Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Deddf Cwmnïau


DEDDF CWMNÏAU 2006

Y Gweinidog Cystadleugarwch (Stephen Timms):

Bydd Deddf Cwmnïau 2006, a sicrhaodd Gydsyniad Brenhinol ar 8 Tachwedd 2006, yn dod â buddion sylweddol iawn i fusnesau drwy foderneiddio a symleiddio’r gyfraith gwmnïau.

Pennodd y Llywodraeth yr amserlen ddechrau i’r Ddeddf drwy Ddatganiad Ysgrifenedig ar 28 Chwefror 2007. Roedd tri phrif gam i’r amserlen weithredu, gan ddechrau mwyafrif y darpariaethau ar 1 Hydref 2007, 6 Ebrill 2008 neu 1 Hydref 2008.

Yn unol â’r amserlen hon, dechreuwyd cyfran helaeth o’r darpariaethau ar 1 Hydref 2007, gan gynnwys darpariaethau’n ymwneud â dyletswyddau cyffredinol cyfarwyddwyr, yr arolwg busnes, a phenderfyniadau a chyfarfodydd cwmnïau. Caiff cyfran bellach o’r darpariaethau eu dechrau ar 6 Ebrill 2008, gan gynnwys y darpariaethau sy’n ymwneud â chyfrifon ac adroddiadau, archwilio ariannol a dileu’r rhwymedigaeth ar i gwmnïau preifat fod ag ysgrifennydd.

Roedd Datganiad Ysgrifenedig 28 Chwefror 2007 yn egluro bod angen inni sicrhau bod y Cofrestrydd Cwmnïau yn cael digon o amser i weithredu newidiadau pwysig i systemau a phrosesau Tŷ'r Cwmnïau gyda golwg ar feysydd fel ffurfio cwmni, ac i roi rhybudd priodol i ddefnyddwyr y ffurflenni newydd. Am y rheswm hwn, penderfynodd y Llywodraeth mai ar 1 Hydref 2008 y dylid dechrau’r darpariaethau oedd yn ymwneud agosaf â’r newidiadau hyn.

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi gwneud cryn gynnydd â’r newidiadau angenrheidiol i’w systemau a’i brosesau. Fodd bynnag, erys llawer o waith i’w wneud ac mae’r Cofrestrydd Cwmnïau wedi rhoi gwybod na all fod yn gwbl hyderus y gellir cwblhau’r newidiadau angenrheidiol mewn pryd. Mae’r Llywodraeth yn cydnabod bod angen sicrwydd ar fyd busnes lle mae’r amserlen weithredu yn y cwestiwn ac mae wedi penderfynu, felly, y dylai mwyafrif y darpariaethau oedd i’w dechrau ar 1 Hydref 2008 gael eu gohirio tan 1 Hydref 2009. Mae hyn yn cynnwys darpariaethau’n ymwneud â ffurfio cwmni, cyfalaf cyfrannau, enwau cwmni a busnes, a chyfeiriadau preswyl cyfarwyddwyr.

Mae rhai darpariaethau sydd i’w dechrau ar 1 Hydref 2008 lle na elwir am newidiadau i systemau a phrosesau Tŷ’r Cwmnïau. Gellid dechrau’r rhain ar 1 Hydref 2008 o hyd, ond cydnabyddwn fod angen cydbwyso amseriad dechrau’r darpariaethau dadreoleiddio a chymhlethdod y gweithredu mewn camau. Mae’r Llywodraeth, felly, yn bwriadu ymgynghori â budd-ddeiliaid allweddol ynglyn â dyddiad dechrau’r darpariaethau canlynol:

  1. adrannau 69 i 74: gwrthwynebu enwau cwmni;
  2. adrannau 82 i 85: datgeliadau masnachu;
  3. adrannau 155 i 159: darpariaethau’n ymwneud â chyfarwyddwyr corfforaethol a chyfarwyddwyr tan oed;
  4. adrannau 175 i 177: dyletswyddau cyffredinol cyfarwyddwyr o ran gwrthdrawiad buddiannau;
  5. adrannau 182 i 187: datganiad buddiant gan gyfarwyddwr yng nghyswllt trafodyn neu drefniant presennol;
  6. adrannau 811(4), 812 a 814: archwilio’r gofrestr fuddiannau yng nghyswllt cyfrannau’r cwmni;
  7. diddymu’r cyfyngiadau o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 o ran cymorth ariannol i feddiannu cyfrannau mewn cwmnïau preifat, gan gynnwys y drefn “gwyngalchu“.

Fe wnaf Ddatganiad pellach ym mis Rhagfyr, yn pennu’r amserlen ddechrau derfynol yng ngoleuni’r trafodaethau hyn.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies