Ffurflenni Ar-lein ar Ddiwyg PDF
I ddarllen a llenwi unrhyw rai o'r ffurflenni, bydd arnoch chi angen Adobe Acrobat Reader Fersiwn 4.0 neu ddiweddarach. Cliciwch ar yr eicon isod i ddadlwytho'r fersiwn hwn.
CANLLAWIAU I GWSMERIAID
Caiff ffurflenni a gyflwynir i Dŷ'r Cwmnïau eu sganio i roi delwedd electronig. Mae adran 706 o Ddeddf Cwmnïau 1985 yn caniatáu i Dŷ'r Cwmnïau wrthod dogfennau na ellir mo'u cipio'n electronig, gan roi hysbysiad yn dweud pam yr oeddent yn annerbyniol. Rhaid cyflwyno copi derbyniol o fewn 14 diwrnod i'r hysbysiad (fel arall, byddwn yn ystyried bod y gwreiddiol heb ei gyflwyno).
Mae'r canllawiau isod yn pennu ansawdd y dogfennau sydd eisiau cyn y gallwn eu derbyn.
- Mae'n well gennym i ffurflenni gael eu llenwi ar-lein neu, fel dewis arall, gellir eu hargraffu a'u llenwi â llaw.
- I lenwi ffurflen ar-lein, cliciwch yn y maes gweithredol cyntaf, nodwch eich manylion a defnyddiwch y fysell tab i symud ymlaen i'r maes nesaf. I lenwi unrhyw flychau ticio, gwasgwch y bar gofod. Ar ôl cwblhau'r ffurflen, argraffwch hi, ei llofnodi a'i dyddio cyn ei dychwelyd atom drwy'r post.
- Peidiwch â defnyddio matrics-argraffydd, gan na fydd hwnnw'n rhoi'r ansawdd cynhyrchu angenrheidiol.
- Mae'n rhaid i bob ffurflen statudol sydd ar gael o'n gwefan gael ei dyddio a'i llofnodi a'i hanfon atom drwy'r post.
- Rhaid i ddogfennau fod ar bapur A4 sy'n wyn neu fel arall o ddwysedd cefndir heb fod yn fwy na 0.3.
- Rhaid i ddogfennau fod ar bapur gyda gorffeniad di-sglein.
- Rhaid i bob tudalen fod ag ymyl 10mm ar bob ochr.
- Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn glir, yn ddarllenadwy ac o ddwysedd cyson - defnyddiwch inc du neu deip du a llythrennu bras (bydd rhai wynebau teip a phinnau ysgrifennu tenau cain yn rhoi copïau o ansawdd gwael).
- Rhaid i lythrennau a rhifau fod o leiaf 1.8mm o uchder, ac iddynt ddwysedd o 1.0 fan leiaf.
- Cofiwch - gall ffotogopïau roi arlliw llwyd na fydd yn ffilmio'n dda.
|