Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Deddf Cwmnïau


1 Hydref 2008

Bydd y darpariaethau canlynol o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yn dod i rym ar 1 Hydref 2008:

  • Gwrthwynebu Enwau Cwmni – Adrannau 69 i 74
  • Datgeliadau Masnachu – Adrannau 82 i 85
  • Cyfarwyddwyr corfforaethol a chyfarwyddwyr tan-oed – Adrannau 155 i 159
  • Darpariaethau’n ymwneud â ‘dyletswyddau gwrthdrawiad buddiannau’ cyfarwyddwyr – Rhan 10
  • Lleihau’r cyfalaf cyfrannau drwy ddatganiad ansolfedd – Adrannau 641 i 644
  • Rheoli rhoddion a gwariant gwleidyddol, darpariaethau’n ymwneud ag ymgeisydd annibynnol – Adrannau 362 i 379
  • Pŵer y llys i ganiatáu gollyngdod mewn rhai achosion – Adran 1157

Newidiadau eraill yn dod i rym ar 1 Hydref 2008

  • Diddymu’r cyfyngiadau ar gymorth ariannol i feddiannu cyfrannau cwmnïau preifat – Adrannau 151 i 153 a 155 i 158 (Deddf 1985)
  • Newidiadau i’r gofynion o ran y ffurflen flynyddol (Deddf 1985)
  • Newidiadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig i gysoni’r cynnwys o ran cyfrifon â’r rheoliadau cwmni.

Gwrthwynebu Enwau Cwmni a'r Tribiwnlys Enwau Cwmni Adran 69 - 74

C. A fydd y rheolau o ran gwrthwynebu enwau tebyg yn newid ym mis Hydref 2008?
A. Byddan. O fis Hydref 2008 ymlaen, bydd rhai rheolau newydd yn gymwys o dan adrannau 69 i 74 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Bydd y rhain yn caniatáu cwyno lle cafodd cwmni ei gofrestru gyda’r bwriad o fynnu arian gan yr achwynydd neu er mwyn ei atal rhag cofrestru enw y mae ganddo ewyllys da ynddo (“cofrestru manteisgar”). Mae rhagor o wybodaeth am y Tribiwnlys Enwau Cwmni i’w chael yn www.ipo.gov.uk/cna.

C. Pwy gaiff wrthwynebu enw cwmni o dan y rheolau newydd hyn?
A. Caiff unrhyw berson neu gwmni wrthwynebu enw cwmni.

C. Oes modd anfon i Dŷ’r Cwmnïau wrthwynebiad i enw cwmni ar sail cofrestru manteisgar?
A. Nac oes. Rhaid i bob gwrthwynebiad ynglŷn â chofrestru manteisgar gael ei anfon i’r Tribiwnlys Enwau Cwmni newydd annibynnol (a elwir hefyd y ‘Dyfarnydd’), fydd yn seiliedig yn Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. Dim ond am wrthwynebiadau ‘rhy debyg’ ac ‘yr un fath’ y mae Tŷ’r Cwmnïau’n gyfrifol.

C. Beth fydd yn digwydd os derbynnir cwyn yng nghyswllt cofrestru manteisgar?
A. Gall y Tribiwnlys Enwau Cwmni wneud gorchymyn i gyfarwyddo’r cwmni i newid ei enw. Os bydd y cwmni’n methu cydymffurfio, gall y Tribiwnlys ddewis enw newydd i’r cwmni.

C. A gaiff cwmni apelio yn erbyn dyfarniad y Tribiwnlys Enwau Cwmni?
A. Caiff, caiff cwmni apelio i’r Uchel Lys.

C. A fydd y rheolau newydd hyn yn gymwys i gwmnïau a gafodd eu cofrestru cyn mis Hydref 2008?
A. Byddan. Bydd rheolau’r Tribiwnlys Enwau Cwmni yn ôl-weithredol.

Mae rhagor o wybodaeth  i’w chael yn www.ipo.gov.uk/cna.

Datgeliadau Masnachu – Adrannau 82 i 85

C. Ble mae’n rhaid imi ddatgelu enw fy nghwmni?
A. Rhaid i bob cwmni ddangos ei enw cofrestredig:
- yn ei swyddfa gofrestredig a’i fan archwilio. Fodd bynnag, bydd cwmnïau segur wedi’u heithrio o 1 Hydref 2008 ymlaen. 
- mewn unrhyw leoliad lle mae’r cwmni’n cynnal busnes. Ond os defnyddir y lleoliad hwnnw’n bennaf fel lle byw (er enghraifft, cyfeiriad cyfarwyddwr), caiff y cwmni ei eithrio.
- ar ohebiaeth a dogfennau busnes y cwmni. Mae hyn yn cynnwys copïau caled o ddogfennau neu’r diwyg electronig neu unrhyw ddiwyg arall.

C. Sut mae’n rhaid datgelu enw’r cwmni?
A. Rhaid i enw’r cwmni gael ei ddangos yn ddi-baid, ond o fis Hydref 2008 ymlaen, os ydych yn un o chwech neu ragor o gwmnïau sy’n rhannu swyddfa neu fan busnes, dim ond am bymtheg eiliad bob tair munud y bydd yn ofynnol ichi ddangos yr enw. Hwyrach y byddwch am fanteisio ar arddangosiadau electronig at y diben hwn.

C. Oes rhaid i enw cyhoeddedig y cwmni fod yr un fath yn union â’r enw cofrestredig?
A. O fis Hydref 2008 ymlaen, caiff mân amrywiadau ar ffurf yr enw eu caniatáu, gan gynnwys amrywio llythrennau bach a mawr, defnydd atalnodi, acenion, ac ati, a fformadu. Ond rhaid i’r gwahaniaethau beidio ag arwain at beryg dryswch.

C. Beth sydd angen imi ei ddangos ar fy llythyrau busnes, ar archebion ac ar wefannau?
A. Enw, rhif, man cofrestru a swyddfa gofrestredig y cwmni.

C. Alla i i wneud cais am fanylion cwmni yn ysgrifenedig?
A. Gallwch. O fis Hydref 2008 ymlaen, caiff rhywun fynnu gwybodaeth yn ysgrifenedig gan gwmni y mae’n delio ag ef, gan gynnwys cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, unrhyw fan archwilio a’r math o gofnodion cwmni a gaiff eu cadw yn y swyddfa neu’r fan honno. Rhaid i’r cwmni anfon ymateb ysgrifenedig i’r person hwnnw o fewn pum diwrnod gwaith i gael y cais.

C. Beth sy’n digwydd os bydd y cwmni’n methu cydymffurfio â’r gofynion datgelu masnachu?
A. Bydd y cwmni a phob un o’i swyddogion sy’n methu cydymffurfio yn cyflawni tramgwydd a gall fod yn agored i’w ddirwyo.

Ond o fis Hydref 2008 ymlaen caiff yr atebolrwydd sifil personol ei ddileu. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, pe bai swyddog yn llofnodi siec ar ran y cwmni, na fydd mwyach yn bersonol atebol i ddeiliad y siec am unrhyw arian.

Cyfarwyddwyr corfforaethol a chyfarwyddwyr tan-oed – Adrannau 155 i 159

Cyfarwyddwyr Corfforaethol
Bydd yn ofynnol i gwmni fod ag o leiaf un cyfarwyddwr sy’n berson naturiol - yn unigolyn.

Sut bydd y gofyniad newydd hwn yn effeithio ar gyfarwyddwyr corfforaethol cwmnïau presennol?
O 1 Hydref 2008 ymlaen, bydd yn rhaid i bob cwmni fod ag o leiaf un cyfarwyddwr sy’n berson naturiol, er y bydd cyfnod gras tan fis Hydref 2010 i unrhyw gwmni oedd â chyfarwyddwyr corfforaethol yn unig ar y dydd y cafodd y Ddeddf Cwmnïau Gymeradwyaeth y Frenhines, sef 8 Tachwedd 2006.

Cyfarwyddwyr Tan-oed
Mae’r Ddeddf yn cyflwyno oedran isaf i gyfarwyddwyr, sef 16 oed. Daw hyn i rym ar 1 Hydref 2008.

Beth fydd yn digwydd i gyfarwyddwyr presennol sydd o dan 16 oed ar 1 Hydref 2008?
Bydd safleoedd presennol fel cyfarwyddwr tan-oed yn dod i ben, heb orfod rhoi gwybod i’r Cofrestrydd.

Ydy hi’n ofynnol i’r cwmni ddiwygio unrhyw gofnodion cwmni?
Ydy, bydd yn ofynnol i’r cwmni ddiwygio’r gofrestr gyfarwyddwyr i adlewyrchu’r ffaith bod y penodiad wedi dod i ben.

A fydd y rheolau cyfarwyddwyr tan-oed yn gymwys yn ôl-weithredol?
Byddant. Lle bo rhywun a benodwyd yn gyfarwyddwr cwmni cyn gweithredu adran 157 (oedran isaf ar gyfer penodi’n gyfarwyddwr) heb gyrraedd 16 oed erbyn 1 Hydref 2008, bydd y person hwnnw yn peidio â bod yn gyfarwyddwr.

Beth os bydd y cwmni wedi’i adael heb gyfarwyddwr cymwys o ganlyniad i’r newidiadau?
Bydd cwmnïau sydd heb gyfarwyddwr cymwys yn gyfreithiol ddiffygiol a bydd angen iddynt benodi o leiaf un cyfarwyddwr i unioni’r sefyllfa.

Darpariaethau’n ymwneud â ‘dyletswyddau gwrthdrawiad buddiannau’ cyfarwyddwyr – Rhan 10

Mae’r newidiadau hyn yn cwmpasu dyletswydd cyfarwyddwyr i osgoi gwrthdrawiad buddiannau drwy beidio â derbyn buddion gan drydydd partïon a’u dyletswydd i ddatgelu buddiant mewn trafodion neu drefniadau arfaethedig.

Mae’r adrannau canlynol yn ymwneud a gwrthdrawiad buddiannau cyfarwyddwyr a deuant i rym ym mis Hydref 2008.

Adran175 – Dyletswydd i osgoi gwrthdrawiad buddiannau
Adran 176 –Dyletswydd i osgoi buddion gan drydydd partion
Adran177 – Dyletswydd i ddatgelu buddiant mewn trafodion neu drefniadau arfaethedig
Adran 180(1) i (3) a (4)(b) – Cydsyniad, cymeradwyaeth neu awdurdodiad aelodau
Adran 181(2) a (3) – Addasu darpariaethau neilltuol gyda golwg ar gwmnïau elusennol

Lleihau’r cyfalaf cyfrannau drwy ddatganiad solfedd – Adrannau 641(1)(a) a (2)-(6), 642 i 644

Fel dewis arall yn lle mabwysiadu penderfyniad arbennig a sicrhau cymeradwyaeth y llys, bydd cwmnïau preifat yn cael dewis lleihau swm eu cyfalaf cyfrannau drwy benderfyniad arbennig wedi’i ategu gan ddatganiad solfedd wedi’i wneud gan y cyfarwyddwyr.  Bydd yn rhaid i’r penderfyniad a’r datganiad solfedd, gyda datganiad cyfarwyddwyr ychwanegol a memorandwm cyfalaf yn dangos y newid i gyfalaf cyfrannau’r cwmni, gael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau.

Beth yw diben cyflwyno trefn y datganiad solfedd?
Mae trefn y datganiad solfedd yn cynnig ffordd symlach a rhatach i gwmni leihau ei gyfalaf cyfrannau.

Sut y penderfynir ffurf a chynnwys y datganiad solfedd?
Ni all Tŷ’r Cwmnïau roi cyngor ar gynnwys y datganiad solfedd a fynnir gan adran 643 o Ddeddf 2006. Rhaid i’r datganiad gael ei greu gan y cwmni i’w aelodau ac mae’r cynnwys wedi’i lywio gan ad643.
http://www.opsi.gov.uk/acts/acts2006/ukpga_20060046_en.pdf

Mae ffurf y datganiad wedi’i llywio gan reoliadau – Gorchymyn (Lleihau Cyfalaf Cyfrannau) Cwmnïau 2008
http://www.opsi.gov.uk/si/si2008/uksi_20081915_en_1

Mae copïau o’r Ddeddf Cwmnïau a’r rheoliadau ar gael ar wefan BERR.

At ddibenion cofrestru, dylid cynnwys enw a rhif y cwmni ar y copi o’r datganiad a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau.

Pam nad yw’r gofyniad hwn yn dod i rym gyda gweddill Rhan 17 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ar 1 Hydref 2009?
Mae byd busnes yn cefnogi cyflwyno’r datganiad solfedd mor fuan ag y bo modd, gan ei fod yn drefn fydd yn sicrhau buddion o ran rhwyddineb a chost. Felly, bydd y darpariaethau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2008, a gweddill Rhan 17 ar 1 Hydref 2009.

Yn absenoldeb y gorolwg llys, pa ddarpariaethau diogelu sy’n bod i ymochel rhag camfanteisio ar drefn y datganiad solfedd?
Os bydd cyfarwyddwyr cwmni yn gwneud datganiad solfedd heb sail resymol i’r farn a gyfleir ynddo, a bod y datganiad yn cael ei gyflwyno i’r Cofrestrydd, bydd pob cyfarwyddwr unigol sydd heb gydymffurfio’n briodol wedi cyflawni tramgwydd. Gellir cosbi’r tramgwydd drwy ddirwy neu gyfnod hwyaf o ddwy flynedd yn y carchar, neu’r ddau.

Ydy’r broses newydd hon hefyd ar gael i gwmnïau cyhoeddus?
Nac ydy, dim ond i gwmnïau preifat y mae’r datganiad solfedd ar gael. Bydd modd o hyd i gwmnïau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd leihau eu cyfalaf cyfrannau drwy benderfyniad arbennig wedi’i gadarnhau gan orchymyn llys.

Rheoli rhoddion a gwariant gwleidyddol, darpariaethau’n ymwneud ag ymgeisydd annibynnol – Adrannau 362 i 379

Mae Rhan 14 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gwmni gael ei awdurdodi gan ei aelodau cyn iddo roi rhodd wleidyddol sy’n uwch na £5000 mewn un flwyddyn i blaid wleidyddol, corff gwleidyddol neu ymgeisydd annibynnol (nad yw’n aelod o blaid wleidyddol ond sy’n ymgynnig i’w ethol i swydd gyhoeddus).

Rhaid hefyd i gwmni gael ei awdurdodi gan ei aelodau cyn tynnu gwariant mewn cysylltiad â gweithgareddau gwleidyddol fel hysbysebu, hybu neu gefnogi plaid wleidyddol, corff gwleidyddol neu ymgeisydd annibynnol mewn etholiad mewn rhyw ffordd arall.

Bydd y gweithredu fel a ganlyn:
Gyda golwg ar bleidiau gwleidyddol a chyrff gwleidyddol eraill, cafodd y gofyniad awdurdodi ei weithredu:

  • Ym Mhrydain Fawr o 01/10/07 ymlaen
  • Yng Ngogledd Iwerddon o 01/11/07 ymlaen

Fodd bynnag, nid oedd hyn yn gymwys i roddion na gwariant yng nghyswllt ymgeiswyr annibynnol. Ar gyfer ymgeiswyr annibynnol gweithredir o 01/10/08 ymlaen a bydd hyn yn gymwys i Brydain Fawr a Gogledd Iwerddon fel ei gilydd.

Nid yw gweithrediad 1 Hydref 2008 ond yn estyn, ar gyfer ymgeiswyr annibynnol, y rheolaeth dros roddion a gwariant gwleidyddol cwmnïau oedd eisoes yn gymwys i bleidiau a chyrff gwleidyddol o’r llynedd ymlaen.

Pŵer y llys i ganiatáu gollyngdod mewn rhai achosion – Adran 1157 

Mae’r darn hwn yn ailddatgan adran 727 o Ddeddf 1985.

Caiff swyddog cwmni, e.e. cyfarwyddwr neu rywun a gyflogir gan y cwmni megis archwilydd ariannol, wneud cais i’r llys am gael ei ollwng rhag bod yn atebol am esgeulustod etc. Gall y llys ganiatáu gollyngdod mewn rhai amgylchiadau os yw’r person wedi gweithredu’n onest a rhesymol.


Newidiadau eraill yn dod i rym ar 1 Hydref 2008

Dileu’r cyfyngiadau o ran cymorth ariannol i feddiannu cyfrannau cwmnïau preifat – Adrannau 151 i 153 a 155 i 158 (Deddf 1985)

Ydy cwmnïau preifat i gael eu gwahardd rhag rhoi cymorth ariannol i feddiannu’u cyfrannau eu hun o dan Ddeddf Cwmnïau 2006?
Ni fydd Deddf Cwmnïau 2006 yn atal cwmni preifat rhag rhoi cymorth ariannol i feddiannu’i gyfrannau ei hun (ond os oes ganddo isgwmni sy’n gyhoeddus, ni chaiff y cwmni cyhoeddus gynorthwyo meddiannu cyfrannau yn y cwmni-dal preifat). Mae Deddf Cwmnïau 1985 yn atal cwmnïau preifat rhag rhoi cymorth ariannol i feddiannu’u cyfrannau eu hun oni bai bod amodau arbennig yn cael eu bodloni. Caiff y gwaharddiad ei ddiddymu ym mis Hydref 2008: tan hynny, ar gyfer cymorth a gaiff ei roi ar neu wedi 1 Hyderf 2008,  bydd y gwaharddiad yn dal mewn grym.

Pryd y newidir y rheolau sy’n llywodraethu cymorth ariannol cwmnïau preifat a chyhoeddus i feddiannu’u cyfrannu eu hun neu gyfrannau eu cwmnïau dal?
Bydd y rheolau’n newid i gwmnïau preifat ar 1 Hydref 2008. Ni fydd y rheolau’n newid i gwmnïau cyhoeddus.

Pam nad yw’r newidiadau i’r darpariaethau cymorth ariannol yn dod i rym gyda gweddill y darpariaethau cyfalaf cyfrannau ym mis Hydref 2009?
Er bod cymorth ariannol yn rhan o ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â chyfalaf cyfrannau, mater syml yw dileu’r gwaharddiad i gwmnïau preifat a phwnc ‘gwyngalchu’ ar wahân i’r darpariaethau hynny, a dyna pam bod y dileu yn dod i rym ym mis Hydref 08. Mae byd busnes yn croesawu dechreuad cynnar y darpariaethau hyn.

Sut bydd y newidiadau i’r rheolau sy’n llywodraethu cymorth ariannol i feddiannu cyfrannau, fel y cânt eu cyflwyno gan Ddeddf Cwmnïau 2006, yn effeithio ar gwmnïau preifat a chyhoeddus?
Mae Deddf Cwmnïau 1985 yn atal cwmni rhag rhoi cymorth ariannol (er enghraifft, drwy fenthyciad anfasnachol) i feddiannu’i gyfrannau ei hun neu gyfrannau ei gwmni dal: ond un eithriad yw bod cwmnïau preifat yn cael rhoi cymorth o’r fath drwy drefn gymhleth a chostus y cyfeirir ati’n aml fel ‘gwyngalchu.

O dan Ddeddf Cwmnïau 2006, caiff y gwaharddiad ar roi cymorth ariannol ei ddileu’n llwyr i gwmnïau preifat ond bydd yn aros mewn grym i gwmnïau cyhoeddus.

Ydy’r gweithrediadau hyn yn effeithio o gwbl ar ffurflenni Tŷ’r Cwmnïau?
Mae’r newidiadau hyn yn golygu, lle rhoir cymorth ariannol ar neu wedi 1 Hydref 2008, na fydd angen mwyach i gwmnïau ffeilio’r ffurflenni canlynol:

  • 155(6a) – Datganiad yng nghyswllt cymorth i feddiannu cyfrannau
  • 155(6b) – Datganiad gan gyfarwyddwyr cwmni dal yng nghyswllt cymorth i feddiannu cyfrannau
  • 157 – Hysbysiad am gais wedi’i wneud i’r llys am ddileu penderfyniad arbennig ynglŷn â chymorth ariannol (i feddiannu cyfrannau)

Newidiadau i’r gofynion o ran y ffurflen flynyddol (Deddf 1985)

Daethpwyd i rym ag adrannau 116-119 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ym mis Hydref 2007, gan ganiatáu i gwmnïau gyfyngu’r mynediad i’w cofrestr aelodau.  I hwyluso hyn, bydd ffurflenni blynyddol sy’n bodloni cyfnod sy’n diweddu ar neu wedi 1 Hydref 2008 yn cynnwys llai o wybodaeth am gyfranddeiliaid y cwmni.  Bydd yr wybodaeth a gaiff ei datgelu ar y ffurflen flynyddol yn dibynnu ar b’un a dderbyniwyd unrhyw rai o gyfrannau’r cwmni i’r drefn fasnachu mewn marchnad wedi’i rheoleiddio (cwmni masnachedig).  Dim ond enwau’r cyfranddeiliaid, nid eu cyfeiriadau, y mae’n ofynnol i gwmnïau preifat a chwmnïau cyhoeddus anfasnachedig eu darparu. Mae’n ofynnol i gwmnïau cyhoeddus masnachedig ddarparu enwau a chyfeiriadau’r cyfranddeiliaid hynny sy’n dal o leiaf 5% o unrhyw ddosbarth o gyfrannau.

A fydd cyfeiriadau aelodau neu gyfranddeiliaid ar gael gan Dŷ’r Cwmnïau o hyd?
Lle cyflwynwyd cyfeiriadau i Dŷ’r Cwmnïau fel rhan o ffurflen flynyddol cwmni cyhoeddus masnachedig, trefnir i’r rhain fod ar gael i’r cyhoedd o hyd. Byddwn yn gwrthod unrhyw ffurflenni blynyddol sy’n cynnwys cyfeiriadau cyfranddeiliaid os nad yw’r cwmni’n un masnachedig.

A fydd modd i gwmni fanteisio ar hyn cyn bod ei ffurflen flynyddol nesa’n ddyledus?
Bydd, caiff cwmni gyflwyno’n unig ffurflen flynyddol yn bodloni cyfnod yn dod i ben ar neu wedi 1 Hydref 2008 er mwyn manteisio ar y gofynion datgelu llai.  Caiff cwmni bennu unrhyw ddyddiad a fyn fel diwrnod olaf blwyddyn ei ffurflen flynyddol, ar yr amod na fydd hwnnw’n ddiweddarach na blwyddyn ar ôl dyddiad y ffurflen flynyddol ddiwethaf (neu’r dyddiad corffori yn achos ffurflen flynyddol gynta’r cwmni).

Beth os bydd cwmni sy’n cyflwyno ffurflen flynyddol gynharach am adfer ei gylch drwy gyflwyno ffurflen flynyddol arall ar y dyddiad dyledus gwreiddiol?
Bydd modd i’r cwmni adfer ei gylch unrhyw adeg ond bydd unrhyw ffurflen flynyddol a gyflwynir cyn 1 Hydref 2008 yn gorfod bodloni’r gofynion cyfredol. I gwmni sydd â chyfalaf cyfrannau, mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid iddo gynnwys enw a chyfeiriad pob aelod (neu bawb a roes heibio i aelodaeth neu a ddechreuodd aelodaeth ers y ffurflen flynyddol ddiwethaf).

Newidiadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig i gysoni’r cynnwys o ran cyfrifon â’r rheoliadau cwmni.

Gwneir rheoliadau newydd ar gyfer Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig, yn cymhwyso rhannau 15, 16 a 42 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Bydd hefyd reoliadau ar wahân ynglŷn â ffurf a chynnwys cyfrifon, yn gyson â rheoliadau’r Ddeddf Cwmnïau. Daw’r rhain i rym ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu wedi 1 Hydref 2008.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)870 33 33 636  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies