Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni


Cyflenwi Tŷ’r Cwmnïau

Bob blwyddyn, gwariwn fwy na £25 miliwn ar nwyddau a gwasanaethau wedi eu cyflenwi gan eraill. Mae’r rhain yn amrywio o gynhyrchion beunyddiol fel eitemau ysgrifennu i offer a gwasanaethau technegol iawn.

Sut y detholwn gyflenwyr

Byddwn yn prynu llawer o’n nwyddau a’n gwasanaethau gan gwmnïau sydd wedi ennill cymhwyster ymlaen llaw fel rhai addas i’n cyflenwi.

I ennill cymhwyster felly, mae’n rhaid ichi allu bodloni’n meini prawf sylfaenol:
  • Rhaid ichi dderbyn cyfraith Lloegr fel cyfraith lywodraethol ar gyfer unrhyw gontract, a derbyn awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr.
  • Rhaid ichi dderbyn amodau contract Tŷ’r Cwmnïau.
  • Rhaid i’ch cwmni fod â datganiad polisi yn ymwneud ag agweddau amgylcheddol ac agweddau iechyd a diogelwch eich gweithgareddau, a hwnnw’n bodloni gofynion deddfwriaethol cyfredol.
  • Rhaid bod eich cwmni heb ei gollfarnu am dramgwyddau’n ymwneud â thwyll, llygredd nac anufuddhau arall o bwys o dan y Ddeddf Cwmnïau.
Hwyrach hefyd y bydd yn rhaid ichi gwrdd â meini prawf ychwanegol, gan ddibynnu ar y nwyddau neu wasanaethau penodol sydd angen arnom. Gallai’r rhain gynnwys:
  • manylion eich sefyllfa ariannol
  • gallu technegol
  • hanes cywiro’r addewid
  • eich trefn sicrhau ansawdd
  • eich cyflawniad o ran diogelwch
  • eich cyflawniad amgylcheddol
  • gallu cynhyrchu.
Mae’n bosibl hefyd y byddwn am archwilio’ch cyfleusterau, gweld samplau o’ch gwaith a sicrhau geirda gan eich cwsmeriaid. Caiff pob rhyw wybodaeth a roddwch inni ei thrin yn gwbl gyfrinachol.

Y broses gaffael

Mae gennym ein hadran gaffael bwrpasol ei hun sy’n ceisio dilyn y dulliau contractio mwyaf effeithiol ar gyfer ein hanghenion.
  • Ar gyfer pryniannau syml o werth isel, bydd yn defnyddio trefn ddyfynbris ac yn rhoi i’r busnes archeb swyddogol neu gerdyn Caffaeliad y Llywodraeth os yw gwerth yr archeb yn llai na £1000.

  • Ar gyfer gwaith mwy cymhleth neu o werth uwch, defnyddiwn broses dendro ffurfiol. O dan hon, fe gaiff tendrau eu pwyso a’u mesur drwy bennu’r cynnig sydd fwyaf manteisiol mewn termau ariannol, ar ôl ystyried ffactorau fel cost, ansawdd, trefniadau cyflwyno ac ardrawiad ar yr amgylchedd.
Ein nod yw talu anfonebau pawb o’n cyflenwyr o fewn 30 diwrnod ac ar gyfer pryniannau o werth is fe ddefnyddiwn gardiau codi tâl sydd fel arfer yn sicrhau taliad o fewn 3 diwrnod gwaith.

Mae’n holl staff wedi eu rhwymo gan god ymarfer proffesiynol caeth. Yn fwyaf arbennig, ni fyddant yn derbyn rhoddion na lletygarwch dibrin. Cadwn gyfrinachedd masnachol bob adeg, a byddwn yn gweithredu’n ddiduedd a theg yn ein holl drafodion.

Eich Contactau Caffael yw:

Sara Ball, Rheolwraig Gaffael
Sball@companieshouse.gov.uk
029 2038 0313

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies