Cwestiynau Mynych |
||||
| Corffori Cwmni Newydd Cwblhau'n Glir Wrth gwblhau'n ffurflenni neu anfon unrhyw ddogfennau atom, cadwch mewn cof ein bod yn eu sganio'n electronig. Dyna pam ei bod yn well gennym ichi lenwi'r ffurflenni mewn teipysgrif du. Os nad yw hyn yn bosibl, defnyddiwch lawysgrifen mewn priflythrennau. Defnyddiwch bob amser bapur A4 yn pwyso 80-100 gms. Cynhwysir y gofynion llawn yn ein llyfryn " Canllaw i Gyfarwyddwyr ac Ysgrifenyddion ", GBA1CYM. Enw'r cwmni
Sylwer, fodd bynnag, na allwn neilltuo enw. Ni allwn ychwaith gofrestru enw sydd yr un fath ag un sydd eisoes ar y gofrestr. Ac os cofrestrwch enw sy'n "rhy debyg" i enw cwmni sy'n bod yn barod, mae gan y cwmni presennol yr hawl i wrthwynebu a gallwn eich cyfarwyddo i newid eich enw. YDŷ'r enw'n cynnwys gair sensitif? Gweler ein llyfryn canllaw "Enwau Cwmni ", GBF2CYM. Cyfarwyddwyr wedi eu gwahardd A gafodd unrhyw un o'r cyfarwyddwyr/ysgrifenyddion a gynigir ei wahardd rhag gweithredu'n gyfarwyddwyr? Ymgynghorwch â'r Gofrestr Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd. *NODYN: Dim ond yn Saesneg y mae'r Gofrestr Cyfarwyddwyr wedi eu Gwahardd ar gael Memorandwm ac Erthyglau
Gwiriwch y dogfennau i gyd i wneud yn siwr bod popeth yn iawn cyn eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau. Er enghraifft, ydy enw'r cwmni yn union yr un fath trwy'r dogfennau cyfan? Bydd yn cyflymu'ch corfforiad os cewch bethau'n iawn y tro cyntaf. Ffi A amgaewyd y ffi angenrheidiol o £20? Copïau Ydych chi wedi cymryd copïau o'r dogfennau corffori fel y cawsant eu cwblhau? Bydd y Cofrestrydd yn cadw'r dogfennau corffori gwreiddiol a gyflwynir iddo. |
||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|