Gyrfaoedd |
||||
|
|
Aelod Anweithredol o’r Bwrdd Llywio Mae Tŷ’r Cwmnïau yn chwilio am aelod anweithredol i’w Fwrdd Llywio i gymryd lle aelod cyfredol y daw ei gontract i ben ar ddiwedd y flwyddyn hon. Mae’r Bwrdd Llywio yn grŵp ymgynghorol sy’n cwrdd bedair gwaith y flwyddyn i gynnig cyngor i’r Bwrdd Gweithredol. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn Asiantaeth a Chronfa Fasnachu lwyddiannus sydd â dyfodol cyffrous. Mae gwasanaeth penigamp i’r cwsmer yn bennaf nod gennym wrth inni droi’n e-fusnes modern. Rydym yn symud ymlaen o fod yn gorff sy’n prosesu swrn anferth o bapur i un sy’n canoli ar gyfnewid data’n electronig. Ein trosiant busnes yw ychydig dros £69m y flwyddyn ac mae gennym 2.7 miliwn o gwmnïau ar y gofrestr. Byddwn yn cyfrannu at y polisïau a gaiff eu llunio gan BERR, yn enwedig gwell rheoleiddio a’r gyfraith gwmnïau. Mae’r Bwrdd Llywio yn rhan bwysig o’n trefniadau llywodraethu, gydag aelodau anweithredol yn darparu her a chefnogaeth i gyflawniad gwasanaeth yr Asiantaeth, i’w pherfformiad, ei chyfeiriad strategol, ei chynlluniau corfforaethol a’i thargedau. Bydd y Bwrdd Llywio hefyd yn cynnig canllawiau a chyngor o safbwynt corfforaethol neu fusnes i’r Prif Weithredydd a’i dîm o uwch-swyddogion ar weithrediad a datblygiad yr Asiantaeth. Bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddangos bod ganddo/ganddi brofiad cryf ar lefel fwrdd mewn corff arwyddocaol ym maes cyflwyno gwasanaeth; ymwybyddiaeth dda o anghenion y cwsmer a hanes sicr o wireddu gwasanaeth; profiad o reoli ac arwain pobl drwy newid sylweddol; dealltwriaeth ragorol o bob mater sy’n ymwneud â phobl mewn amgylchedd yn perthyn i’r sector gwasanaethu; cynefindra â meithrin ymagweddau a strategaethau Adnoddau Dynol; dealltwriaeth o’r sector cyhoeddus; ac, yn ddelfrydol, dealltwriaeth o’r sector masnachol a wasanaethir gan Dŷ’r Cwmnïau. Cyfnod penodedig o 3 blynedd sydd i’r swydd hon, ar sail ymrwymiad amser o naw diwrnod y flwyddyn (pum cyfarfod – yn cynnwys diwrnod i ffwrdd yn yr haf – a gwaith paratoi), gan ddechrau o 1 Ionawr 2009. Cynhelir cyfarfodydd yng Nghymru, Llundain, yr Alban a Gogledd Iwerddon a thelir treuliau rhesymol. Mae posibilrwydd y caiff y sawl a benodir ei (g)wahodd i ymuno â’r Pwyllgor Archwilio Ariannol. Byddai hyn yn gofyn ymrwymiad amser pellach o chwe diwrnod (pedwar cyfarfod a gwaith paratoi). Y gydnabyddiaeth yw £4,800 y flwyddyn ond mae hyn dan adolygiad.I wneud cais Dylai ceisiadau gynnwys CV cyfredol a llythyr eglurhaol yn dangos sut yr ydych yn cwrdd â’r fanyleb bersonol a beth y credwch y gallech ei gyfrannu at y rôl. Dylai ceisiadau a phob rhyw alw am wybodaeth bellach gael eu cyfeirio at Adnoddau Dynol, Tŷ’r Cwmnïau, Llawr Cyntaf, Ffordd y Goron, Caerdydd, CF14 3UZ. Fel arall gallwch e-bostio hrrecruitment@companieshouse.gov.uk Rhif teleffon 02920 380 278 gan ddyfynnu’r cyfeirnod SR/08/32 Dyddiad cau: 5 Awst 2008 Fe welwch ein bod wedi cynnwys amrywiaeth o fanylion cefndir am Dŷ’r Cwmnïau a’r heriau sydd o’n blaenau er gwybodaeth ichi.Adroddiad Blynddol a Chyfrifion 2006-2007 Cyfeiriad Strategol i Tŷ'r Cwmnïau am 2010. Cliciwch yma i weld patrymlun y wefan ar gyfer Swyddi Gwag ym maes Penodiadau Cyhoeddus |
|||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|