Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009
Deddf Cwmnïau |
|||||||||||||||||
|
Gorolwg Cafodd y broses o weithredu Deddf Cwmnïau 2006 ei chwblhau ar 1 Hydref 2009. Mae’r gwaith wedi bod yn ymestynnol dros ben i Dŷ’r Cwmnïau oherwydd maint y project, a bu pwysau arbennig ar rai meysydd gwaith. Y prif achos pryder oedd ymgorffori cwmnïau. Achoswyd tagfeydd ac oedi gan y gofynion ymgorffori newydd, ynghyd â’r materion technegol cysylltiedig. Hoffem ddiolch i’r cwsmeriaid cofrestru a fu’n gweithio gyda ni er mwyn sicrhau bod yr holl faterion yn cael eu nodi, eu trafod a’u datrys cyn gynted â phosibl wrth i ni gynyddu’r adnodd prosesu’n sylweddol a symleiddio’r prosesau. Rydyn ni’n parhau i weithio gyda’n cwsmeriaid i ddod o hyd i atebion i’r materion sydd heb eu datrys, ac rydyn ni’n cymryd camau i liniaru unrhyw broblemau sy’n codi ar unwaith. Ar nodyn positif, bu gwasanaethau ar-lein Tŷ’r Cwmnïau yn weithredol trwy gydol y broses ac eleni, proseswyd y nifer fwyaf o drafodion, dros ¾ miliwn ohonynt, ym mis Hydref. Yn ogystal, agorodd Tŷ’r Cwmnïau ar gyfer busnes yn ninas Belffast, lle mae’r swyddfa (Cofrestrfa Cwmnïau Gogledd Iwerddon gynt), bellach yn hollol integredig. Nod y tudalennau gwe yma yw rhoi gwybod i chi am faterion o gylch y system, polisi ac archwilio a rhoi’r newyddion diweddaraf i chi am gynnydd o ran datrys y rhain. Diweddarwyd y wybodaeth hon ar 25/01/2010
|
|||||||||||||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|