|
 |
Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)
Hydref 2008 - Fersiwn 20
Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmniau 2006
Rhaid bod yn ymwybodol o'r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn:
Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym. Gan hynny, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol. Rydym wedi ceisio gwneud yn glir drwy'r holl nodiadau hyn, gymaint â phosib, pa Ddeddf sy'n berthnasol. Os hoffech chi wybod pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym, ymwelwch â'n gwefan www.companieshouse.gov.uk Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006 lle gallwch chi weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai darpariaethau yn y Ddeddf newydd yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosib, eglurwn hyn yn y canllaw hwn a rhown fanylion ar ein gwefan.
Mae holl ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 sy'n ymwneud ag enwau cwmni a busnes i ddod i rym ar 1 Hydref 2009. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithrediadau hynny ar y pryd. Efallai yr hoffech chi gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i'r broses o weithredu barhau, er mwyn ichi gael mynediad at y newyddion diweddaraf.
Tan fis Hydref 2009, mae'r nodiadau canllaw hyn yn gymwys yn unig i gwmnïau wedi eu ffurfio ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban). Bwriedir wedyn i'r system ar wahân ar gyfer Gogledd Iwerddon ymdoddi i system gyfunol ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd.
Cynnwys
- Deddf Cwmnïau 1985
- Deddf Cwmnïau 2006
- Gorchymyn Deddf Cwmnïau 2006 (Dechreuad Rhif 6, Gorchymyn Arbedion a Dechreuadau Rhif 3 a Rhif 5 (Diwygiad)) 2008 – OS 2008/674
- Rheoliadau Cwmnïau (Datgeliadau Masnachu) 2008 – OS 2008/495
Brig
Cyflwyniad
Mae'r canllaw hwn yn egluro:
- y rheolau a'r cyfyngiadau o ran dewis enwau cwmni sy'n gymwys wrth sefydlu'r cwmni ac wrth newid enw;
- pryd na fydd Tŷ'r Cwmnïau'n cofrestru enw cwmni a phryd y bydd angen cyfiawnhau defnyddio geiriau neu ymadroddion sensitif neu angen cymeradwyaeth flaenorol awdurdod cydnabyddedig;
- pryd y gallwch chi wrthwynebu cofrestru enw cwmni arbennig;
- beth i'w wneud os bydd rhywun yn gwrthwynebu enw'ch cwmni;
- beth i'w wneud os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio yn eich cyfarwyddo i newid enw'r cwmni; a
- sut i newid enw cwmni, ond nid sut i ffurfio cwmni newydd – sydd wedi ei egluro yn ein canllaw 'Ffurfio Cwmnïau' yn www.companieshouse.gov.uk
Bydd y canllaw hwn hefyd o fudd i bartneriaethau heb eu corffori ac unig fasnachwyr sy'n defnyddio enw busnes, i gwmnïau a gafodd eu corffori dramor ond sydd â changen neu le busnes ym Mhrydain Fawr, i gwmnïau buddsoddi penagored, grwpiadau buddiannau economaidd Ewropeaidd a phartneriaethau cyfyngedig.
Fe welwch chi'r gyfraith berthnasol yn Neddf Cwmnïau 1985 (fel y cafodd ei diwygio ym 1989 ac wedyn) ac yn y Rheoliadau Enwau Cwmni a Busnes (fel y cawsant eu diwygio). Gyda golwg ar gymdeithasau cyfunddaliad a chwmnïau hawl i reoli, mae cyfyngiadau pellach wedi eu cynnwys yn Rheoliadau Cyfunddaliad 2004, Rheoliadau (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad) Cwmnïau Hawl i Reoli (Cymru) 2004, a Rheoliadau (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad) Cwmnïau Hawl i Reoli (Lloegr) 2003.
Gyda golwg ar gwmnïau buddiant cymunedol (cwmnïau BC), mae cyfraith berthnasol Deddf Cwmnïau (Archwilio Ariannol, Ymchwiliadau a Menter Gymunedol) 2004 wedi ei chyfeirnodi ar y wefan BC yn www.cicregulator.gov.uk.
Brig
Pennod 1
Dewis enw cwmni
1. Alla i ddewis unrhyw enw a fynna i i'm cwmni?
Na allwch. Gall sawl rheoliad effeithio ar eich dewis. Er enghraifft, rhaid i bob enw cwmni ddiweddu, lle bo angen, â dangosydd statudol penodedig, megis 'Cyfyngedig', 'Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus' neu 'Cwmni Buddiant Cymunedol', gan ddibynnu ar ofynion y ddeddfwriaeth. Gellir defnyddio dangosyddion Cymraeg neu Saesneg, neu eu talfyriadau. Caiff rhai cwmnïau preifat wneud cais am gael eu heithrio rhag defnyddio 'cyfyngedig' yn eu henw - gweler Pennod 4 am ragor o fanylion. Nid yw'n ofynnol i gwmnïau anghyfyngedig gynnwys 'anghyfyngedig' ar ddiwedd eu teitl ond fe gânt wneud os dymunant ddangos eu statws.
Rhaid i enw pob cwmni sy'n gymdeithas gyfunddaliad ddiweddu yn 'Cymdeithas Gyfunddaliad Gyfyngedig' neu'r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg. Rhaid i enw pob cwmni hawl i reoli ddiweddu yn 'Cwmni Hawl i Reoli Cyfyngedig' neu'r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg.
Rhaid i bob cwmni sy'n gwmni buddiant cymunedol (cwmnïau BC) fod ag enw sy'n diweddu â'r geiriau 'Cwmni Buddiant Cymunedol ', 'Cwmni Buddiant Cymunedol Cyfyngedig Cyhoeddus' neu'r talfyriadau perthnasol neu'r Saesneg cyfatebol.
2. A allai Tŷ'r Cwmnïau wrthod yr enw a ddewisais i?
Gallai, os yw'r enw:
- 'yr un fath' ag enw sydd eisoes ar y mynegai - gweler pennod 3;
- yn cynnwys y geiriau 'Cyfyngedig', 'Anghyfyngedig', 'Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus' neu 'Cwmni Buddiant Cymunedol' unrhyw le arall ond ar ddiwedd yr enw. Mae hyn yr un mor wir am dalfyriadau neu fersiynau Saesneg y geiriau;
- yn diweddu mewn 'Cymdeithas Gyfunddaliad Gyfyngedig' neu'r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg (oni bai bod y cwmni yn gymdeithas gyfunddaliad);
- yn diweddu mewn 'Cwmni Buddiant Cymunedol' neu 'Cwmni Buddiant Cymunedol Cyfyngedig Cyhoeddus', (neu'r talfyriadau perthnasol neu'r Saesneg cyfatebol), oni bai bod y cwmni yn gwmni buddiant cymunedol;
- yn diweddu mewn 'Cwmni Hawl i Reoli' neu 'Cwmni Cyfyngedig Hawl i Reoli', neu'r fersiynau Saesneg, oni bai bod y cwmni yn gwmni hawl i reoli;
- yn diweddu mewn 'PAC', oni bai bod y corff yn bartneriaeth PAC;
- yn sarhaus;
- yn un y byddai ei ddefnyddio'n dramgwydd troseddol;
- os yw'n cynnwys unrhyw le o'i fewn unrhyw un o'r canlynol (oni bai bod y cwmni yn un o'r mathau hyn):
- 'Cwmni Buddsoddi gyda Chyfalaf Amrywiol' (neu'r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg);
- 'Cwmni Buddsoddi Penagored' (neu'r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg);
- 'Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig' (neu'r ymadrodd gyfatebol yn Saesneg);
- y talfyriad 'SE' (neu SE rhwng cromfachau neu gydag atalnodi arall cyn neu ar ôl y talfyriad). Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw 'The European Company: Societas Europaea (SE)' yn www.companieshouse.gov.uk
Yn ogystal, mae eisiau cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i rai enwau cyn bod modd eu cofrestru. Ymhlith y rhain mae enwau sy'n cynnwys geiriau a gafodd eu pennu o dan y rheoliadau (gweler cwestiwn 4 isod) ac enwau sy'n awgrymu cysylltiad â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu lywodraeth leol.
Cyn gwneud cais am ffurfio cwmni, neu cyn newid ei enw, gofalwch chwilio'r Mynegai Enwau Cwmni yn www.companieshouse.gov.uk er mwyn cael gweld a oes cwmnïau sy'n bod yn barod o dan enw tebyg i'r un y dymunwch chi ei gofrestru. Os byddwch yn ansicr ynglŷn â'r enw a ddewiswyd gennych, ffoniwch ni ar 0303 123 4500.
3. Beth yw ystyr 'yr un fath'?
Wrth benderfynu a yw enw 'yr un fath' ag enw arall, bydd y Cofrestrydd yn anwybyddu atalnodi, statws y cwmni, 'Y/Yr' ar ddechrau'r enw a geiriau fel 'Cwmni' neu 'a'r Cwmni'.
Er enghraifft, os yw'r enw 'Diacen Cyfyngedig' wedi ei gofrestru'n barod, byddid yn gwrthod yr enwau canlynol:
- Diacen Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (neu CCC);
- D ac N Cyfyngedig (neu Cyf);
- D ac N Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (neu CCC);
- D & N Cyfyngedig (neu Cyf); a hefyd
- unrhyw un o'r uchod, gyda'r geiriau 'Cwmni' neu 'a'r Cwmni' wedi eu hychwanegu.
Bydd enw sy'n swnio'r un fath ag un sydd eisoes ar y Mynegai Enwau Cwmni yn cael ei dderbyn os yw'r ddau enw wedi eu sillafu'n wahanol. Ond, er y gall enw fod yn ddigon wahanol i un sy'n bod yn barod i ganiatáu ei gofrestru, gallai hyn arwain at wrthwynebiad a chyfarwyddyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i newid enw'r cwmni – gweler Pennod 5.
Dylech fod yn ymwybodol hefyd, os mabwysiadwch enw sy'n camarwain y cyhoedd i gredu bod eich busnes chi yn dilyn yr un gweithgarwch â busnes arall – er enghraifft, masnachu'n siop adrannol o dan yr enw 'Harrods' – yna fe allai'r person y gwnaethoch gamgynrychioli ei fusnes/busnes ddwyn achos yn eich erbyn am 'ymhonni'. Nid yw cofrestru enw gyda Thŷ'r Cwmnïau yn golygu bod modd i'r cwmni osgoi gweithrediadau posib am ymhonni.
At hyn, i osgoi achos cyfreithiol posib yng nghyswllt cofrestru nod masnach dylech chi wneud yn siŵr nad yw'r enw y bwriadwch ei gofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau yr un fath â nod masnach sy'n bod yn barod neu'n debyg iddo. Cyn cofrestru enw yn Nhŷ'r Cwmnïau, fe'ch cynghorir i wirio Cofrestr Nodau Masnach Swyddfa Eiddo Deallusol y DG yn www.ipo.gov.uk Gallwch chi hefyd gysylltu â nhw dros y ffôn ar 08459 500 505 neu drwy e-bostio enquiries@ipo.gov.uk.
Gallwch chi hefyd ymgynghori â thwrnai nodau masnach drwy gysylltu â Sefydliad y Twrneiod Nodau Masnach ar 020 8686 2052 neu ymweld ag www.itma.org.uk/intro/index.htm At hyn, mae modd ceisio cyngor cyfreithiwr.
Hyd yn oed os na fydd Tŷ'r Cwmnïau'n gwrthwynebu'ch enw ar y sail ei fod yn "rhy debyg", ni fydd hynny yn amddiffyniad ichi yn erbyn unrhyw hawliad yn nes ymlaen yng nghyswllt tor-nod masnach neu ymhonni. Arnoch chi y bydd y cyfrifoldeb i gadarnhau bod yr enw yn rhydd i'w ddefnyddio.
Mae cofrestru o dan y Ddeddf Cwmnïau yn atal unrhyw un rhag cofrestru enw sydd yr un fath ag enw arall ar y gofrestr. Ond nid yw'n atal cwmni neu fusnes heb ei gorffori, megis unig fasnachwr neu bartneriaeth, rhag defnyddio'r un enw hwnnw fel enw busnes neu enw masnachu, er bod enw busnes neu enw masnachu'n agored o hyd i weithrediadau posib am ymhonni neu dor-nod masnach fel y disgrifiwyd uchod.
O 1 Hydref 2008 ymlaen, bydd Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno darpariaethau newydd sy'n caniatáu i unrhyw berson neu gwmni wrthwynebu enw cwmni ar sail "cofrestru manteisgar" os yw'r enw:
- yr un fath ag enw sy'n gysylltiedig â'r achwynydd ac y mae ganddo/ganddi ewyllys da ynddo; neu
- mor gyffelyb fel y byddai ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig yn debygol o gamarwain drwy awgrymu cysylltiad rhwng y cwmni a'r achwynydd.
Sylwer: ni all Tŷ'r Cwmnïau drin unrhyw gwynion ynglŷn â chofrestru manteisgar. Dylai gwrthwynebiadau ac ymholiadau gael eu cyfeirio at y "Tribiwnlys Enwau Cwmni" (a elwir hefyd "y Dyfarnydd") sy'n cael ei weithredu a'i weinyddu gan Swyddfa Eiddo Deallusol y DG. Mae gwybodaeth bellach i'w chael yn www.ipo.gov.uk/cna.
4. Pa enwau sydd angen cymeradwyaeth?
Yr enwau sydd angen cymeradwyaeth yw'r rhai sy'n cynnwys geiriau neu ymadroddion a nodir o dan reoliadau statudol ac enwau sy'n rhoi'r argraff bod y cwmni'n gysylltiedig â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu ag awdurdod lleol.
Mae gwybodaeth bellach am eiriau sensitif wedi ei rhoi ym Mhennod 3 ac mae rhestr o eiriau 'sensitif' a mannau cyswllt i geisio gwybodaeth ategol i'w gweld yn Atodiadau A, B ac C.
Sylwer y bydd Tŷ'r Cwmnïau yn cofrestru enwau cwmni sy'n cynnwys y geiriau 'bank', 'banking' neu 'deposit'. Ond os yw cwmni sy'n mabwysiadu un neu ragor o'r geiriau hyn yn ei enw yn dilyn gweithgarwch bancio ac yn derbyn adneuon, bydd arno angen awdurdodiad yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA). Cyfeiriwch at eu gwefan www.fsa.gov.uk am wybodaeth bellach a manylion cyswllt. Os byddwch yn ansicr ynglŷn â defnyddio un o'r geiriau hyn neu am y gweithgarwch busnes arfaethedig, cysylltwch â'r FSA neu ceisiwch gyngor proffesiynol annibynnol.
5. Beth os oes eisiau cymeradwyaeth i'r enw a ddewisais?
Os dewiswch chi enw sy'n cynnwys unrhyw un o'r geiriau a restrir yn Atodiad A, bydd angen ichi gyflenwi gwybodaeth ategol a fydd yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gymeradwyo'r enw cyn ei gofrestru.
Os dewiswch chi enw sy'n cynnwys unrhyw un o'r geiriau a restrir yn Atodiad B, bydd angen ichi ysgrifennu at y 'corff perthnasol' i ofyn a oes ganddynt wrthwynebiad i'r enw arfaethedig. Rhaid anfon copi o'r ateb i Dŷ'r Cwmnïau.
Mae deddfwriaeth arall yn rhychwantu'r geiriau a'r ymadroddion sydd wedi eu cynnwys yn Atodiad C a gallai unrhyw ddefnyddio amhriodol ar eiriau o'r fath mewn enw cwmni fod yn dramgwydd troseddol. Os dymunwch chi gynnwys un o'r enwau neu'r ymadroddion hyn yn enw'ch cwmni, yna dylech gysylltu â'r awdurdod rheoleiddio perthnasol neu geisio cyngor gennym ni.
Fe welwch chi fanylion y geiriau sensitif ar ein gwefan yn www.companieshouse.gov.uk Os byddwch yn ansicr ynglŷn â defnyddio gair penodol mewn enw, gallwch hefyd gysylltu â ni ar 0303 123 4500.
6. Sut dylwn i gofrestru enw fy nghwmni?
Os nad yw'r enw a ddewiswyd gennych chi eisoes ar y Mynegai Enwau Cwmni ac nad yw'n cynnwys gair sydd eisiau cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol, dylech anfon eich dogfennau corffori neu newid enw at y Cofrestrydd yn Nhŷ'r Cwmnïau, Caerdydd (ar gyfer cwmnïau wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr) neu at y Cofrestrydd yn Nhŷ'r Cwmnïau, Caeredin (ar gyfer cwmnïau wedi eu cofrestru yn yr Alban).
Os yw'ch dogfennau'n gywir, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn cofrestru enw'r cwmni neu'r newid enw ac yn rhoi tystysgrif gorffori neu dystysgrif newid enw.
Mae rhagor o wybodaeth am gorffori cwmnïau i'w chael yn ein canllaw 'Ffurfio Cwmnïau' yn www.companieshouse.gov.uk
Brig
Pennod 2
Newid enw cwmni a newid statws
1. Oes unrhyw gyfyngiadau ar yr enw newydd y caiff cwmni ei ddewis?
Oes. Mae'r rhain yr un fath â'r cyfyngiadau sy'n gymwys i gwmni newydd sy'n ceisio cofrestriad, fel y disgrifiwyd ym Mhennod 1. Os dewiswch chi enw annerbyniol, ni fyddwn yn ei gofrestru.
Gan ddibynnu ar y cyfyngiadau sydd wedi eu gosod yn y canllaw hwn, caiff enwau 'rhy debyg, ond nid rhai 'yr un fath', eu derbyn i'w cofrestru. Ond os bydd y tebygrwydd, ar ôl cofrestru, yn arwain at wrthwynebiad am fod yr enw yn 'rhy debyg' i un a gafodd ei gofrestru'n gynharach, gall yr Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo'ch cwmni i newid ei enw. Am wybodaeth ynghylch pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, gweler Pennod 5.
2. Beth yw newid enw?
Bydd newid enw yn digwydd wrth i gwmni benderfynu mabwysiadu enw sy'n wahanol i'w enw cofrestredig presennol. Er enghraifft, cwmni'n newid ei enw o J Jones Cyfyngedig i John Jones Cyfyngedig.
Nid yw newid enw yn digwydd wrth i gwmni benderfynu newid ei statws, megis o gwmni cyhoeddus i gwmni cyfyngedig preifat. Er enghraifft, J Jones Cyfyngedig i J Jones CCC. Ailgofrestru y gelwir y math hwn o newid ac ni ddylid ei gymysgu â newid enw safonol.
Nid oes newid enw chwaith os bydd cwmni'n dilyn busnes o dan enw nad yw yr un fath â'i enw cofrestredig. Ond mae'n rhaid i'r cwmni gynnwys ei enw cofrestredig ar ddogfennau, gwefannau ac arwyddion yn ei eiddo (gweler Pennod 7).
Mae rhagor o wybodaeth am newid statws cwmni i'w chael yn ein canllaw 'Ffurfio Cwmnïau' yn www.companieshouse.gov.uk
3.Sut newidir yr enw?
Rhaid i'r cwmni fabwysiadu penderfyniad arbennig mewn cyfarfod, neu fe all yr aelodau (gan gynrychioli nid llai na 75% o'r holl hawliau pleidleisio mewn cysylltiad â chyfrannau cymwys) gytuno i newid yr enw drwy benderfyniad ysgrifenedig. Mae gwybodaeth bellach am benderfyniadau i'w chael yn ein canllaw 'Penderfyniadau' (Deddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddf Cwmnïau 2006) yn www.companieshouse.gov.uk.
Dylid anfon copi llofnodedig o'r penderfyniad sy'n cynnwys yr enw newydd at y Cofrestrydd, ynghyd â'r ffi (ar hyn o bryd £10).
Rhaid amgáu copi o'r memorandwm ac erthyglau diwygiedig gyda'r penderfyniad newid enw. Os bydd yr enw newydd a'r dogfennau'n dderbyniol, bydd Tŷ'r Cwmnïau'n prosesu'r penderfyniad ac yn rhoi Tystysgrif Corffori wrth Newid Enw. Sylwer na fydd enw'r cwmni'n newid nes i Dŷ'r Cwmnïau roi'r dystysgrif newydd.
Gall cwmni hefyd ffeilio penderfyniad amodol yn dweud y bydd y cwmni'n newid ei enw os bodlonir amodau penodol. Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n cofrestru'r penderfyniad amodol ond ni fydd yn newid enw'r cwmni nac yn rhoi tystysgrif nes cael cadarnhad ysgrifenedig bod yr amodau wedi eu bodloni.
4. Pa mor hir y bydd hyn yn ei gymryd?
Os yw'r holl ddogfennau'n gywir, bydd Tŷ'r Cwmnïau fel arfer yn prosesu'r newid enw o fewn pum diwrnod gwaith i'w dderbyn.
Gallwch chi hefyd fanteisio ar ein gwasanaeth 'Yr Un Diwrnod' (ffi ar hyn o bryd £50). Os cawn y penderfyniad cyn 3pm (dydd Llun-dydd Gwener) a'n bod yn cymeradwyo'r enw a'r dogfennau, byddwn yn rhoi tystysgrif newid enw y diwrnod hwnnw. Mae'r gwasanaeth ar gael gan unrhyw un o swyddfeydd Tŷ'r Cwmnïau, er na allwn roi'r gwasanaeth ar hyn o bryd i gwmnïau buddiant cymunedol.
Os anfonwch eich dogfennau 'Yr Un Diwrnod' drwy'r post neu yn llaw negesydd, gofalwch farcio 'Newid Enw yr Un Diwrnod' ac 'I sylw'r Adran Cwmnïau Newydd' yn glir ar du allan yr amlen.
5. Oes modd cofrestru'r newid enw a'r newid statws gyda'i gilydd?
Oes. Cewch gyfuno penderfyniad i newid yr enw a phenderfyniad i newid y statws – er enghraifft, penderfynu newid yr enw o ABC Cyfyngedig i XYZ CCC.
Gall cwmni hefyd newid o CCC i gwmni cyfyngedig preifat, ond dim ond os yw mwyafrif aelodau'r cwmni wedi cymeradywo'r newid y bydd hyn yn bosib. Mae gwybodaeth bellach am ailgofrestru i'w chael ym Mhennod 4 o'n canllaw 'Ffurfio Cwmnïau' yn www.companieshouse.gov.uk.
Rhaid i'r holl ddogfennau sy'n angenrheidiol i newid enw a newid statws cwmni gael eu ffeilio yr un pryd wrth gyflwyno'r ffi newid enw (£10) a'r ffi newid statws (£20). Y ffi gyfun ar gyfer cais 'Yr Un Diwrnod' yw £100.
Brig
Pennod 3
Geiriau ac ymadroddion sensitif
Mae'r bennod hon yn gosod yr amodau y bydd angen i gwmni eu bodloni os yw'n dymuno defnyddio un o'r geiriau sydd wedi eu rhestru yn Atodiadau A a B. Mae'r geiriau sy'n dod o dan ddeddfwriaeth arall ac a allai effeithio ar ddewis enw cwmni wedi eu gosod yn Atodiad C.
1. Beth yw 'geiriau ac ymadroddion sensitif'?
Mae'r rhain yn eiriau ac ymadroddion a all, o'u cynnwys mewn enw cwmni, awgrymu blaenoriaeth fusnes, statws neilltuol neu swyddogaeth benodol. Am y rheswm hwn, cawsant eu pennu o dan y rheoliadau fel rhai sy'n gofyn cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol. Y nod yw sicrhau bod cyfiawnhad dros y gair fel na chaiff y cyhoedd mo'i gamarwain. Caiff ceisiadau am gymeradwyaeth i eiriau ac ymadroddion o'r fath eu hystyried gan Dŷ'r Cwmnïau ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol.
2. Pa fath o eiriau ac ymadroddion sy'n sensitif?
Mae'r geiriau canlynol yn awgrymu blaenoriaeth genedlaethol neu ryngwladol:
- British - fel arfer, byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn disgwyl i'r cwmni fod o dan berchnogaeth Brydeinig. Byddai angen ichi ddangos bod y cwmni'n amlwg yn ei faes drwy ddarparu tystiolaeth ategol gan ffynhonnell annibynnol megis adran o'r Llywodraeth, cymdeithas fasnach neu gorff cynrychioli arall.
Mae lefel y flaenoriaeth mewn enw sy'n cynnwys 'British' yn dibynnu ar ardrawiad geiriau eraill yn yr enw. Fel arfer, caiff y flaenoriaeth ei gostwng os nad yw'r enw yn ei grynswth yn disgrifio cynnyrch, ond byddai'n rhaid o hyd ichi ddangos bod eich cwmni'n amlwg ym maes ei weithgarwch hyd yn oed os nad oedd hwnnw wedi ei ddisgrifio yn enw'r cwmni.
- National - mae'r meini prawf ar gyfer defnyddio'r gair hwn yr un fath ag ar gyfer 'British'.
- England, English, Scotland, Scottish, Wales, Welsh, Ireland neu Irish - lle bo un o'r geiriau hyn yn ymddangos unrhyw le yn yr enw ond ar y diwedd, mae'r gofynion yn debyg i'r rhai ar gyfer 'British'.
Fel arfer, fe gewch chi gymeradwyaeth i ddefnyddio unrhyw un o'r geiriau hyn ar ddiwedd yr enw os gallwch ddangos fod prif leoliad busnes y cwmni yn y wlad dan sylw. Os dymunwch ddefnyddio un o'r geiriau hyn am ei fod yn gyfenw, fe roir cymeradwyaeth ichi fel arfer ar yr amod bod enw'r cwmni'n cynnwys enwau cyntaf neu flaenlythrennau.
- Great Britain neu United Kingdom - os dymunwch ddefnyddio'r ymadroddion hyn ar ddechrau'r enw, neu os bwriadwch ddefnyddio 'of Great Britain' neu 'of the United Kingdom' ar y diwedd, yna mae'r gofynion yn debyg i'r rhai ar gyfer 'British'. Mae fel arfer yn dderbyniol i ddefnyddio 'Great Britain' neu 'United Kingdom' ar ddiwedd yr enw. Nid oes eisiau cymeradwyaeth fel arfer i ddefnyddio'r blaenlythrennau 'GB' neu 'UK' yn enw'ch cwmni.
- European - ni chymeradwywn enwau sy'n cynnwys y gair hwn os awgrymant, yn ddigyfiawnhad, gyswllt â chyrff swyddogol yr Undeb Ewropeaidd. Os oes cyswllt go iawn â chorff swyddogol, fe allwn ganiatáu'r enw lle bo'r corff perthnasol yn cefnogi'r cais yn ysgrifenedig.
- International - os dymunwch ddefnyddio'r gair hwn ar ddechrau'r enw, bydd angen ichi ddangos bod masnachu tramor yn cyfrif am ran helaeth o weithgareddau'r cwmni. Os dymunwch ei ddefnyddio ar ei ôl, yna fe rown gymeradwyaeth fel arfer ar yr amod y gallwch chi ddangos bod y cwmni'n gweithredu mewn dwy neu ragor o wledydd tramor.
Mae'r geiriau canlynol yn awgrymu blaenoriaeth fusnes neu statws cynrychioliadol neu awdurdodol:
- association, federation neu society - os dymunwch chi ddefnyddio un o'r geiriau hyn, byddai'ch cwmni fel arfer wedi ei gyfyngu drwy warant. Dylai pob aelod fod ag un bleidlais a dylai'r cyfansoddiad gynnwys cymal dim-dosbarthu-elw. Mae hyn yn darparu bod unrhyw elw yn cael ei ddefnyddio i hybu amcanion y cwmni ac nid yn cael ei dalu i'r aelodau ar ffurf buddrannau.
- authority, board neu council - os dymunwch ddefnyddio unrhyw un o'r geiriau hyn, dylech geisio cyngor gennym ni. Os yw'r cwmni i gael ei gofrestru yn yr Alban, cysylltwch â Thŷ'r Cwmnïau yng Nghaeredin.
- institute neu institution - dim ond i'r cyrff hynny sy'n gwneud gwaith ymchwil ar y lefel uchaf neu i gyrff proffesiynol o'r rheng flaen y rhown gymeradwyaeth i ddefnyddio'r geiriau hyn fel arfer. Bydd eisiau ichi ddangos inni fod angen y sefydliad a arfaethir a bod ganddo reoliadau priodol neu safonau archwilio. Bydd eisiau ichi sicrhau tystiolaeth o gefnogaeth cyrff cynrychioliadol ac annibynnol eraill.
- government - dim ond os yw Tŷ'r Cwmnïau'n fodlon nad oes cyswllt swyddogol â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu unrhyw ran o weinyddiaeth yr Alban neu Gymru, neu unrhyw lywodraeth dramor, y rhoir cymeradwyaeth i ddefnyddio'r gair hwn. Caiff yr enw cwmni cyfan ei gymryd i ystyriaeth a'i farnu'n annibynnol yn ôl ei rinwedd.
- HSC (Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol) neu HPSS (Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol) - gall Tŷ'r Cwmnïau ymgynghori â'r DHSSPS (Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cyhoeddus) wrth ystyried cymeradwyo enwau sy'n cynnwys y gair hwn, gan y gallai roi camargraff i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a'r cyhoedd yn ehangach bod y busnes â statws cydnabyddedig mewn cysylltiad ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol Personol.
Mae'r geiriau canlynol yn awgrymu amcanion neu swyddogaethau penodol:
- assurance, assurer, insurance, insurer, re-assurance, re-assurer, re-insurance neu re-insurer - os oes angen yr enw i gwmni tanysgrifennu, byddwn fel arfer yn ceisio cyngor pellach. Ond os dymunwch chi ddefnyddio'r enw i gwmni na fydd yn darparu ond gwasanaethau yswiriant, yna fe ddylech gynnwys y disgrifiad priodol, er enghraifft 'agents', 'consultants' neu 'services', yn yr enw.
- benevolent, foundation neu fund – ni chymeradwywn enwau sy'n cynnwys unrhyw un o'r geiriau hyn os rhoddant yr argraff, yn ddigyfiawnhad, fod statws elusennol i'r cwmni. Os yw'r cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant a bod ganddo gymal dim-dosbarthu-elw yn y memorandwm cymdeithasiad, yna fe gaiff yr enw ei gymeradwyo fel arfer.
- charter neu chartered - ni chymeradwywn enwau sy'n cynnwys y geiriau hyn os rhoddant yr argraff, yn ddigyfiawnhad, fod gan y cwmni Siarter Frenhinol. Os defnyddir y geiriau i ddisgrifio proffesiwn, fe geisiwn gyngor y corff llywodraethu priodol cyn ystyried p'un ai i roi cymeradwyaeth.
- charity - er mwyn defnyddio'r gair hwn, mae'n rhaid i'r cwmni ddarparu llythyr oddi wrth y Comisiwn Elusennau sy'n dweud nad oes ganddyn nhw wrthwynebiad. Os na fwriedir i'r cwmni fod yn elusen, rhaid anfon copi o'r memorandwm a'r erthyglau cymdeithasiad arfaethedig at y Comisiwn Elusennau, ynghyd â manylion gweithgareddau'r cwmni ac esboniad pam y mae angen y gair.
- co-operative - os dymunwch chi ddefnyddio'r gair hwn, dylai Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad eich cwmni ddilyn y rheolau sydd at ei gilydd yn cwmpasu cyrff cydweithredol yn y DU. Os bydd arnoch chi angen cyngor pellach, dylech gysylltu â Thŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd neu, os yw'r cwmni i gael ei gofrestru yn yr Alban, â Thŷ'r Cwmnïau yng Nghaeredin.
- Friendly Society neu Industrial and Provident Society - byddwn yn atgyfeirio enwau sy'n cynnwys yr ymadroddion hyn i sylw Cofrestrydd y Cymdeithasau Llesiant, gan geisio ei gyngor/chyngor. Os dymunwch eu defnyddio yn enw'ch cwmni, dylech chi ofyn yn gyntaf i Dŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd neu, os yw'r cwmni i gael ei gofrestru yn yr Alban, yna i Dŷ'r Cwmnïau yng Nghaeredin.
- group - os yw defnyddio'r gair hwn yn awgrymu sawl cwmni o dan un berchnogaeth gorfforaethol, yna bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth o'r cydgymdeithasu, fel rhiant neu is-ymgymeriad, â dau neu ragor o gwmnïau Prydeinig neu dramor. Os yw'r enw'n dangos yn glir fod y cwmni i hybu buddiannau grŵp o unigolion, yna fe gaiff yr enw ei gymeradwyo fel arfer.
- holding(s) - rhaid i gwmni sydd am ddefnyddio'r gair hwn fod yn gwmni dal yn unol â diffiniad adran 736 o Ddeddf Cwmnïau 1985.
- patent neu patentee - dim ond lle nad yw'r enw'n groes i Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 y cymeradwywn enw sy'n cynnwys y naill neu'r llall o'r geiriau hyn.
- post office - mae'r geiriau hyn yn nodau masnach cofrestredig yng nghyswllt grŵp y Post Brenhinol a byddwn yn ceisio cyngor ar geisiadau sy'n cynnwys y geiriau dan sylw.
- register neu registered - byddwn yn trin pob cais am ddefnyddio'r geiriau hyn yn ôl ei rinweddau. At ei gilydd, ceisiwn gyngor y corff llywodraethu priodol lle bo enwau sy'n cynnwys y geiriau hyn wedi eu cysylltu â chymhwyster proffesiynol. Ni chofrestrwn mo'r enw os yw'n awgrymu, yn ddigyfiawnhad, gysylltiad â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu awdurdod lleol. Os oes cysylltiad gwirioneddol o'r fath, fe fyddwn yn cofrestru'r enw lle bo'r corff priodol yn cefnogi'r cais.
- Sheffield - os dymunwch chi ddefnyddio enw sy'n cynnwys y gair 'Sheffield', bydd angen inni gadarnhau manylion lleoliad y cwmni a'i weithgareddau busnes. Byddwn hefyd yn ymgynghori â Chwmni'r Cyllellwyr yn Hallamshire.
- stock exchange - ni fyddwn yn cymeradwyo enwau sy'n cynnwys yr ymadrodd hon, onid oes amgylchiadau arbennig.
- trade union - ni fyddwn yn cymeradwyo enwau sy'n cynnwys yr ymadrodd hon, oni chydymffurfiant â'r ddeddfwriaeth ynglŷn ag undebau llafur.
- trust - gellir defnyddio'r gair 'trust' i ateb amrywiaeth o sefyllfaoedd gwahanol ac eglurwn y gofynion i ymddiriedolaethau o'r fath isod:
- charitable trust - mae eisiau i'r cwmnïau hyn fod ag amcanion elusennol a chymal dim-dosbarthu-elw yn y memorandwm cymdeithasiad. Gofynnwn ichi gadarnhau eich bod wedi gwneud cais, neu y byddwch yn gwneud cais, am gofrestriad fel elusen gan y Comisiwn Elusennau. Bydd angen i gwmnïau Albanaidd sydd am ddefnyddio'r ymadrodd 'charitable trust' wneud cais i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yng Nghaeredin, am nad oes gan y Comisiwn Elusennau awdurdodaeth yn yr Alban.
- educational trust neu artistic trust - dylai cwmnïau felly fod â chymal dim-dosbarthu-elw yn y memorandwm cymdeithasiad a dylai'r enw adlewyrchu natur yr ymddiriedolaeth. Dylai'r hybwyr fod yn uchel eu parch yn y maes.
- enterprise trust - rhaid i'r cwmnïau hyn fod â chymal dim-dosbarthu-elw yn y memorandwm cymdeithasiad a rhaid iddyn nhw allu darparu tystiolaeth o gefnogaeth, er enghraifft, awdurdodau lleol, busnesau neu fanciau.
- family trust - rhaid i gwmnïau o'r fath beidio â dosbarthu elw a rhaid i'r amcanion adlewyrchu natur yr ymddiriedolaeth. Caiff enwau ymddiriedolaethau teuluol eu cymeradwyo fel arfer os yw'r enw yn ei grynswth yn uniaethu'r cwmni fel y cyfryw.
- financial trust neu investment trust - os dymunwch ddefnyddio'r ymadroddion hyn, bydd angen ichi ddarparu sicrwydd ysgrifenedig y gwireddir cyfalaf cyfrannau llawndaledig neu gronfeydd eraill o fewn cyfnod rhesymol wedi'r corffori.
- pensions neu staff trust - rhaid i enwau cwmnïau felly gynnwys enw'r rhiant-gwmni a rhaid i amcanion y cwmni gynnwys gweithredu cronfeydd pensiwn.
- unit trust - os dymunwch chi ddefnyddio hyn fel rhan o enw'ch cwmni, dylech geisio cyngor Tŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd neu, os yw'r cwmni i gael ei gofrestru yn yr Alban, yna Tŷ'r Cwmnïau yng Nghaeredin,neu ymgymghorwch â'n gwefan yn www.companieshouse.gov.uk.
Brig
Pennod 4
Eithrio rhag defnyddio'r gair "cyfyngedig" mewn enw cwmni
1. Pa gwmnïau sy'n defnyddio 'cyfyngedig' yn eu henw?
Fel arfer, mae'n rhaid i gwmnïau cyfyngedig preifat fod â'r gair 'cyfyngedig' neu ei dalfyriad 'cyf.' (neu'r fersiwn Saesneg cyfatebol 'limited'/'ltd.') yn rhan o'u henw. Ond, o dan adran 30 o Ddeddf Cwmnïau 1985, nid oes raid i rai cwmnïau gynnwys y gair 'cyfyngedig' os bodlonant yr amodau sydd wedi eu hegluro yng nghwestiwn 2 isod.
Sylwer: ni chaiff cwmni ddefnyddio'r gair 'cyfyngedig' neu 'cyf.' oni bai bod ei swyddfa gofrestredig yng Nghymru.
2. Pa fath o gwmni all gael ei ryddhau rhag defnyddio 'cyfyngedig' yn ei enw?
I gael ei ryddhau:
- mae'n rhaid i gwmni fod yn gwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy warant;
- rhaid i amcanion y cwmni fod yn gysylltiedig â hybu masnach, celfyddyd, gwyddoniaeth, addysg, crefydd, cardod neu unrhyw broffesiwn;
- rhaid i'r memorandwm neu'r erthyglau cymdeithasiad nodibod unrhyw elw, neu incwm arall, i gael ei wario ar hybu amcanion y cwmni; a
- rhaid i'r cwmni beidio â thalu buddran i'r aelodau.
Os caiff y cwmni ei ddirwyn i ben, rhaid iddo drosglwyddo'r holl asedion i gorff arall sydd ag amcanion tebyg, neu sy'n hybu elusen. Os yw'n bodloni'r amodau hyn, bydd cwmni sy'n manteisio ar ryddhad o'r fath hefyd wedi ei eithrio rhag gofynion Deddf Cwmnïau 1985 o ran cyhoeddi ei enw ac anfon rhestr o'r aelodau at y Cofrestrydd.
Gall cwmni a oedd ar 25 Chwefror 1982 yn gwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau hefyd gael ei ryddhau os na chynhwysai 'cyfyngedig' yn ei enw am fod ganddo drwydded o dan adran 19 o Ddeddf Cwmnïau 1948, a'i fod yn cydymffurfio â'r gofynion uchod.
3. Os yw fy nghwmni'n gymwys, sut galla i hawlio'r rhyddhad?
Wrth ffurfio'ch cwmni, mae'n rhaid ichi wneud datganiad statudol ar Ffurflen 30(5)(a) a'i hanfon at y Cofrestrydd gyda'ch dogfennau corffori. Gwelir mwy o wybodaeth yn ein canllaw 'Ffurfio Cwmnïau' yn www.companieshouse.gov.uk.
4. Beth os bydd cwmni sy'n bod yn barod am hawlio'r rhyddhad?
Mae'n rhaid ichi fabwysiadu penderfyniad arbennig i newid ei enw, gan hepgor 'cyfyngedig'. Rhaid ichi anfon y penderfyniad i Dŷ'r Cwmnïau gyda datganiad statudol ar Ffurflen 30(5)(c).
Mae ffurflenni 30(5)(a) a 30(5)(c) ar gael yn rhad ac am ddim gan Dŷ'r Cwmnïau, Caerdydd a Chaeredin.
Os rhoddwn ichi ganiatâd i hepgor 'cyfyngedig', rhaid ichi beidio â diwygio'r memorandwm a'r erthyglau fel nad ydyn nhw mwyach yn bodloni'r amodau ar gyfer rhyddhad.
5. Beth fydd y gost?
Ar wahân i'r ffi safonol am gorffori neu newid enw, does dim ffi ychwanegol am wneud cais am hepgor y gair 'cyfyngedig' o enw'r cwmni. Bydd y dystysgrif a roir ichi yn dangos yr enw newydd heb y gair 'cyfyngedig' neu 'limited'.
Brig
Pennod 5
Cyfarwyddyd i newid enw cwmni
1. Beth yw 'cyfarwyddyd'?
Mae cyfarwyddyd yn ddogfen gyfreithiol a gaiff ei rhoi gan yr Ysgrifennydd Gwladol i fynnu bod cwmni'n newid ei enw. Bydd Tŷ'r Cwmnïau yn rhoi cyfarwyddiadau ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Caiff cyfarwyddyd ei roi os cadarnhawn wrthwynebiad a gyflwynwyd ar y sail bod enw 'yn rhy debyg' i enw cwmni presennol. Mae'n rhaid i unrhyw gwmni a gaiff ei gyfarwyddo i newid ei enw fabwysiadu penderfyniad arbennig a chofrestru'r newid yn Nhŷ'r Cwmnïau o fewn 12 wythnos i ddyddiad y cyfarwyddyd.
Gall yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd roi cyfarwyddyd am resymau eraill: er enghraifft, os yw enw yr un fath yn hollol ag enw cwmni presennol neu os darparwyd gwybodaeth gamarweiniol pan gafodd enw sensitif ei gymeradwyo.
2. Pwy all gyfarwyddo cwmni i newid ei enw?
Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol bwerau statudol i gyfarwyddo cwmni i newid ei enw o dan amgylchiadau arbennig. Ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, mae Tŷ'r Cwmnïau yn gyfrifol am adolygu gwrthwynebiadau i enwau ar y sail bod enw un cwmni 'yn rhy debyg' i enw cwmni presennol.
3. Sut galla i wrthwynebu enw?
Os hoffech chi wrthwynebu enw, er enghraifft am y gallai ei debygrwydd i enw'ch cwmni chi arwain at ddryswch rhwng cwmnïau, yna rhaid ichi ysgrifennu at:
Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori yng
Nghymru a Lloegr: |
Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori yn yr
Alban: |
Yr Ysgrifennydd Gwladol
Cangen Gweinyddu Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd 1 |
The Secretary of State
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB
DX ED235 Edinburgh 1
LP – 4 Edinburgh 2 |
4. Beth yw ystyr 'rhy debyg'?
Wrth ystyried a yw un enw cwmni yn 'rhy debyg' i enw cwmni sy'n bod yn barod, bydd Tŷ'r Cwmnïau, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yn cymryd i ystyriaeth ddim ond ymddangosiad gweladwy neu sain y ddau enw. Ni chymerwn i ystyriaeth ffactorau allanol fel lleoliad daearyddol, gweithgareddau masnachu, perchnogaeth ar y cyd neu a yw cwmni yn segur. Yn ychwanegol, ni chymerwn i ystyriaeth enw neu ran o enw sy'n nod masnach.
Fel arfer, os nad yw'r enwau'n gwahaniaethu ond o ran ychydig o arwyddnodau neu fân wahaniaethau maen nhw'n debygol o fod yn 'rhy debyg: er enghraifft, D & N Ymgynghorwyr Cyfyngedig a D & N Ymgynghori Cyfyngedig. Bydd y mwyafrif o enghreifftiau o enw rhy debyg hefyd yn awgrymu rhyw gymaint o ddryswch ond nid dyma'r sail dros gyfarwyddo cwmni i newid ei enw.
Os yw'r enwau'n gwahaniaethu o ran un neu ragor o eiriau, yn enwedig geiriau disgrifiadol hirach, mae'n nhw'n annhebygol o fod yn 'rhy debyg'. Er enghraifft, gallai cwmni presennol D & N Ymgynghorwyr Cyfyngedig gwyno, â chyfiawnhad, fod cofrestru D & N Ymgynghorwyr (Caerdydd) Cyfyngedig yn peri dryswch. Gallai hyn fod yn wir, ond nid yw'r enwau'n 'rhy debyg' o dan y Ddeddf Cwmnïau a byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn annhebygol o roi cyfarwyddyd yn yr amgylchiadau hyn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal cwmni rhag cychwyn achos am ymhonni – er bod y pwnc hwn y tu allan i gwmpas y Deddfau Cwmnïau. Os byddwch yn amau, cysylltwch â Thŷ'r Cwmnïau.
Byddai enghreifftiau lle câi cyfarwyddyd ei roi yn cynnwys:
- lle gwahaniaethant o ran y ffordd y defnyddir symbolau, fel "@", "*" neu "+";
- lle bo geiriau byr yn gwahaniaethu rhwng yr enwau, yn enwedig geiriau o gymeriad generig megis "GB" neu "UK" neu ".com";
- lle bo geiriau ychydig yn hirach, megis "allforion" neu "gwasanaethau", yn gwahaniaethu rhwng yr enwau a bod ganddyn nhw elfennau sylweddol neu arbennig iawn yn gyffredin.
5. Beth os yw'r enw'n awgrymu cysylltiad â chwmni sydd eisoes ar y mynegai?
Dim ond ymddangosiad gweledol neu sain yr enwau y gall yr Ysgrifennydd Gwladol, ei ystyried. Ni all ystyried a oes tystiolaeth o 'berthynas ymhlyg' a phosibilrwydd dryswch oherwydd i bobl fynd i gredu, hwyrach, fod y cwmni'n gysylltiedig â grŵp presennol neu'n aelod o un drwy berchnogaeth.
Dim ond gwrthwynebiadau "rhy debyg" i enw cofrestredig llawn y cwmni y gallwn ei ystyried. Ni allwn ystyried gwrthwynebiadau yng nghyswllt cwmnïau sy'n mabwysiadu enwau busnes neu fasnach. At hyn, nid yw'r ddeddfwriaeth yn gymwys i fusnesau heb eu corffori, fel partneriaethau neu unig berchnogion. Hepgorir hefyd wrthwynebiadau ynglŷn ag enw neu ran o enw y mae hawliau logo, nod masnach, nod gwasanaeth, hawlfraint, patent neu hawliau perchnogi eraill yn bodoli yn ei gyswllt.
6. Sut y delir â gwrthwynebiadau?
Rhai dewisol yw pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol ac ystyriwn bob achos yn ôl ei rinweddau, er bod y rheolau sy'n cwmpasu enwau 'rhy debyg' wedi eu hen sefydlu. Os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol, ar ôl gwrthwynebiad, yn bwriadu cyfarwyddo cwmni i newid ei enw, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn ysgrifennu at y cwmni i egluro natur y gwrthwynebiad a'r cyfle prin sydd i apelio. Os gwrthodwn apêl y cwmni, byddwn yn rhoi cyfarwyddyd yn mynnu bod y cwmni'n newid ei enw o fewn 12 wythnos. Os derbyniwn yr apêl, byddwn yn cadarnhau hynny'n ysgrifenedig.
7. Pryd y gall yr Ysgrifennydd Gwladol roi cyfarwyddyd?
Gall yr Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo cwmni i newid ei enw:
- o fewn 12 mis i ddyddiad ei gofrestru os yw ei enw yr un fath ag enw sy'n ymddangos (neu a ddylai fod wedi ymddangos) ar y mynegai adeg y cofrestru, neu sydd, ym marn yr Ysgrifennydd Gwladol, yn 'rhy debyg' i enw felly.
- o fewn pum mlynedd i'w gofrestru lle bo gan yr Ysgrifennydd Gwladol le i gredu bod y cwmni wedi darparu gwybodaeth gamarweiniol at ddibenion y cofrestru, neu ei fod nhw, at ddibenion y cofrestru, wedi derbyn ymgymeriadau neu wedi rhoi sicrhad na wireddwyd mohonynt; neu
- unrhyw bryd os yw'r enw'n rhoi argraff mor gamarweiniol o natur gweithgareddau'r cwmni fel ei fod yn debyg o niweidio lles y cyhoedd. Rhai i'r cwmni gydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwn o fewn chwe wythnos, oni wnânt gais i'r Llys am iddo gael ei ddirymu. (Adran 32, Deddf Cwmnïau 1985)
8. A all Tŷ'r Cwmnïau gwrthod enw 'rhy debyg' cyn cofrestru'r cwmni?
Na all. Dim ond ar ôl i Dŷ'r Cwmnïau gofrestru'r cwmni y gallwch chi wrthwynebu ar sail 'rhy debyg'. Dim ond cyn y cofrestru y gallwn ninnau wrthod enwau 'yr un fath'.
I osgoi posibilrwydd gwrthwynebiad 'rhy debyg', cynghorwn gwsmeriaid i chwilio'r Mynegai Enwau Cwmni cyn gwneud cais am ffurfio cwmni neu newid enw cwmni sy'n bod yn barod. Gallai chwilio'r Mynegai Enwau Cwmni osgoi hefyd:
- ddryswch rhyngoch chi â chwmnïau eraill sydd â hanes ffeilio neu fasnachu gwael;
- gweithrediadau 'ymhonni' o dan y gyfraith sifil; neu
- ddwyn achos am dorri nod masnach.
9. Cofrestru Oportiwnistiaidd
O 1 Hydref 2008 ymlaen, mae Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno darpariaethau newydd yn caniatáu i unrhyw berson neu gwmni wrthwynebu enw cwmni oherwydd “cofrestru manteisgar” os yw enw’r cwmni:
- yr un fath ag enw sy’n gysylltiedig â’r achwynydd ac y mae ganddo/ganddi ewyllys da ynddo; neu
- mor gyffelyb fel y byddai ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig yn debygol o gamarwain drwy awgrymu cysylltiad rhwng y cwmni a’r achwynydd.
Sylwer: ni all Tŷ’r Cwmnïau drin cwynion ynglŷn â chofrestru manteisgar. Dylid cyfeirio gwrthwynebiadau ac ymholiadau at y “Tribiwnlys Enwau Cwmni” (a elwir hefyd “y Dyfarnydd”) a gaiff ei weithredu a’i weinyddu gan Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. Bydd canllaw a chyngor pellach, ynghyd â chopïau o’r ffurflenni sydd i’w defnyddio, ar gael ar y wefan hon o 1 Medi 2008 ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn www.ipo.gov.uk/cna
Brig
Pennod 6
Rheoli a chyfyngu'r enwau a gaiff eu defnyddio gan fathau eraill o gwmni a chan gwmnïau tramor
1. Pa reolaeth sy'n gymwys i gwmnïau tramor?
Mae rheolau tebyg i'r rhai sy'n llywio defnyddio enwau a gafodd eu cofrestru ym Mhrydain Fawr yn gymwys i enwau cwmnïau tramor a'u canghennau a gafodd eu cofrestru o dan Ran XXIII o Ddeddf Cwmnïau 1985. Bydd Tŷ'r Cwmnïau yn cofrestru'r enw tramor, ond os yw 'yr un fath' ag enw presennol ar y gofrestr bydd yn rhaid i'r cwmni gofrestru enw arall i'w ddefnyddio ym Mhrydain Fawr. Bydd hyn hefyd yn wir lle bo rhywun yn gwrthwynebu ar ôl y cofrestru, ar y sail bod yr enw'n 'rhy debyg' i enw cwmni sy'n bod yn barod.
Mae gwybodaeth bellach am gofrestru cwmnïau tramor i'w chael yn ein canllaw 'Oversea Companies' yn www.companieshouse.gov.uk.
2. Pa reolaeth sy'n gymwys i gwmnïau buddsoddi penagored, grwpiadau buddiannau economaidd Ewropeaidd a phartneriaethau cyfyngedig?
Mae'r cwmnïau hyn wedi eu cynnwys ar y Mynegai Enwau Cwmni ac maen nhw'n dibynnu ar yr un rheolau ynghylch defnyddio enwau ag sy'n gymwys i fathau eraill o gwmni y cyfeirir atynt yn y canllaw hwn, gan gynnwys enwau 'rhy debyg' ac 'yr un fath' - gweler pennod 1.
3. Pa reolaeth sy'n gymwys i enwau busnes?
Caiff cwmni ddewis dilyn busnes o dan enw nad yw yr un fath â'r enw cofrestredig. Dim ond i gwmnïau cofrestredig y mae'r rheolau ynglŷn ag enwau 'rhy debyg' ac 'yr un fath' yn gymwys. Fodd bynnag, mae'r holl eiriau ac ymadroddion sydd angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol cyn y gellir eu defnyddio hefyd yn gymwys i enwau busnes, gan gynnwys enwau busnes a gaiff eu defnyddio gan gwmnïau wrth ddilyn busnes. Gweler pennod 3.
Mae gwybodaeth bellach am enwau busnes i'w chael yn ein canllaw 'Enwau Busnes' yn www.companieshouse.gov.uk.
4.A ellid effeithio ar y dewis o enw gan y Mynegai Nodau Masnach neu'r Ddeddf Credyd Defnyddwyr?
Ni fydd y Cofrestrydd yn ymgynghori â'r Mynegai Nodau Masnach wrth ystyried cais am enw cwmni. Dyma pam y cynghorwn gwsmeriaid i wirio'r Gofrestr Nodau Masnach yn briodol cyn gwneud cais am gofrestru enw cwmni.
Hwyrach y carech chi ystyried ymgynghori â chyfreithiwr cyn defnyddio enw. Hwyrach hefyd y carech chi ystyried gwirio llyfrau ffôn lleol ac unrhyw gylchgronau masnach perthnasol, i gael gweld a oes busnes arall eisoes yn defnyddio'r enw.
Os bwriadwch fasnachu mewn nwyddau neu wasanaethau, cyngor da ichi fyddai sichrau nad yw enw'ch cwmni'n gwrthdaro â nod masnach cofrestredig. Does dim rhaid iddo fod yr un fath yn hollol â nod masnach presennol i beri gwrthdaro posib. Gall problemau godi os bernir bod enw'n ddigon tebyg i beri dryswch.
Am gyngor pellach, gan gynnwys sut i chwilio'r Gofrestr Nodau Masnach, cysylltwch â Chofrestrfa Nodau Masnach Swyddfa Eiddo Deallusol y DG drwy ymweld â'u gwefan yn www.ipo.gov.uk, dros y ffôn ar 08459 500 505 neu drwy e-bostio enquiries@ipo.gov.uk.
Nid yw cofrestru enw'ch cwmni'n awgrymu derbyn yr un enw at ddibenion Deddf Credyd Defnyddwyr 1974. Os oes angen trwydded arnoch chi o dan y Ddeddf honno i gynnal busnes, yna dylech ymgynghori â changen drwyddedu'r Swyddfa Masnachu Teg i gael gweld a yw'r enw a ddewiswyd gennych yn dderbyniol at ddibenion y Ddeddf. Y cyfeiriad yw:
Office of Fair Trading
3rd Floor
Craven House
40 Uxbridge Road
Ealing
Llundain W5 2BS
Tel: 020 7211 8000
Brig
Pennod 7
Datgelu enwau cwmni a gwybodaeth benodedig arall
Mae'n rhaid i gwmni ddatgelu ei enw (fel yr ymddengys yn ei femorandwm cymdeithasiad) mewn mannau penodedig ac ar ei gyfathrebiadau. Rhaid i gwmni hefyd roi gwybodaeth benodedig arall ar ei holl lythyrau busnes, ei ffurflenni archebu a'i wefannau.
1. Ble a sut y mae'n rhaid imi ddatgelu enw fy nghwmni?
Rhaid i gwmni ddangos ei enw cofrestredig:
- yn ei swyddfa gofrestredig a'i fan archwilio (unrhyw leoliad arall lle cedwir ei gofnodion cwmni). Rhaid i'r enw fod mewn arwyddnodau y gall y llygad noeth eu darllen. Ond o 1 Hydref 2008 ymlaen, bydd cwmni wedi ei eithrio rhag y rheidrwydd hwn os bu'n segur yn gyson ers ei gorffori, h.y. na chafodd "drafodion cyfrifeg arwyddocaol" yn ystod blwyddyn ariannol ac na chynhwyswyd dim yng nghofnodion cyfrifeg y cwmni. Mae gwybodaeth bellach i'w chael yn ein canllaw 'Cwmnïau Segur'.
- mewn unrhyw leoliad arall lle mae'n dilyn busnes. Ond o 1 Hydref 2008 ymlaen, bydd cwmni wedi ei eithrio rhag y rheidrwydd hwn os caiff y lleoliad ei ddefnyddio'n bennaf fel lle byw. Er enghraifft, os oedd y lleoliad hwnnw'n gartref i gyfarwyddwr.
- yn gyson. Ond o 1 Hydref 2008 ymlaen, lle caiff y swyddfa, y man neu'r lleoliad ei rannu gan chwech neu ragor o gwmnïau, dim ond am 15 eiliad yn ddi-dor o leiaf unwaith bob tair munud y mae'n rhaid i bob cwmni ddangos ei enw cofrestredig.
- ar ei holl ohebiaeth a dogfennaeth fusnes (fel copi caled, ar ddiwyg electronig neu unrhyw ddiwyg arall), gan gynnwys biliau cyfnewid, rhestri o eitemau taladwy a gwefannau.
O 1 Hydref 2008 ymlaen, does dim angen i enw'r cwmni fel y caiff ei ddefnyddio er mwyn cydymffurfio â'r gofynion hyn fod yn hollol yr un fath â'r enw cofrestredig. Y gwahaniaethau a ganiateir yw llythrennau bach neu fawr, defnydd atalnodi, acenion, ac ati, a fformadu. Ond rhaid i'r gwahaniaethau beidio ag arwain at beryg dryswch.
Ni fydd atebolrwydd sifil personol swyddogion sydd wedi methu cydymffurfio yn gymwys o 1 Hydref 2008 ymlaen. Os bydd swyddog cwmni neu rywun ar ei ran yn llofnodi neu'n awdurdodi llofnodi ar ran y cwmni unrhyw fil cyfnewid, addaweb, ardystiad neu siec nad yw'n sôn am enw'r cwmni, ni fydd yn bersonol atebol. Ni fydd yn atebol chwaith i ddygiedydd y ddogfen honno am y swm a gynrychiolir ganddo.
2. Pa wybodaeth benodedig arall y mae'n rhaid imi ei datgelu a ble?
Rhaid i gwmni gynnwys hefyd ei rif cofrestru, man ei gofrestru a chyfeiriad ei swyddfa gofrestredig mewn llythyrau busnes, ffurflenni archebu a gwefannau.
3. Pa wybodaeth gwmni y galla i ei fynnu'n ysgrifenedig?
O 1 Hydref 2008 ymlaen, gall rhywun fynnu'n ysgrifenedig wybodaeth arall gan gwmni y bydd yn delio ag ef wrth ddilyn busnes, gan gynnwys: cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, unrhyw le archwilio a'r math o gofnodion cwmni a gaiff eu cadw yn y swyddfa honno neu'r lle hwnnw. Rhaid i'r cwmni anfon ateb ysgrifenedig at y person hwnnw o fewn pum diwrnod gwaith i dderbyn y cais dan sylw.
Am ddisgrifiad llawn o'r gofynion hyn, cyfeiriwch at Reoliadau Cwmnïau (Datgeliadau Masnachu) 2008 (Offeryn Statudol 2008/495).
Brig
Pennod 8
Gwybodaeth bellach
1. Ble galla i gael cymorth?
Am ragor o wybodaeth ynghylch unrhyw agwedd ar enwau cwmni, gan gynnwys rhai sydd angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol, dylech chi:
- ymweld â'n gwefan yn www.companieshouse.gov.uk
- cysylltu â ni drwy ffonio 0303 123 4500; neu
- ysgrifennu at Dŷ'r Cwmnïau yn y swyddfeydd canlynol:
Ar gyfer cwmnïau wedi eu cofrestru yng
Nghymru a Lloegr: |
Ar gyfer cwmnïau wedi eu cofrestru yn yr
Alban: |
Yr Ysgrifennydd Gwladol
Adran Cwmnïau Newydd
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd 1 |
The Secretary of State
New Companies Section
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB
DX ED235 Edinburgh 1
LP – Edinburgh 2 |
Gallwch chi hefyd gael cyngor ynghylch defnyddio geiriau ac ymadroddion arbennig gan y cyrff perthnasol y gwelir eu henwau a'u cyfeiriadau yn yr Atodiadau A-C.
2. Sut mae anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?
Y ffordd fwyaf diogel i anfon gwybodaeth statudol i Dŷ'r Cwmnïau yw defnyddio'n gwasanaethau ffeilio ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru, edrychwch ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk.
Gallwch chi gyflwyno dogfennau i'r Cofrestrydd â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i'n swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin.
Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy'r post, drwy'r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX ) neu drwy'r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban.
Os anfonwch chi ddogfennau drwy'r post, byddwch cystal â'u cyfeirio at:
| Ar gyfer cwmnïau wedi eu cofrestru Nghymru a Lloegr: |
Ar gyfer cwmnïau wedi eu cofrestru yr Alban: |
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd 1 |
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB
DX ED235 Edinburgh 1
LP – Edinburgh 2 |
Dim ond os darparwch chi amlen stampiedig yn dangos y cyfeiriad dychwelyd y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn cydnabod i ddogfennau ddod i law.
Os ydych yn anfon dogfennau drwy'r post, drwy negesydd neu drwy'r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) a'ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth ond ichi amgáu copi o'ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch.
Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Sylwer: nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs.
3. Ga i ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill?
Yn gyffredinol, mae’r dogfennau sy’n cael eu hanfon at y Cofrestrydd yn gorfod bod yn Saesneg. Er hynny, caiff dogfennau sy’n ymwneud â chwmnïau Cymreig gael eu llunio a’u cyflwyno yn Gymraeg.
O 1af Ionawr 2007 mae cwmnïau hefyd yn cael ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen sy’n dod o dan y gofynion yn y Gyfarwyddeb ar ddatgelu.
- Penderfyniadau a chytundebau sy’n effeithio ar gyfansoddiad cwmni
- Contractau sy’n dyrannu cyfrannau am gydnabyddiaeth heblaw arian parod
- Yn achos cwmnïau sydd wedi eu cynnwys yng nghyfrifon grwpiau mwy yn yr AEE neu y tu allan i’r AEE, cyfrifon y grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad; a hefyd
- Offerynnau arwystlon (neu gopïau o offerynnau arwystlon)
O 1af Ionawr mae cwmnïau hefyd yn cael ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen sy’n dod o dan y gofynion yn y Gyfarwyddeb ar ddatgelu. Mae hyn yn cynnwys:
- Dogfennau cyfansoddiadol fel y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad
- Penodiadau cyfarwyddwyr, newid manylion neu ymddiswyddiadau
- Cyfrifon, adroddiadau a ffurflenni blynyddol
- Hysbysiad ynglŷn ag unrhyw newid yn swyddfa gofrestredig y cwmni
- Dogfennau dirwyn i ben
- Dogfennau cyfalaf cyfrannau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
- Dogfennau ynghylch cyfuno a rhannu cwmnïau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
- Dogfennau ynghylch cwmnïau tramor
Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol gyfeirio at ddogfen a gyflwynwyd i’r Cofrestrydd ar 1 Ionawr 2007 neu wedi hynny. Gall cyfieithiadau gwirfoddol gael eu ffeilio yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unig a rhaid anfon Ffurflen 1106 i gyd-fynd â nhw.
4. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?
Mae ffurflenni statudol a chanllawiau ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ'r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i'w sicrhau yw drwy'n gwefan www.companieshouse.gov.uk neu drwy ffonio 0303 123 4500.
Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.
ATODIAD A
Bydd arnoch chi angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio cyn defnyddio unrhyw rai o'r geiriau neu'r ymadroddion canlynol (neu eu ffurfiau lluosog neu feddiannol) yn yr enw a ddewiswch i'ch cwmni.
(a) Geiriau sy'n awgrymu blaenoriaeth genedlaethol neu ryngwladol:
| British |
Great Britain |
National |
Wales |
| England |
International |
Scotland |
Welsh |
| English |
Ireland |
Scottish |
|
| European |
Irish |
United Kingdom |
|
(b) Geiriau sy'n awgrymu blaenoriaeth fusnes neu statws cynrychioliadol neu awdurdodol:
| Association |
Board |
Federation |
Institution |
| Authority |
Council |
Institute |
Society |
| Government |
HSC (Health and Social Care) |
HPSS (Health and Personal Services) |
|
(c) Geiriau sy'n awgrymu amcanion neu swyddogaethau penodol:
| Assurance |
Friendly society |
Post office |
Trade union |
| Assurer |
Fund |
Reassurance |
Trust |
| Benevolent |
Group |
Re-assurer |
|
| Charter |
Holding |
Register |
|
| Chartered |
Industrial & provident society |
Registered |
|
| Chemist |
Insurance |
Re-insurance |
|
| Chemistry |
Insurer |
Re-insurer |
|
| Co-operative |
Patent |
Sheffield |
|
| Foundation |
Patentee |
Stock exchange |
|
ATODIAD B
Bydd angen cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i'r geiriau neu'r ymadroddion canlynol. Os dymunwch chi ddefnyddio unrhyw un ohonynt yn enw'ch cwmni, bydd eisiau ichi ysgrifennu'n at y corff perthnasol i gael eu cefnogaeth ysgrifenedig i ddefnyddio'r enw. Dylid anfon copi o'r llythyr ategol gyda'ch cais am ffurfio cwmni neu newid enw cwmni.
| Gair neu ymadrodd |
Corff perthnasol i
gwmnïau wedi eu cofrestru
yng Nghymru a Lloegr |
Corff perthnasol i
gwmnïau wedi eu cofrestru
yn yr Alban |
| Charity, Charitable |
Head of Status
Charity Commission
Woodfield House
Tangier
Taunton TA1 4BL |
I gael cydnabyddiaeth
fel elusen Albanaidd
HM Revenue & Customs (HMRC)
FICO (Scotland)
Trinity Park House
South Trinity Road
Edinburgh
EH5 3SD |
| Contact Lens |
The Registrar
General Optical Council
41 Harley Street
London W1N 2DJ |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| Dental, Dentistry |
The Registrar
General Dental Council
37 Wimpole Street
London W1M 8DQ |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
District Nurse,
Health Visitor,
Midwife, Midwifery,
Nurse, Nursing |
The Registrar &
Chief Executive
United Kingdom Central
Council for Nursing,
Midwifery and Health Visiting
23 Portland Place
London W1N 3AF |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| Health Centre |
Office of the Solicitor
Department of Health &
Social Security
48 Carey Street
London WC2A 2LS |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| Health Service |
Penny Turner
Head of Branding
Department of Health
Room 230B
Skipton House
80 London Road
London
SE1 6LH |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| NHS, National Health Service |
Mike Pattrick
Office of the Solicitor
Dept of Health, Room 518,
New Court, 48Carey Street
London WC2A 2LS
Tel 0207 412 1225
Ebost: mike.Pattrick@dwp.gsi.gov.uk |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
| Police |
Pauline Laybourne
Briefing and Honours Team
CRCSG Change and Support Unit
3rd Floor A
Fry Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF
|
The Scottish Ministers
Police Division
St Andrews House
Regent Road
Edinburgh EH1 3DG
|
| Polytechnic |
Department of Education
and Science
FHE 1B
Sanctuary Buildings
Great Smith Street
Westminster
London SW1P 3BT |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
Pregnancy,
Termination,
Abortion |
Department of Health
Area 423
Wellington House
133-135 Waterloo Road
London SE1 8UG |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
Royal, Royale,
Royalty, King,
Queen, Prince, Princess,
Windsor, Duke,
His/Her Majesty |
(Os seiliedig yng Nghymru):
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
(Os seiliedig yn Lloegr):
Linda Henshaw
Ministry of Justice
Constitutional Settlement Division
newid cyfeiriad yn effeithiol o 20/10/2008
7C-018 (Post Point 7.42)
102 Petty France
London
SwiH 9AJ
|
Douglas Boyd
Protocol Unit
St Andrew's House
Regent Road
Edinburgh
EH1 3DG |
| Special School |
Clinton Roche
Department for Education and Skills
Caxton House
6-12 Tothill Street
London
SWlH 9NA
Tel: 0870 0012345 |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr
|
| University |
Privy Council Office
2 Carlton Gardens
London SW1Y 5AA |
Fel ar gyfer Cymru a Lloegr |
ATODIAD C
Mae rhai geiriau neu ymadroddion arbennig wedi eu rhychwantu gan ddeddfwriaeth arall a gallai eu defnyddio mewn enwau cwmni fod yn dramgwydd troseddol. Rhestrir y rhain isod. Os dymunwch ddefnyddio unrhyw un o'r enwau neu'r ymadroddion hyn yn enw'ch cwmni, yna dylech chi gysylltu â'r awdurdod rheoleiddio perthnasol neu geisio cyngor gennym ni cyn bwrw ymlaen. Gallwn ninnau geisio cyngor annibynnol y corff perthnasol.
| Gair neu ymadrodd |
Deddfwriaeth berthnasol |
Corff perthnasol |
| Anzac |
Section 1 Anzac Act 1916 |
Ceisier cyngor
Tŷ'r Cwmnïau |
| Architect |
Section 20 Architects
Registration Act 1997 |
Architects Registration
Board
73 Hallam Street
London W1N 6EE |
Building Society
Siambr Fusnes/Siambrau Busnes Siambr Fasnach/Siambrau Masnach
Siambr(au) Masnach a Diwydiant
Siambr(au) Masnach, Hyfforddiant a Menter
Siambr Fenter/Siambrau Menter
Siambr Ddiwydiant/Siambrau Diwydiant
Siambr(au) Hyfforddiant
Siambr(au) Hyfforddiant a Menter
neu fersiynau Saesneg y geiriau hyn
|
Building Society Act 1986
Company and Business Names (Chamber of Commerce etc.) Act 1999 |
Ceisier cyngor
Building Societies Commission
Victoria House
30-40 Kingsway
London WC2B 6ES
Canllaw ar gael gan Dŷ'r Cwmnïau |
Chiropodist, Dietician,
Medical Laboratory,
Technician,
Occupational Therapist,
Orthoptist,
Physiotherapist,
Radiographer
Remedial Gymnast |
Professions
Supplementary to
Medicine Act 1960
lle cyflwynir gan
Registered, State neu
Registered |
Mrs Joan Arnott
Department of Health
HRD HRB
Rm 2N35A
Quarry House
Quarry Hill
Leeds LS2 7JE |
| Credit Union |
Credit Union Act 1979 |
The Public Records Section
Financial Services Authority
25 The North Colonnade
Canary Wharf
London E14 5HS |
Dentist,
Dental Surgeon,
Dental Practitioner, |
Dental Act 1984 |
The Registrar
General Dental Council
37 Wimpole Street
London W1M 8DQ |
Druggist,
Pharmaceutical,
Pharmaceutist,
Pharmacist,
Pharmacy |
Section 78
Medicines Act 1968 |
The Director of
Legal Services
The Royal Pharmaceutical
Society of Great Britain
1 Lambeth High Street
London SE1 7JN
(i gwmnïau wedi eu
cofrestru yn yr Alban)
The Pharmaceutical
Society
36 York Place
Edinburgh
EH13HU |
Institute of Laryngology,
Institute of Otology,
Institute of Urology,
Institute of Orthopaedics |
University College
London Act 1988 |
Ceisier cyngor
University College
London
Gower Street
London
WC1E 6BT |
Intellectual Property Office,
Patent Agent |
Copyright, Designs
and Patents Act
1988 |
IPPD (Intellectual Property Policy Directorate)
Room 3B38, Concept House
Y Swyddfa Batentau
Cardiff Road
Casnewydd
NP10 8QQ |
Olympiad ,
Olympiads,
Olympian,
Olympians,
Olympic,
Olympics,
Paralympic,
Paralympics,
Paralympiad,
Paralympiads,
Paralympian,
Paralympians
c yfieithiad o'r rhain neu o eiriau tebyg i’r geiriau wedi’u diogelu |
Olympic Symbol etc. (Protection) Act 1995 (fel y’i diwygiwyd)*
Gallai defnyddio’r geiriau hyn dorri hawliau Cymdeithas Olympaidd Prydain/Cymdeithas Baralympaidd Prydain.
*Hefyd yn diogelu'r symbol
Olympaidd o bum cylch
plethedig a'r arwyddair Olympaidd
'Citius Altius Fortius'
(“Cynt, Uwch, Cryfach”); symbol Paralympaidd y tri “agitos”; yr arwyddair Paralympaidd “Spirit in Motion”; ac unrhyw beth tebyg iddynt.
Yn sgil cais llwyddiannus Llundain am gynnal y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn 2012, mae Deddf Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2006 wedi ei chyflwyno. Mae hon yn rhoi rhagor o hawliau i ddiogelu geiriau, symbolau a marciau Olympaidd sy'n ymwneud â'r gemau. Yn ychwanegol at y geiriau wedi eu diogelu a amlinellir yn y llyfryn hwn, gallai cofrestru enw cwmni yn cynnwys geiriau penodol sy'n awgrymu cysylltiad â Gemau Llundain 2012 dorri hawliau The London Organising Committee of the Olympic Games Limited (LOCOG) o dan y Ddeddf hon.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar:
www.london2012.com/brandprotection |
The London Organising Committee of the Olympic Games Limited (LOCOG)
23rd Floor
1 Churchill Place
Canary Wharf
London
E14 5LN |
Optician,
Ophthalmic Optician
Dispensing Optician,
Enrolled Optician,
Registered Optician,
Optometrist |
Opticians Act 1989 |
The Registrar
General Optical Council
41 Harley Street
London W1N 2DJ |
Red Cross,
Geneva Cross,
Red Crescent,
Red Lion and Sun |
Geneva Convention
Act 1957 |
Ceisier cyngor
Tŷ'r Cwmnïau |
| Solicitor (Scotland) |
S.31, Solicitors (Scotland) Act 1980 |
The Law Society of Scotland
26 Drumsheugh Gardens
Edinburgh EH3 7YR |
Veterinary Surgeon,
Veterinary, Vet |
Sections 19/20
Veterinary Surgeons
Act 1966 |
The Registrar
Royal College of
Veterinary Surgeons
62-64 Horseferry Rd
London SW1P 2AF |
sut i gysylltu â ni
Canolfan Cysylltu: 0303 123 4500*
Mini-com: 029 2038 1245
enquiries@companieshouse.gov.uk
www.companieshouse.gov.uk
*At ddibenion hyfforddiant ac ansawdd, gall eich galwad gael ei monitro
Caerdydd:
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron, Caerdydd CF14 3UZ
Ffacs: 029 2038 0900
Caeredin:
Companies House
37 Castle Terrace, Edinburgh EH1 2EB
Ffacs: 0131 535 5820
Llundain:
Companies House
21 Bloomsbury Street,
London
WC1B 3XD
Ffacs: 029 2038 0900
Brig |