei gwrthod. Dim ond wrth iddynt gael eu derbyn y caiff y newidiadau i'r ddogfen eu dangos ar-lein. 

Y Cyfeirnod Ffeilio yw <XXX-XXXXXX>.
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn mewn unrhyw ohebiaeth â Thŷ'r Cwmnïau.

Mae pob dogfen a ffeilir o dan WebFiling ar gael i’w gweld/lawrlwytho am 10 diwrnod ar ôl y cyflwyno gwreiddiol, drwy ddethol yr opsiwn ‘Gweld data wedi’u cyflwyno’ o’r brif Ddewislen. Gweler HELP WebFiling am ragor o wybodaeth.

Sylwer na fydd ceisiadau am adael neu ymuno â chynllun PROOF yn cael eu dangos ar y cofnod cyhoeddus nac o dan yr opsiwn 'Gweld y Data a Gyflwynwyd'.

Diolch am ddefnyddio gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau.

Canolfan Cysylltu tel +44 (0)303 1234 500 neu e-bost: enquiries@companieshouse.gov.uk

D.S. Os ydych yn cofrestru am PROOF ac yn ffeilio Cyfrifon neu ddogfennau eraill yn ystod yr un sesiwn, gwnewch yn siŵr fod atebion cydnabyddiaeth a derbyniad wedi cael eu derbyn ar gyfer yr holl drafodion.

E-bost 2

Caiff y neges e-bost (2) ganlynol ei chynhyrchu pan fydd y cais am ymuno â PROOF wedi’i dderbyn.  Bydd cadarnhad eich bod wedi’ch derbyn i’r cynllun PROOF yn cael ei ddangos yn y blwch statws PROOF newydd (sgrin 3) ar sgrin dewislen WebFiling.

Crewyd y neges hon mewn ymateb i'r manylion cwmni a gyflwynwyd i wasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau ar <dd/mm/bbbb>.

Rhif Cwmni: <01234567>
Enw Cwmni: <A Demo Company Ltd.>

Derbyniwyd y cais PROOF ar gyfer y cwmni uchod ar <dd/mm/bbbb>. 

Y Cyfeirnod Ffeilio yw <XXX-XXXXXX>.
Dyfynnwch y cyfeirnod hwn mewn unrhyw ohebiaeth â Thŷ'r Cwmnïau.

Mae pob dogfen a ffeilir o dan WebFiling ar gael i’w gweld/lawrlwytho am 10 diwrnod ar ôl y cyflwyno gwreiddiol, drwy ddethol yr opsiwn ‘Gweld data wedi’u cyflwyno’ o’r brif Ddewislen. Gweler HELP WebFiling am ragor o wybodaeth.

Sylwer na fydd ceisiadau am adael neu ymuno â chynllun PROOF yn cael eu dangos ar y cofnod cyhoeddus nac o dan yr opsiwn 'Gweld y Data a Gyflwynwyd'.

Diolch am ddefnyddio gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau.

Canolfan Cysylltu tel +44 (0)303 1234 500 neu e-bost: enquiries@companieshouse.gov.uk

Sgrin 3

Bydd blwch statws PROOF ar dudalen dewislen WebFiling (sgrin 3) yn cadarnhau statws PROOF y cwmni.  Gallwch weld hyn ar ochr dde’r sgrin o dan ‘tasgau eraill’

New Stat PROOF customers - screen 3

(Sylwer ei body n bosib na fydd ceisiadau am adael neu ymuno â PROOF dros y 48 awr ddiwethaf wedi cael eu cymhwyso eto. Aros Penderfyniad fod wedi’i ddangos).

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 (pris galwad genedlaethol) Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS.    This site uses valid RSS feeds. . IFTS Accredited  http://www.ebr.org/  http://www.berr.gov.uk/  http://www.businesslink.gov.uk/  http://www.direct.gov.uk  Community Interest Companies