Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall)
Ffurfio Cwmnïau - GBF1
Ebrill 2008 - Fersiwn 20 Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmniau 2006
Rhaid bod yn ymwybodol o’r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn:
Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym. Gan hynny, mae rhai darpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol. Rydym wedi ceisio gwneud yn glir drwy’r holl nodiadau hyn, gymaint â phosibl, pa Ddeddf sy’n berthnasol. Os hoffech chi wybod pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym, ymwelwch â’n gwefan www.companieshouse.gov.uk. Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/index.html, lle gallwch weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai darpariaethau yn y Ddeddf newydd yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosibl, eglurwn hyn yn y canllaw hwn a rhown fanylion ar ein gwefan
Mae dau gam pellach yng ngweithrediad Deddf Cwmnïau 2006 a drefnwyd ar gyfer Hydref 2008 a Hydref 2009. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithrediadau ar y pryd. Efallai yr hoffech gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i’r broses o weithredu parhau, er mwyn ichi gael mynediad at y newyddion diweddaraf.
Hyd mis Hydref 2009 mae’r nodiadau canllaw hyn yn berthnasol i gwmnïau sydd wedi cael eu ffurfio ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban). Wedyn, trefnlennir y gyfundrefn wahanol yng Ngogledd Iwerddon gyfuno i unig gyfundrefn ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd.
Cynnwys
Brig
Cyflwyniad
Mae'r llyfryn hwn yn sôn am y gofynion ar gyfer ffurfio cwmnïau preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau, cwmnïau preifat wedi ei gyfyngu drwy warant, cwmnïau, cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus a chwmnïau anghyfyngedig. Mae'n egluro'r gwahaniaeth rhwng y mathau hyn o gwmni a'r dogfennau ymffurfio, yr aelodaeth, y cyfalaf a'r swyddogion sydd eisiau ar gyfer pob un.
Nid yw'r llyfryn yn egluro'r rheolaeth sy'n bodoli o ran defnyddio rhai enwau cwmni. I gael gwybodaeth bellach am hyn, darllenwch ein llyfryn 'Enwau Cwmni'.
Rhaid i bob cwmni ddatgelu gwybodaeth arbennig i Dŷ'r Cwmnïau er mwyn y cofnod
cyhoeddus ac i'r bobl y deliant â nhw. Mae'r llyfryn hwn yn dweud wrthych chi:
- Pryd mae'n rhaid rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am newidiadau i amgylchiadau a manylion y cwmni;
- Cyhoeddi enw’r cwmni a’r manylion sydd i’w dangos ar bapurau’r cwmni
- Ffeilio cyfrifon a ffurflenni blynyddol
- Beth fydd yn digwydd os na anfonir y gwybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau mewn pryd
Dim ond fel cyflwyniad i'r rhwymedigaethau parhaol hyn y bwriedir y llyfryn hwn. Cyfeiriwn at lyfrynnau eraill yn y gyfres hon yn ôl sy’n briodol drwy’r testun cyfan, gan y byddant yn ymdrin yn fanylach â phynciau unigol.
Daw llawer rhwymedigaeth yn sgîl sefydlu cwmni. Gall fod yn werth ichi geisio cyngor cyfreithiwr neu gyfrifydd er mwyn cael gweld ai cwmni corfforedig yw'r ffordd orau ichi redeg eich busnes.
Brig
PENNOD 1
Cwmnïau newydd
Mae cwmni yn gymdeithas ‘gorfforedig’ wedi’i ffurfio i ddilyn busnes neu weithgareddau eraill yn enw’r gymdeithas. Gan ei fod wedi’i gorffori, mae iddo hunaniaeth gyfreithiol sydd ar wahân i hunaniaeth ei aelodau.
1. Oes mwy nag un math o gwmni?
Ceir pedwar prif fath o gwmni:
- Cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau - dyma’r math mwyaf cyffredin o gwmni. Y gwahaniaeth pwysig rhwng hyn a chwmni cyfyngedig cyhoeddus yw na chaiff cwmni preifat gynnig gwerthu’i gyfrannau i’r cyhoedd.
- Cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy warant – Ni fydd aelodau’r math hwn o gwmni yn gwneud unrhyw gyfraniad at y cyfalaf yn ystod oes y cwmni, gan na fyddant yn prynu cyfrannau. Bydd atebolrwydd yr aelodau wedi’i gyfyngu i’r swm y cytunant bob un i’w gyfrannu at asedion y cwmni pe câi ei ddirwyn i ben.
- Cwmni anghyfyngedig preifat – Gall y math hwn o gwmni fod â chyfalaf cyfrannau neu beidio a does dim cyfyngiad i atebolrwydd yr aelodau. Gan nad oes cyfyngiad i atebolrwydd yr aelodau, mae’n rhaid datgelu llawer llai o faterion y cwmni’n gyhoeddus nag sy’n wir am fathau eraill o gwmni.
- Cwmni cyfyngedig cyhoeddus –Bydd cyfalaf cyfrannau gan y math hwn o gwmni a bydd atebolrwydd pob aelod wedi’i gyfyngu i’r swm sydd heb ei dalu yng nghyswllt y cyfrannau sydd ym meddiant yr aelod. Y gwahaniaeth pwysig rhwng hyn a chwmni preifat yw y caiff cwmni cyfyngedig cyhoeddus gynnig gwerthu’i gyfrannau i’r cyhoedd. Gellir hefyd ei restru yn y Gyfnewidfa Stoc.
Gall “cwmni preifat” fod yn unrhyw un o’r tri cyntaf ar y rhestr hon. Cwmnïau preifat yw rhai sydd wedi’u cyfyngu drwy warant a rhai anghyfyngedig, hyd yn oed os na ddefnyddir y gair “preifat”.*
*Mae rhai “cwmnïau wedi’u cyfyngu drwy warant gyda chyfalaf cyfrannau” yn aros o hyd. Does dim modd ffurfio’r rhain ers 1981 ac ni roir sylw iddynt yn y canllaw hwn.
2. Pwy gaiff ffurfio cwmni?
Yn gyffredinol, mae Ddeddfwriaeth Cwmnïau'n caniatáu i un neu ragor o bobl ffurfio cwmni at unrhyw ddiben cyfreithlon drwy danysgrifio i'w femorandwm cymdeithasiad. Ond rhaid i gwmni cyhoeddus neu gwmni anghyfyngedig fod ag o leiaf dau danysgrifydd (bydd y rheol hon yn diflannu pan daw’r Deddf Cwmnïau 2006 i rym yn gyfan, wedi’i threflenni am fis Hydref 2009).
Gwelir gwybodaeth am gwmnïau wedi eu ffurfio gan un person ym mhennod 3. (O dan y gyfraith, mae 'person' yn cynnwys unigolion a chwmnïau.)
3. Sut dylwn i ffurfio cwmni?
Mae cwmnïau parod ar gael gan asiantiaid ffurfio cwmnïau y gwelir eu henwau a'u cyfeiriadau yn llyfrau ffôn ar gyfer busnes. Os byddwch yn ffurfio cwmni eich hun, bydd angen ichi anfon y dogfennau canlynol, ynghyd â'r ffi gofrestru (gweler cwestiwn 16 isod) i Dŷ'r Cwmnïau :
Eglurir pob un o'r dogfennau hyn isod. Os dymunwch i swyddfa gofrestredig y cwmni (gweler cwestiwn 8 isod) fod yng Nghymru neu Loegr, dylech eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd. Os dymunwch iddi fod yn yr Alban, dylech eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau yng Nghaeredin. (Gweler ein cyfeiriadau ar ddiwedd y canllaw hwn.)
4. Beth yw memorandwm cymdeithasiad?
Dogfen ysgrifenedig yw hon sy’n nodi:
- enw’r cwmni;
- p’un ai yng Nghymru a Lloegr (h.y. gellir ei lleoli yn y naill wlad neu’r llall), yng Nghymru (h.y. dim ond yng Nghymru y gellir ei lleoli) neu yn yr Alban y mae swyddfa gofrestredig y cwmni i’w lleoli;
- beth a wnaiff y cwmni (ei amcanion). Hwyrach mai amcan y cwmni, yn syml, fydd dilyn busnes fel cwmni masnachu cyffredinol.
- lle bo hynny’n gymwys, bod atebolrwydd yr aelodau wedi’i gyfyngu
- lle bo hynny’n gymwys, swm y cyfalaf cyfrannau y mae’r cwmni’n cynnig cael ei gofrestru ar ei sail, a manylion rhaniad y cyfrannau hynny’n symiau penodol;ac
- yn achos cwmni cyfyngedig cyhoeddus, y ffaith mai cwmni cyhoeddus y mae i fod (gweler Pennod 2 isod)
Rhaid i bob tanysgrifydd lofnodi memorandwm y cwmni yng ngŵydd tyst y mae’n rhaid iddo yntau/iddi hithau hefyd lofnodi’r memorandwm cyn ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau. Yn achos cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau, mae’n rhaid i bob tanysgrifydd gymryd o leiaf un gyfran yn y cwmni a rhaid i nifer y cyfrannau y bydd pob tanysgrifydd yn eu cymryd gael ei gofnodi wrth enw’r tanysgrifydd perthnasol.
Mae’r Rheoliadau’n pennu’r diwyg priodol i femorandwm. Gwelir y rhain wedi’u hegluro yng nghwestiwn 6 isod.
5. Beth yw erthyglau cymdeithasiad?
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r rheolau ar gyfer rhedeg a rheoliad materion mewnol y cwmni.
Rhaid i erthyglau cymdeithasiad y cwmni fel y cânt eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau fod wedi’u llofnodi gan bob tanysgrifydd yng ngŵydd tyst y mae’n rhaid iddo yntau/iddi hithau hefyd lofnodi.
Mae’r Rheoliadau’n darparu set gyflawn o erthyglau cymdeithasiad. ‘Tabl A’ y gelwir yr erthyglau i gwmnïau sydd wedi’u cyfyngu drwy gyfrannau Mae dau fersiwn: un i gwmnïau preifat ac un i gwmnïau cyhoeddus. Caiff cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau fabwysiadu Tabl A yn ei grynswth neu’n rhannol fel ei erthyglau cymdeithasiad ei hun ond does dim rheidrwydd iddo wneud ac fe gaiff, os myn, fabwysiadu Tabl A gydag addasiadau neu hyd yn oed erthyglau hollol wahanol.
Ni fydd angen i gwmni wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau sy’n penderfynu mabwysiadu Tabl A heb addasiadau roi i Dŷ’r Cwmnïau gopi o’i erthyglau cymdeithasiad. Ond os yw’ch cwmni yn y sefyllfa hon, dylech atodi llythyr wrth eich cais yn egluro’ch bod wedi dewis mabwysiadu Tabl A heb addasiadau.
NODYN: Os mabwysiadwch Dabl A heb addasiadau, yna bydd angen ichi benodi o leiaf dau gyfarwyddwr. Ond gall cwmni preifat fod ag un cyfarwyddwr yn unig, os yw ei erthyglau’n caniatáu (gweler cwestiwn 12). Felly, os un cyfarwyddwr yn unig fydd gan eich cwmni, mae angen ichi fabwysiadu fersiwn diwygiedig o Dabl A. Os mabwysiedir Tabl A gydag addasiadau, rhaid ichi gyflwyno’r erthyglau i’w cofrestru
Mae’r Rheoliadau hefyd yn pennu mathau eraill o erthyglau cymdeithasiad y gall cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy warant (Tabl C) a chwmni anghyfyngedig (Tabl E) eu mabwysiadu. Mae’n rhaid i’r mathau hyn o gwmni fabwysiadu erthyglau cymdeithasiad ar y diwygiau hyn, neu mor agos iddynt ag sy’n bosib (nid oes ganddynt y dewis sydd gan gwmnïau wedi’u cyfyngu drwy gyfrannau o fabwysiadu erthyglau hollol wahanol).
Sylwch ar y cyfyngiadau allweddol canlynol ar ddefnydd Tablau A ac C fel erthyglau cymdeithasiad:
- Ni fydd Tabl C yn gymwys i gwmni Hawl i Reoli na Chymdeithas Gyfunddaliad (y mae’n rhaid i’r ddau ohonynt fod yn gwmnïau wedi’u cyfyngu drwy warant). Mae’r ffynonellau perthnasol ar gyfer memoranda ac erthyglau cymdeithasiad i’r cwmnïau hyn wedi’u nodi yng nghwestiwn 6(a) isod.
- Ni chaiff Cwmni Buddiant Cymunedol fanteisio ar Dabl A i osgoi cofrestru erthyglau achos rhaid i femorandwm ac erthyglau cymdeithasiad cwmnïau buddiant cymunedol gydymffurfio a rheoliadau penodol, y soniwyd amdanyn nhw yng nghwestiwn 6(b) isod.
Gosodwn allan tarddle Tablau A,C, ac E a’r rheoliadau perthnasol yng nghwestiwn 6 isod
6. Sut ca i hyd i gopïau o’r diwyg priodol ar gyfer memorandwm ac erthyglau cymdeithasiad i’m cwmni?
Cewch ddewis prynu memorandwm ac erthyglau addas i fath arbennig o’ch cwmni gan ddogfennwr cyfreithiol neu asiant ffurfio cwmnïau. Fel dewis arall cewch eu paratoi eich hun ar sail y Rheoliadau sydd wedi’u nodi isod. (mae’n rhaid i gwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy warant a chwmni anghyfyngedig ddefnyddio’r Rheoliadau hynny). Ni all Tŷ’r Cwmnïau roi memorandwm nac erthyglau cymdeithasiad ichi.
Er na ddylid ystyried y llyfryn presennol yn ganllaw cynhwysfawr i’r pwnc hwn, mae’r rheoliadau allweddol sy’n ymwneud â’r memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad, a’r cwmnïau y maen nhw’n gymwys iddynt, wedi’u crynhoi isod.
- Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) 1985 (Offeryn Statudol 1985/805), sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(a)
Erthyglau cymdeithasiad ar gyfer cwmni wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau (mewn dau fersiwn, cyhoeddus a phreifat) - Tabl A;
(b)
Memorandwm cymdeithasiad ar gyfer cwmni cyfyngedig preifat - Tabl B;
(c)
Memorandwm ac erthyglau cymdeithasiad ar gyfer cwmni wedi’i gyfyngu drwy warant heb gyfalaf cyfrannau - Tabl C;
(d)
Memorandwm ac erthyglau cymdeithasiad ar gyfer cwmni wedi’i gyfyngu drwy warant gyda chyfalaf cyfrannau - Tabl D; (ni ellir mwyach ffurfio cwmnïau o’r math hwn);
(e)
Memorandwm ac erthyglau cymdeithasiad ar gyfer cwmni anghyfyngedig gyda chyfalaf cyfrannau - Tabl E; a
(f)
Memorandwm cymdeithasiad ar gyfer Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus - Tabl F
- Cafodd y rheoliadau hyn eu diwygio gan y canlynol -
- Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) 1985 (Offeryn Statudol 1985/1052);
- Gorchymyn Deddf Cwmnïau 1985 (Cyfathrebiadau Electronig) 2000 (Offeryn Statudol 2000/3373);
- Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Diwygiad) 2007 (Offeryn Statudol 2007/2541); a
- Rheoliadau Cwmnïau (Tablau A i F) (Dwiygiad) (Rhif 2) 2007 (Offeryn Statudol 2007/2826);
- Dim ond i gwmnïau wedi’u ffurfio ar neu wedi dyddiad gweithredu’r newidiadau y mae’r diwygiadau i Dablau’r Rheoliadau yn gymwys. Nid effeithiant ar erthyglau cymdeithasiad cwmnïau a gafodd eu ffurfio cyn y pryd hwnnw, hyd yn oed os Tabl A, C neu E heb addasiadau yw’r erthyglau hynny. Os bydd cwmni sy’n bod yn barod yn penderfynu ei fod am fabwysiadu rhai neu bob un o’r darpariaethau mewn Tabl diwygiedig, bydd angen iddo basio penderfyniad ffurfiol i wneud y newidiadau hyn. Nid yw’r Tablau’n gymwys i gwmnïau Hawl i Reoli na Chymdeithasau Cyfunddaliad. Mae memorandwm ac erthyglau’r mathau hyn o gwmni wedi’u pennu yn:
(a) Ar gyfer cwmnïau Hawl i Reoli: ‘Rheoliadau Cwmnïau Hawl i Reoli (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad) (Lloegr) 2003’ (Offeryn Statudol 2003/2120) neu ‘Rheoliadau Cwmnïau Hawl i Reoli (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasiad) (Cymru) 2004’ (Offeryn Statudol 2004/675 (W.64))
(b) Ar gyfer Cymdeithasau Cyfunddaliad: ‘Rheoliadau Cyfunddaliad 2004’ (Offeryn Statudol 2004/1829)
- Rhaid i erthyglau cymdeithasiad Cwmni Buddiant Cymunedol gydymffurfio â gofynion ‘Rheoliadau Cwmnïau Buddiant Cymunedol 2005’ (Offeryn Statudol 2005/1788). Fe welwch enghreifftiau o femoranda ac erthyglau cymdeithasiad Cwmnïau Buddiant Cymunedol ar wefan y rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn www.cicregulator.gov.uk.
Gellir weld Tablau A,C ac E, fel yr addaswyd yn ddiweddar, ar y ddolen isod: www.berr.gov.uk/files/file45416.doc
7. Beth yw Ffurflen 10?
Mae Ffurflen 10 yn rhoi manylion y cyfarwyddw(y)r cyntaf, yr ysgrifennydd a'r cyfeiriad a arfaethir i'r swyddfa gofrestredig. Yn ogystal â'u henwau a'u cyfeiriadau, rhaid i gyfarwyddwyr y cwmni roi eu dyddiad geni, eu galwedigaeth a manylion unrhyw safleoedd eraill fel cyfarwyddwr a ddaliwyd ganddynt yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Rhaid i bob swyddog a benodir a phob tanysgrifydd (neu eu cynrychiolydd) lofnodi a dyddio'r ffurflen.
Nodyn: Does dim rhaid mwyach i gwmnïau preifat fod ag ysgrifennydd cwmni, er y cânt ddewis bod eu herthyglau cymdeithasiad yn mynnu un. Wrth ffurfio cwmni preifat, dim ond os yw’ch cwmni wedi dewis bod ei erthyglau cymdeithasiad yn mynnu bod ysgrifennydd yn cael ei benodi y bydd angen ichi lenwi’r manylion ysgrifennydd ar Ffurflen 10. Rhaid i bob cwmni cyhoeddus barhau i fod ag ysgrifennydd cwmni cymwysedig. – gweler Pennod 2 cwestiwn 4
8. Beth yw swyddfa gofrestredig?
Dyma'r cyfeiriad swyddogol y cwmni a’r cyfeiriad yr anfonir llythyrau a nodiadau atgoffa Tŷ'r Cwmnïau iddo. Gall y swyddfa gofrestredig fod unrhyw le yng Nghymru a Lloegr (os yw’ch cwmni wedi ei gofrestru yno), neu'r Alban (os yw'ch cwmni wedi ei gofrestru yno) neu yng Nghymru os yw’ch memorandwm cymdeithasiad yn dweud rhaid eich swyddfa gofrestredig fod yno (gweler cwestiwn 4 uchod). Rhaid i'r swyddfa gofrestredig bob amser fod yn gyfeiriad effeithiol ar gyfer cyflwyno dogfennau i'r cwmni, ac i osgoi unrhyw oedi mae'n bwysig bod pob gohebiaeth a anfonir i'r cyfeiriad hwn yn cael sylw prydlon. Os yw’ch cwmni am newid cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ar ôl ei gorffori, rhaid ichi roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am y cyfeiriad newydd ar Ffurflen 287 er mwyn i’r newid ddod i rym.
Cyfeiriadau dilys
Bydd Tŷ'r Cwmnïau'n defnyddio ffeil gyfeiriadau Swyddfa'r Post i ddilysu cyfeiriadau; felly, i osgoi unrhyw oedi, byddwch cystal â sicrhau bod y cyfeiriad a fwriedir ar gyfer eich swyddfa gofrestredig wedi ei gydnabod gan Swyddfa'r Post a gofalwch bob amser nodi'r côd post cywir ar ffurflenni a gyflwynir i gael eu cofrestru.
9. Beth yw'r nifer isaf o swyddogion sy'n ofynnol i gwmni?
Rhaid i bob cwmni fod bob amser â swyddogion wedi eu penodi'n ffurfiol.
Mae’n rhaid i gwmni preifat fod ag o leiaf un cyfarwyddwr. Ond gall erthyglau cymdeithasiad y cwmni fynnu mwy nag un. Does dim rhaid i gwmni preifat fod ag ysgrifennydd cwmni, oni bai bod erthyglau cymdeithasiad y cwmni’n mynnu’n unswydd i’r cwmni fod ag un. Am ragor o wybodaeth ynghylch erthyglau cymdeithasiad, gweler cwestiynau (5) a (6) uchod.
Rhaid i gwmni cyhoeddus fod ag o leiaf:
- 2 gyfarwyddwr;
- 1 ysgrifennydd - â chymwysterau ffurfiol, gweler pennod 2.
Mae gan bob swyddogion cwmni gyfrifoldebau eang o dan y gyfraith. Cynhwysir y gofynion allweddol yn ein llyfryn 'Canllaw i Gyfarwyddwyr ac Ysgrifenyddion'.
Ar ôl ffurfio’r cwmni, mae’n rhaid ichi ddweud wrth Dŷ’r Cwmnïau :
- am benodi swyddog newydd - defnyddiwch Ffurflen 288a;
- am swyddog sy'n ymddiswyddo o'r cwmni - defnyddiwch Ffurflen 288b;
- am newidiadau i enwau neu gyfeiriadau swyddogion neu i unrhyw rai o'r manylion eraill a gofrestrwyd yn wreiddiol ar Ffurflen 10 - defnyddiwch Ffurflen 288c; ac/neu
- unrhyw newid i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig – defnyddiwch Ffurflen 287
Gallwch roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am unrhyw rai o’r newidiadau uchod ar-lein drwy drefn WebFiling, yn electronig drwy ddefnyddio pecyn Software Filing addas neu drwy anfon dogfennau papur atom drwy’r post.- gweler Pennod 7
10. A all unrhyw un fod yn gyfarwyddwr cwmni?
Mewn termau cyffredinol, gall, ond ceir nifer o reolau. Allwch chi ddim bod yn gyfarwyddwr cwmni os:
- eich bod yn fethdalydd heb ei ryddfarnu; neu
- eich bod wedi’ch gwahardd rhag dal swydd cyfarwyddwr,
oni bai bod y llys wedi rhoi caniatâd ichi weithredu dros gwmni neu gwmnïau penodol;
Nid yw Deddf Cwmnïau 1985 yn gosod oedran isaf i gyfarwyddwr gael ei benodi yng Nghymru a Lloegr, ar yr amod ei fod yn abl i gydsynio i’w benodiad ei hun..Dylech chi geisio cyngor cyfreithiol os bwriadwch fod â pherson ifanc iawn yn gyfarwyddwr i'ch cwmni.
Y sefyllfa yn yr Alban yw na wnawn dderbyn ffurflen sy’n cofnodi penodiad cyfarwyddwr o dan 16 oed i’w chofrestru. Does gan blentyn o dan 16 oed y cymhwyser cyfreithiol i dderbyn sefyllfa fel cyfarwyddwr – Deddf Cymhwyster Cyfreithiol (Yr Alban) 1991. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Thŷ’r Cwmnïau, Caeredin.
O 1 Hydref 2008 ymlaen, bydd Deddf Cwmnïau 2006 yn cyflwyno oedran isaf o 16 mlwydd ar gyfer cyfarwyddwyr cwmni. Bydd unrhyw gyfarwyddwr a gaiff ei benodi cyn 1 Hydref 2008 ac sydd heb gyrraedd 16 oed cyn y dyddiad hwnnw yn peidio’n awtomatig â bod yn gyfarwyddwr ar 1 Hydref 2008.
Mae cyfyngiad ar rai pobl sydd heb fod o genedligrwydd Prydeinig neu o genedligrwydd arall o fewn yr UE o ran pa waith y cân nhw ei wneud yn y wlad hon. Os bydd arnoch chi angen rhagor o wybodaeth ynghylch a gaiff rhywun felly fynd yn gyfarwyddwr i gwmni wedi ei gofrestru yn y DU, cysylltwch â:
Home Office Immigration and Nationality Department
Lunar House
Wellesley Road
Croydon
CR9 2BY (Ffôn: 0870 606 7766)
11. Beth yw Ffurflen 12?
Mae Ffurflen 12 yn ddatganiad statudol y cydymffurfiwyd â'r holl ofynion cyfreithiol o ran ffurfio cwmni. Rhaid iddi gael ei llofnodi gan y cyfreithiwr sy'n ffurfio'r cwmni, neu gan un o'r bobl a enwyd yn gyfarwyddwr neu'n ysgrifennydd cwmni ar Ffurflen 10. Rhaid ei llofnodi gerbron comisiynydd llŵon, notari cyhoeddus, ynad heddwch neu gyfreithiwr.
12. Beth yw Ffurflen 12?
Mae Ffurflen 12 yn ddatganiad statudol y cydymffurfiwyd â'r holl ofynion cyfreithiol o ran corffori cwmni. Rhaid iddi gael ei llofnodi gan y cyfreithiwr sy'n ffurfio'r cwmni, neu gan un o'r bobl a enwyd yn gyfarwyddwr neu'n ysgrifennydd cwmni ar Ffurflen 10. Rhaid ei llofnodi gerbron comisiynydd llŵon, notari cyhoeddus, ynad heddwch neu gyfreithiwr.
Llofnodi'r datganiad ar Ffurflen 12
- Rhaid i Ffurflen 12 gael ei llofnodi a'i dyddio ar ôl llofnodi a dyddio pob dogfen arall. Y rheswm am hyn yw bod Ffurflen 12 yn cadarnhau bod yr holl ofynion cofrestru eraill wedi eu bodloni.
- Rhaid i'r ffurflen ddangos yn glir a lofnodwyd ar ran cyfarwyddwr corfforaethol. Os ymddengys nad cyfarwyddwr yw'r person a lofnododd, bydd hynny'n achosi oedi.
|
12. Beth am Gwmnïau Buddiant Cymunedol?
Mae Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn fath newydd o gwmni cyfyngedig wedi’i lunio’n benodol i bobl sydd am weithredu er lles y gymuned yn hytrach nag er lles aelodau’r cwmni. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch Cwmnïau Buddiant Cymunedol, y meini prawf ar gyfer ffurfio Cwmni Buddiant Cymunedol, y ddeddfwriaeth berthnasol a ph’un a allai Cwmni Buddiant Cymunedol fod yn gyfrwng priodol i’ch busnes chi i’w chael ar wefan y rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn www.cicregulator.gov.uk.
Wrth i Gwmni Buddiant Cymunedol gael ei ffurfio, bydd arnom angen Ffurflen CIC 36 yn ychwanegol at y dogfennau gofynnol a restrwyd yng nghwestiwn 3 uchod. Mae’r ffurflen hon yn ddatganiad buddiant cymunedol wedi’i lofnodi gan gyfarwyddwyr cynta’r cwmni ac yn ddatganiad na fydd y cwmni, wrth gael ei ffurfio, yn un sydd wedi’i ddiarddel o’r drefn ac y bydd yn dilyn ei weithgareddau er lles y gymuned neu ran o’r gymuned.
Mae’r canlynol yn gwmnïau wedi’u diarddel;
(a) cwmni sydd (neu a fyddai wrth gael ei ffurfio) yn blaid wleidyddol;
(b) cwmni sydd (neu a fyddai wrth gael ei ffurfio) yn gorff ymgyrchu gwleidyddol; neu
(c) cwmni sydd (neu a fyddai wrth gael ei ffurfio) yn is-gwmni i blaid wleidyddol neu gorff ymgyrchu gwleidyddol.
Mae enghraifft o Ffurflen CIC 36 wedi’i llenwi, ynghyd â chanllawiau pellach, i’w cael ar wefan y rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn www.cicregulator.gov.uk.
13. Alla i ddewis unrhyw enw fynna i i'm cwmni?
Na allwch. Ceir rhai cyfyngiadau ar eich dewis o enw cwmni. Mae'n llyfryn 'Enwau Cwmni' yn egluro sut y gall y cyfyngiadau hyn effeithio ar eich dewis enw.
14. Ga i neilltuo’r enw unwaith fy mod wedi gwirio ei fod ar gael?
Na chewch. Ni chewch neilltuo enwau. Ni allwn warantu prosesu ceisiadau ffurfio yn nhrefn gaeth amser neu ddyddiad eu derbyn. Os bydd inni dderbyn yr un pryd - digwyddiad annhebygol - fwy nag un cais am gofrestru’r un enw, dim ond yr un cyntaf i gael ei brosesu y byddid yn ei gofrestru. Yna, byddem yn gwrthod yr ail gais am y byddai’r enw y pryd hwnnw eisoes ar y mynegai enwau cwmni. Ni allai Tŷ’r Cwmnïau roi unrhyw warant o ran pa gais y byddem yn ei brosesu’n gyntaf. At ei gilydd, bydd ceisiadau ffurfio cwmni a gyflwynir yn electronig yn cael eu prosesu ynghynt na cheisiadau cyfatebol a gyflwynir ar bapur.
Gwirio enwau cwmni
Mae'n bwysig gwneud yn siŵr fod yr enw sydd eisiau yn dderbyniol gan Dŷ'r Cwmnïau cyn llenwi'ch dogfennau ffurfio cwmni.
yn gryno, Ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn cofrestru enw sydd:
- yr un fath ag enw arall ar y gofrestr;
- yn cynnwys gair neu eiriau y byddai eu defnyddio yn dramgwydd troseddol; neu
- yn debygol o gael ei ystyried yn dramgwyddus
Mae'n bwysig hefyd i edrych a yw'ch dewis enw'n debyg i unrhyw enwau eraill sydd eisoes ar y gofrestr. Os yw’r enw a ddewiswch yn rhy debyg i un arall, gallai’r Ysgrifennydd Gwladol eich cyfarwyddo, o fewn 12 mis i ffurfio’ch cwmni, i newid enw’r cwmni.
At hyn, os oes cofrestriad nod masnach sydd yr un fath â’r enw cwmni a ddewiswyd gennych neu’n debyg iddo a’ch bod yn yr un math o fusnes, gallech wynebu achos cyfreithiol am dorri nod masnach. Gallwch wirio’r gofrestr nodau masnach yn Swyddfa Eiddo Deallusol y DU cyn cofrestru enw yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Am gyngor pellach, gan gynnwys cyngor ar sut i chwilio’r gofrestr nodau masnach, cysylltwch â Swyddfa Eiddo Deallusol y DU ar 08459 500 505 neu ewch i’w gwefan yn www.ipo.gov.uk.
Newidiodd Y Swyddfa Patentau ei henw i Swyddfa Eiddo Deallusol y D.U. (UK-IPO) ar 2 Ebrill 2007.
Bydd rhai geiriau’n gofyn caniatâd yr Ysgrifennydd Gwladol neu ryw gorff penodedig arall cyn y cewch eu defnyddio.
Sylwer mai dim ond crynodeb byr yw hyn o’r cyfyngiadau y dylid bod yn ymwybodol ohonynt wrth ystyried ffurfio cwmni newydd.
15. Beth sy'n digwydd i'r dogfennau a anfonir at y Cofrestrydd?
Mae pob dogfen ffurfio cwmni yn agored i archwiliadau arbennig, gan gynnwys gwirio darpar-swyddogion yn erbyn y Gofrestr Cyfarwyddwyr Gwaharddedig a gaiff ei gadw gan Dŷ’r Cwmnïau.
A bwrw bod y dogfennau’n bodloni’r gwirio angenrheidiol, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn eu cofrestru ac yn trefnu iddynt fod ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd.
16. Faint mae Tŷ'r Cwmnïau'n ei godi am gorffori cwmni?
Ffeilio ar bapur
Ein ffi gofrestru safonol yw £20 a byddwn yn prosesu dogfennau o fewn 5 diwrnod iddynt ddod i law. Os ydych am i’ch cwmni gael ei ffurfio ynghynt, hwyrach yr hoffech chi ddefnyddio’n gwasanaeth premiwm sy’n darparu ffurfiant yr un diwrnod ag y derbyniwn y dogfennau ffurfio. Fodd bynnag, i gael dewis y gwasanaeth hwn mae’n rhaid ichi gyflwyno’r dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau â llaw cyn 3pm.
Rhaid marcio “Corffori yr Un Diwrnod” yn glir ar amlenni’n cynnwys ceisiadau wedi’u postio, wedi’u hanfon yn llaw negesydd a cheisiadau seliedig eraill am wasanaeth yr un diwrnod.
Gwasanaeth Software Filing
Y ffi safonol yw £15 a chost y gwasanaeth premiwm yr un diwrnod yw £30. I ffurfio cwmni’n electronig, mae’n rhaid ichi naill ai prynu meddalwedd addas neu ddatblygu’ch meddalwedd eich hun. Trowch heibio i’n gwefan www.companieshouse.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Wrth ffurfio Cwmni Buddiant Cymunedol, mae’n rhaid talu ffi ychwanegol o £15 i’r Rheoleiddwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol.
Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn casglu’r ffi hon ar ran y Rheoleiddiwr. Gweler Pennod 4, Cwestiwn 5 isod neu bwriwch gip ar wefan y Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn www.cicregulator.gov.uk am wybodaeth bellach ynghylch ffioedd. Sylwer na fydd y gwasanaeth premiwm yr un diwrnod ar gael i Gwmnïau Buddiant Cymunedol
hyd y gellir rhagweld.
Dylid gwneud sieciau'n daladwy i "Tŷ'r Cwmnïau".
17. Ble galla i gael ffurflenni i gorffori cwmni?
Mae Ffurflenni 10 a 12 ar gael yn rhad ac am ddim gan Dŷ'r Cwmnïau ond ni allwn ddarparu memorandwm nac erthyglau cymdeithasiad. Gellir cael enghreifftiau o'r dogfennau hyn gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr neu asiantiaid ffurfio cwmnïau, a all hefyd ddarparu Ffurflenni 10 a 12. Gwelir enwau a chyfeiriadau'r rhain mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.
Wrth ffurfio Cwmni Buddiant Cymunedol, gallwch gael Ffurflen CIC 36 drwy wefan y Rheoleiddwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn www.cicregulator.gov.uk.
18. Alla i ddelio'n uniongyrchol â Thŷ'r Cwmnïau i ffurfio fy nghwmni?
Gallwch. Ond, er y bydd ein staff yn falch o roi ichi gyfarwyddyd ynglŷn â materion cyffredinol (megis llenwi ffurflenni neu gyngor ynghylch enwau cwmni), ni allant eich cynghori ynghylch cynnwys y memorandwm a'r erthyglau, nac ychwaith ai cwmni corfforedig yw'r cyfrwng gorau i'ch busnes. Os ydych chi'n ansicr ynglŷn ag unrhyw agwedd ar ffurfio cwmni, byddwch cystal â cheisio cyngor cyfreithiol eich cyfreithiwr, eich cyfrifydd neu'ch asiant ffurfio cwmnïau.
Brig
PENNOD 2
Cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus
1. Beth yw cwmni cyfyngedig cyhoeddus?
Fel cwmni cyhoeddus y caiff cwmni cyfyngedig sydd â chyfalaf cyfrannau ei ystyried yn yr amgylchiadau canlynol:
- lle cafodd ei gofrestru neu ei ailgofrestru’n gwmni cyhoeddus ar neu wedi 22 Rhagfyr 1980;
- bod ei femorandwm yn dweud mai cwmni cyhoeddus ydyw;
- bod ei enw’n diweddu â ‘Public Limited Company neu ‘PLC’ (neu os yw’n gwmni Cymreig – sef, yn gwmni y dywed ei femorandwm fod rhaid i’w swyddfa gofrestredig fod yng Nghymru – caiff ddefnyddio’r teitlau Cymraeg cyfatebol 'Cwmni Cyfyngedig Cyhoeddus' neu 'CCC'); a
- bod ganddo gyfalaf cyfrannau< awdurdodedig o £50,000 neu €65,600 o leiaf, a bod ei femorandwm yn nodi hyn.
Gall erthyglau cwmni cyhoeddus fod fel y gosodir yn Nhabl A. Am ragor o wybodaeth ynghylch erthyglau cymdeithasiad, gweler Pennod 1, Cwestiynau [5] a [6] uchod.
Mae’r pwynt ychwanegol a ganlyn yn gymwys i Gwmni Buddiant Cymunedol sydd hefyd yn gwmni cyhoeddus:
- rhaid i’w enw ddiweddu â 'community interest public limited company' neu 'community interest p.l.c.' (neu os yw’n gwmni Cymreig, caiff ddefnyddio’r teitlau Cymraeg cyfatebol 'cwmni buddiant cymunedol cyhoeddus cyfyngedig' neu 'cwmni buddiant cymunedol c.c.c').
- mae memoranda ac erthyglau cymdeithasiad enghreifftiol ar gyfer cwmnïau o’r fath i’w cael ar wefan y Rheoleiddwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn www.cicregulator.gov.uk
2. Pryd caiff cwmni cyhoeddus ddechrau gwneud busnes?
Ni chaiff cwmni cyhoeddus newydd ei ffurfio ddechrau gwneud busnes nac arfer unrhyw bwerau benthyca nes bod ganddo dystysgrif wedi ei rhoi o dan adran 761 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (yn gynt o dan ,adran 117 o Ddeddf Cwmnïau 1985).
Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn caniatáu Tystysgrif Fasnachu i gwmni cyhoeddus os yw’n fodlon nad yw gwerth cyfalaf cyfrannau clustnodedig y cwmni yn llai na £50,000 neu €65,600. Rhaid bodloni’r rheidrwydd hwn yn gyfan gwbl naill ai drwy arian sterling neu ewros, gan na fydd cymysgedd rhwng y ddau yn ddigon i ddiwallu’r gofynion cyfreithiol. (Nid yw hyn yn atal gweddill cyfalaf y cwmni rhag bod ar ffurf cymysgedd rhwng sterling, ewros a hyd yn oed fathau eraill o arian treigl.)
Gallwch wneud cais am dystysgrif fasnachu drwy gyflwyno cais i Dŷ’r Cwmnïau ar Ffurflen 117 wedi’i haddasu i gymryd i ystyriaeth newidiadau wedi’u gwneud gan Ddeddf Cwmnïau 2006.
I gynorthwyo ymgeiswyr, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cynhyrchu fersiwn addasedig o Ffurflen 117 sy’n cymryd y newidiadau i ystyriaeth Ffurflen 117 ddiwygiedig. Hwyrach y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol am yr addasiadau sydd angen i gael parhau i ddefnyddio Ffurflen 117 gyfredol.
Unwaith ei caiff ei chaniatáu, mae tystysgrif fasnachu’n brawf bod gan y cwmni hawl i wneud busnes ac arfer pwerau benthyca. Bydd Tŷ’r Cwmnïau fel arfer yn postio’r dystysgrif atoch, ond gallwn anfon copi ffacs i’w gasglu yn unrhyw un o swyddfeydd Tŷ’r Cwmnïau os gofynnwch am hyn wrth gyflwyno’ch ffurflen gais.
Sylwer bod gwybodaeth bellach am gyfalaf cyfrannau i’w chael yn ein llyfryn canllaw ‘Cyfalaf Cyfrannau a Llyfrynnau Prosbectws’
3. A gaiff cwmni cyhoeddus ddosbarthu cyfrannau mewn arian treigl arall?
Caiff, caiff cwmni cyhoeddus ddosbarthu cyfrannau mewn arian treigl arall yn lle sterling (neu, fel y bo’r achos, yn lle ewros), ar yr amod bod hyn yn rhan o’i gyfalaf cyfrannau awdurdodedig. Caiff cwmni ddefnyddio cymaint o fathau o arian treigl ag y myn ar gyfer ei gyfalaf cyfrannau, ar yr amod eu bod yn fathau gwir.
Ond nid yw hyn yn newid y rheidrwydd cychwynnol ynglŷn â’r lleiafswm cyfalaf cyfrannau clustnodedig y mae’n rhaid iddo fod ym meddiant cwmni cyhoeddus. Eglurwyd y rheidrwydd hwnnw uchod a dim ond drwy arian sterling, neu, os bydd y cwmni’n dewis yn benodol i’r perwyl hwnnw, drwy arian ewro, y gellir ei fodloni. Ni chaiff unrhyw arian treigl arall ei gymryd i ystyriaeth i’r diben hwn.
4. Oes unrhyw gyfyngiadau eraill ar gwmni cyhoeddus?
Oes. Mae sawl cyfyngiad allweddol:
- Rhaid i gwmni cyhoeddus fod ag o leiaf dau aelod ac o leiaf dau gyfarwyddwr cwmni (a allai hefyd fod yn aelodau o’r cwmni cyhoeddus).
- Rhaid i gwmni cyhoeddus fod ag o leiaf un ysgrifennydd y mae’n ymddangos i’r cyfarwyddwyr fod ganddo’r wybodaeth a’r gallu angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau ac sy’n bodloni o leiaf un o’r cymwysterau canlynol:
(a) am o leiaf tair o'r pum mlynedd cyn ei b/phenodi, wedi dal swydd ysgrifennydd i gwmni cyhoeddus; neu
(b) yn fargyfreithiwr, yn adfocad neu'n gyfreithiwr a alwyd neu a dderbyniwyd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig; neu
(c) yn rhywun, yn rhinwedd ei b/phrofiad blaenorol neu ei (h)aelodaeth o gorff arall, yr ymddengys i'r cyfarwyddwyr ei f/bod yn alluog i gyflawni swyddogaethau ysgrifennydd; neu
(d) yn aelod o unrhyw un o'r cyrff canlynol:
- Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr;
- Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban;
- Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon;
- Sefydliad yr Ysgrifenyddion a'r Gweinyddwyr Siartredig;
- Cymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig;
- Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (gynt Sefydliad y Cyfrifwyr Costio a Rheoli); neu
- y Sefydliad Siartredig ar gyfer Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg.
- Ni all cwmni cyhoeddus fanteisio ar lawer o'r darpariaethau a'r eithriadau sy'n gymwys i gwmnïau preifat o dan y Ddeddfau Cwmnïau, megis eithrio cwmnïau preifat bach rhag archwilio ariannol.
- Ni all cwmni cyhoeddus wneud cais am ddileu'n wirfoddol o'r gofrestr o dan adran 652A, Deddf Cwmnïau 1985. Mae gwybodaeth bellach am hyn i'w chael yn ein llyfryn 'Dileu o'r Gofrestr, Diddymu ac Adfer'.; ac
- Fel arfer, dim ond 6 mis ar ôl diwedd ei ‘gyfnod cyfeirnod cyfrifeg’ fydd gan gwmni cyhoeddus (7 mis ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau cyn 6 Ebrill 2008) i gyflwyno’i gyfrifon a’i adroddiadau i Dŷ’r Cwmnïau, ond mae’n rhaid cyflwyno’i gyfrifon cyntaf o fewn 18 mis iddo gael ei ffurfio neu 3 mis i ddiwedd ei gyfnod cyfeirnod cyfrifeg cyntaf, p’un bynnag fo ddiweddaraf. Caiff cosb sifil ei thynnu os bydd yn cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau ar ôl yr amser statudol a ganiateir i ffeilio. Mae’r cosbau wedi’u hegluro’n llawn yn ein llyfryn ‘Cosbau Ffeilio Hwyr’.
(Gweler Pennod 6, Cwestiynau 1-5 isod am ragor o wybodaeth)
5. Beth, wedyn, yw mantais cwmni cyhoeddus?
Bydd gan gwmni cyhoeddus fynediad i farchnadoedd cyfalaf a chaiff gynnig gwerthu ei gyfrannau i’r cyhoedd (fel arfer, ond nid bob tro), drwy gyfnewidfa stoc gydnabyddedig. Caiff hefyd ddosbarthu hysbysiadau’n cynnig gwerthu unrhyw rai o’i warannoedd i’r cyhoedd. O’i wrthgyferbynnu, ni chaiff cwmni preifat sydd â chyfalaf cyfrannau gynnig ei gyfrannau i’r cyhoedd.
6. Ydy’r rheolau hyn yn gymwys i gwmni cyhoeddus tramor?
Nid yw mwyafrif y rheolau uchod yn gymwys i gwmni a gafodd ei ffurfio dramor. Wrth sefydlu cangen neu le busnes ym Mhrydain Fawr, mae’n rhaid i gwmnïau wedi’i ffurfio y tu allan i’r Deyrnas Unedig a Gibraltar gydymffurfio â rheolau Rhan XXIII o Ddeddf Cwmnïau 1985.
Fodd bynnag, yn ychwanegol at y rheoliadau a gaiff eu gosod yng ngwlad ei ffurfio, a gofynion Rhan XXIII o’r Ddeddf, bydd cwmni cyhoeddus tramor hefyd wedi’i lywio gan rannau arbennig o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000, a chan Gôd y Ddinas ar Feddiannu ac Uno Cwmnïau.
Brig
PENNOD 3
Cwmnïau unig aelod
1. Beth yw cwmni unig aelod?
Cwmni unig aelod yw cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau neu warant ac a fformir gydag un aelod, neu y caiff ei aelodaeth ei leihau i un aelod.
2. Sut gall unig aelod gynnal cyfarfodydd cyffredinol?
Mae un aelod – yn bresennol yn bersonol neu drwy ddirprwy – yn gworwm yn yr amgylchiadau hyn. Os cynhaliwch gyfarfod o’r fath, rhaid ichi sôn amdano yn y cofnodion
Os cymrwch benderfyniad fel unig aelod, ar wahân i drwy benderfyniad ysgrifenedig ffurfiol gan y cwmni, mae’n rhaid rhoi cofnod ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r cwmni. (Diben hyn yw sicrhau parhad y cofnodion os byddwch yn gwerthu rhan neu’r cyfan o’ch buddiant yn y cwmni.)
3. Sut dylai cwmni gofnodi contract anysgrifenedig ag unig aelod?
Os bydd i'r cwmni dynnu contract anysgrifenedig â'r unig aelod sydd hefyd yn gyfarwyddwr i'r cwmni (a'r contract heb fod yn rhan o fusnes arferol y cwmni), rhaid i'r cwmni sicrhau bod telerau'r contract yn cael eu nodi mewn memorandwm neu yng nghyfarfod nesa'r cyfarwyddwyr.
4. Beth am y gofrestr aelodau?
Rhaid i gofrestr aelodau'r cwmni gofnodi ei aelodau'n fanwl-gywir.
Os corfforir cwmni gydag un aelod, yna bydd rhaid i'r gofrestr adlewyrchu hynny. Rhaid i gofrestr aelodau cwmni un-aelod gynnwys datganiad unswydd i’r perwyl mai dim ond un aelod sydd i’r cwmni, gan nodi’r dyddiad y daeth y cwmni’n gwmni un-aelod.
Os oedd mwy nag un aelod gan y cwmni’n wreiddiol a bod yr aelodaeth yn gostwng i un, yna mae’n rhaid i’r gofrestr gynnwys datganiad unswydd i’r perwyl mai dim ond un aelod sydd i’r cwmni, gan nodi’r dyddiad y daeth y cwmni’n gwmni un-aelod.
Os bydd aelodaeth cwmni un-aelod yn cynyddu’n ddiweddarach, mae’n rhaid ichi gofnodi manylion pob aelod newydd yn y gofrestr aelodau. Dylech gofnodi datganiad unswydd i’r perwyl nad yw’r cwmni’n gwmni un-aelod mwyach, gyda’r dyddiad y daeth hynny i fod.
Brig
PENNOD 4
Ailgofrestru cwmni a hefyd troi cwmni yn Gwmni Buddiant Cymunedol
1. A all cwmni preifat droi'n cwmni cyhoeddus?
Gall. Gall cwmni preifat wedi ei gyfyngu drwy gyfrannau a chwmni anghyfyngedig gyda chyfalaf cyfrannau ailgofrestru'n cwmni cyhoeddus, ond ni all cwmni heb gyfalaf cyfrannau. Mae’n rhaid i gwmni preifat sydd am ddod yn gwmni cyhoeddus fabwysiadu penderfyniad arbennig y dylai gael ei ailgofrestru felly’n gwmni cyhoeddus, gan gyflwyno copi o’r penderfyniad, ynghyd â’r ffurflen gais, i Dŷ’r Cwmnïau. Rhaid hefyd i’r penderfyniad:
- ddiwygio memorandwm y cwmni fel ei fod yn dweud bod y cwmni i fod yn gwmni cyhoeddus;
- gwneud unrhyw newidiadau eraill i’r memorandwm yn ôl yr angen er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â chwmni cyfyngedig cyhoeddus; a
- gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i erthyglau cymdeithasiad y cwmni
Mae gwybodaeth bellach am benderfyniadau i'w chael yn ein llyfryn 'Penderfyniadau'.
Mae’n rhaid i un o gyfarwyddwyr neu ysgrifennydd y cwmni lofnodi’r datganiad sydd i fod ar Ffurflen 43(3), gan gyflwyno hefyd y canlynol:
- copi o femorandwm ac erthyglau cymdeithasiad y cwmni wedi’u diwygio yn unol â’r penderfyniad arbennig a drafodwyd uchod;
- copi o fantolen wedi’i pharatoi nid mwy na 7 mis cyn dyddiad y cais, ynghyd â chopi o adroddiad diamod gan archwilwyr ariannol y cwmni;
- copi o ddatganiad ysgrifenedig gan archwilwyr ariannol y cwmni yn dweud nad oedd asedion net y cwmni ar ddyddiad y fantolen, yn eu barn nhw, yn llai na chyfalaf cyfrannau galwedig y cwmni a’i gronfeydd annosbarthadwy;
- copi o adroddiad prisio yn ymwneud ag unrhyw gyfrannau a gafodd eu clustnodi wedi’u talu’n llawn neu’n rhannol heblaw am drwy arian parod, ar ôl dyddiad y fantolen ond cyn mabwysiadu’r penderfyniad arbennig;
- datganiad statudol wedi’i wneud gan un o gyfarwyddwyr neu ysgrifennydd y cwmni ar Ffurflen 43(3)(e) yn cadarnhau bod y cwmni wedi mabwysiadu’r penderfyniad ac na fu newid i sefyllfa ariannol y cwmni sydd wedi achosi gostwng ei asedion net yn is na swm cyfranred ei gyfalaf cyfrannau galwedig a’i gronfeydd annosbarthadwy; a
- Ffurflen Benodi 288(a) os nad oes ysgrifennydd penodedig gan y cwmni, gan ei bod yn ofynnol i gwmni cyhoeddus fod ag ysgrifennydd cwmni cymwysedig.
Yn ychwanegol at y gofynion uchod, mae’n rhaid i gwmni preifat sy’n ceisio ailgofrestriad fel cwmni cyhoeddus feddu, adeg mabwysiadu’r penderfyniad arbennig i ailgofrestru, ar gyfalaf cyfrannau clustnodedig sydd â gwerth nominal o nid llai na £50,000 neu €65,600. Rhaid i bob un o’r cyfrannau clustnodedig fod wedi’i thalu hyd at chwarter y gwerth nominal, ynghyd â’r premiwm cyfan os oes un.
Sylwer: Os dymunwch ailgofrestru’n gwmni cyhoeddus ac os byddwch yn dewis bodloni’r rheidrwydd cyfalaf cyfrannau isaf drwy ewros yn hytrach nag arian sterling, mae angen gwneud y dewis hwn drwy fabwysiadu Ffurflen 43(3). I gynorthwyo ymgeiswyr, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cynhyrchu fersiwn diwygiedig o Ffurflen 43(3) sy’n cydymffurfio â’r rheidrwydd i wneud dewis penodol i ddefnyddio ewros. Os dymunwch, cewch barhau i ddefnyddio Ffurflen benodedig 43(3) ond bydd angen ichi ei haddasu wrth wneud y dewis i ddefnyddio ewros.
Ffurflen benodedig 43(3) heb ei haddasu yw’r ffurflen briodol i’w defnyddio o hyd ar gyfer cwmnïau sy’n bodloni’r rheidrwydd cyfalaf cyfrannau isaf drwy arian sterling.
Yn ychwanegol at yr uchod, mae’n rhaid i gwmni anghyfyngedig:
- gynnwys datganiad yn ei benderfyniad arbennig i’r perwyl bod atebolrwydd yr aelodau i fod wedi’i gyfyngu ac yn nodi lefel arfaethedig cyfalaf cyfrannau’r cwmni; a
- gwneud y newidiadau hynny sydd angen i’r memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad er mwyn iddynt gydymffurfio â’r rhai sy’n briodol i gwmni wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau.
2. A all cwmni cyhoeddus droi'n gwmni preifat?
Caiff. Caiff cwmni cyhoeddus ailgofrestru’n gwmni preifat wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau neu drwy warant, drwy fabwysiadu penderfyniad arbennig i wneud felly. Ond os bydd digon o aelodau’n gwrthwynebu mabwysiadu’r penderfyniad, gallant wneud cais i’r Llys (o dan adran 54 o Ddeddf Cwmnïau 1985) i ddileu’r penderfyniad. Bydd angen gwneud y cais hwn o fewn 28 diwrnod i fabwysiadu’r penderfyniad. Gall y Llys naill ai dileu neu gadarnhau’r penderfyniad arbennig wrth wrando cais o’r fath.
Rhaid i’r cais a gyflwynir i Dŷ’r Cwmnïau am ailgofrestriad fod ar Ffurflen 53. Rhaid cyflwyno gyda’r Ffurflen 53 gopïau o’r penderfyniad, ac o femorandwm ac erthyglau cymdeithasiad y cwmni fel y cawsant eu haddasu i gwrdd ag amgylchiadau newydd y cwmni.
Gall y Llys hefyd orchymyn i gwmni cyhoeddus ailgofrestru’n un preifat wrth gymeradwyo ‘cofnod lleihau’ yng nghyswllt y cyfalaf cyfrannau sy’n golygu bod y cyfalaf cyfrannau dosbarthedig yn syrthio islaw’r isafswm statudol.
Mewn achos o’r fath bydd y Llys hefyd yn pennu diwygiadau i femorandwm ac erthyglau cymdeithasiad y cwmni. Nid yw penderfyniad arbennig i ailgofrestru yn ofynnol yn yr amgylchiadau hyn.
Fel arall, efallai y bydd yn rhaid i gwmni cyhoeddus ailgofrestru’n breifat os bydd i’w gyfalaf cyfrannau clustnodedig ddisgyn islaw’r lleiafswm statudol drwy ryw ddull arall ar wahân i Orchymyn Llys. Mae dulliau eraill y cynnwys fforffedu , ildio neu feddiannu cyfrannau.
Ymhob achos (ac eithrio lle bo llys wedi pennu mewn gorchymyn y diwygiadau sydd i’w gwneud), bydd angen i’r cwmni fabwysiadu penderfyniad i ddiwygio’r memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad i fodloni gofynion cwmni preifat.
3. Beth yw cost ailgofrestru (i gwmnïau heb gynnwys cwmnïau Buddiant Cymunedol)?
Y ffi safonol am ailgofrestru yw £20, neu £50 am wasanaeth premiwm yr un diwrnod. Os yw’r cwmni’n ailgofrestru ac yn newid enw ys un pryd, bydd ffi ychwanegol o £10 am newid enw hefyd yn daladwy, felly'r ffi gyfan fydd £30 (neu 3100 am wasanaeth premiwm yr un diwrnod).Yn gryno, mae’r ffioedd am:
- Newid enw £10
- Newid enw yr un diwrnod £50
- Ailgofrestru £20
- Ailgofrestru yr un diwrnod £50
- Ailgofrestru a newid enw gyda’i gilydd £30 ac
- Ailgofrestru a newid enw gyda’i gilydd yr un diwrnod £100
Byddai dileu’r geiriau ‘cwmni’ neu ‘a’r cwmni’ (neu eu talfyriadau neu’r geiriau Saesneg cyfatebol) o enw’r cwmni fel arfer yn golygu newid enw. Ond nid yw hyn yn wir wrth ailgofrestru. Os bydd gennych chi unrhyw amheuon ynglŷn â’r ffi briodol, cysylltwch â ni.
4. A all cwmni presennol droi’n Gwmni Buddiant Cymunedol?
Gall, fe all cwmni presennol wneud cais i’r Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol am droi’n Gwmni Buddiant Cymunedol. Am fanylion pellach, cyfeiriwch at y wefan Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol www.cicregulator.gov.uk
5.Beth yw ffioedd Cwmnïau Buddiant Cymunedol?
Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn casglu ffioedd ar ran y Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol. Dyma restr lawn y ffioedd ar gyfer Cwmnïau Buddiant Cymunedol:
- Trosi’n Gwmni Buddiant Cymunedol: £25 (mae £15 i’w briodoli i Dŷ’r Cwmnïau a £10 i’r Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol)
- Newid enw: £10 (i’w briodoli’n llwyr i Dŷ’r Cwmnïau)
- Newid statws (e.e. o breifat i gyhoeddus): £35 (mae £20 i’w briodoli i Dŷ’r Cwmnïau a £15 i’r Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol)
- Trosi i Gwmni Buddiant Cymunedol a newid statws yr un pryd (Ailgofrestru): £35 (mae £20 i’w briodoli i Dŷ’r Cwmnïau a £15 i’r Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol)
Sylwer: na fydd gwasanaeth yr un diwrnod ar gael i gwmnïau BC yn y dyfodol agos.
Brig
PENNOD 5
Cyhoeddi enw'r cwmni, a'r manylion sydd i'w dangos ar ddeunydd ysgrifennu'r cwmni
O dan Ddeddf Cwmnïau 1985, rhaid i bob cwmni nodi ei enw (fel yr ymddengys yn ei femorandwm cymdeithasiad) mewn mannau arbennig ac ar ddeunydd ysgrifennu'r busnes. Rhaid i bob cwmni hefyd roi gwybodaeth arbennig ar ei holl lythyrau busnes, ffurflenni archebu a gwefannau.
1. Ble mae'n rhaid dangos enw'r cwmni?
Rhaid i bob cwmni beintio neu osod ei enw y tu allan i bob swyddfa neu leoliad lle dilynir busnes - hyd yn oed os cartref un o'r cyfarwyddwyr fydd hynny. Rhaid i'r enw fod wedi ei beintio neu ei osod yn gyson a rhaid iddo fod yn amlwg ac yn ddarllenadwy.
2. Ar ba ddogfennau mae'n rhaid dangos enw'r cwmni?
Rhaid i’r cwmni nodi’i enw, mewn llythrennau darllenadwy, ar y canlynol:- (p’un ai fel copi caled, ar ffurf electronig neu unrhyw ffurf arall):
- holl lythyrau busnes y cwmni ac ffurflenni archebu;
- ei holl hysbysiadau a chyhoeddiadau swyddogol eraill;
- pob bil cyfnewid, addaweb, arnodiad, siec ac archeb arian neu archeb nwyddau yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y cwmni;
- ei holl ddatganiadau o eitemau taladwy, anfonebau, derbynebau a llythyrau credyd; ac
- ar ei holl wefannau
3. Oes rhaid imi ddangos unrhyw fanylion cwmni eraill?
Oes. Ar ei holl lythyrau busnes, ffurflenni archebu (p’un ai fel copi caled, ar ffurf electronig neu unrhyw ffurf arall) a gwefannau’r cwmni, mae'n rhaid i'r cwmni ddangos mewn ysgrifen ddarllenadwy:
- Leoliad ei gofrestru a'i rif cofrestru a
- Chyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Os bydd llythyr busnes neu ffurflen archebu neu unrhyw wefannau sydd gan y cwmni yn sôn am fwy nag un cyfeiriad, argymhellir eich bod yn nodi p'un o'r cyfeiriadau yw cyfeiriad y swyddfa gofrestredig
Rhaid i'r lleoliad cofrestru fod yn un o'r canlynol, fel y bo'n briodol:
| I gwmnïau wedi eu cofrestru
yng Nghymru a Lloegr: |
I gwmnïau wedi eu cofrestru
yn yr Alban: |
| Cofrestrwyd yng Nghaerdydd |
Cofrestrwyd yn yr Alban |
| Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr |
Cofrestrwyd yng Nghaeredin |
| Cofrestrwyd yng Nghymru |
|
| Cofrestrwyd yn Lloegr |
|
| Cofrestrwyd yn Llundain |
|
4. Oes rhaid imi ddangos enwau cyfarwyddwyr?
Does dim rhaid i gwmni nodi enwau'r cyfarwyddwyr ar ei lythyrau busnes, ond os dewisa wneud hynny, rhaid iddo nodi enw pob cyfarwyddwr. Mewn geiriau eraill, ni all cwmni fod yn ddetholus o ran enwau pa gyfarwyddwyr a ddengys - rhaid iddo eu dangos i gyd neu ddim un.
5. Oes rhaid dangos unrhywbeth arall?
Rhaid i rai mathau o gwmni ddangos yr wybodaeth ganlynol hefyd ar eu llythyrau busnes, ffurflenni archebu (boed ar gopi caled, ffurf electronig neu unrhyw ffurf arall) ac ar wefannau:
Ar gyfer cwmni sydd â chyfalaf cyfrannau, does dim angen nodi'r cyfalaf cyfrannau ar y deunydd ysgrifennu, ond os dewisa'r cwmni wneud hynny, rhaid iddo nodi ei gyfalaf cyfrannau taledig, nid ei gyfalaf awdurdodedig.
6. Oes yna reolau arbennig i gwmnïau elusennol?
Nid yw adran 68 y Ddeddf Elusennau 1993 yn mynnu gan gwmni elusennol gynnwys y gair 'elusen' ('charity') neu 'elusennol' ('charitable') yn ei enw.
O dan adran yr adran hon, mae'n rhaid i gwmni elusennol nad yw ei enw'n cynnwys y gair 'elusen' ('charity') neu 'elusennol' ('charitable') nodi'r ffaith mai elusen ydyw ar bob dogfen a restrwyd o dan gwestiwn 2, ar bob bil a ddosbartha ac ar unrhyw drawsgludiadau a gyflawna.
Nid yw Deddf Elusennau 1993 yn gymwys i gwmnïau elusennol wedi eu cofrestru yn yr Alban ond mae’r un rheol yn gymwys i gwmnïau Albanaidd o dan ddarpariaeth gyfatebol yn adran 112(6) o Ddeddf Cwmnïau 1989. .
7. Ydy'r rheolau'n gymwys i gwmnïau tramor?
Mae’n rhaid i gwmni a gafodd ei ffurfio y tu allan i Brydain Fawr ac sy’n agor cangen neu le busnes ym Mhrydain Fawr gofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau a rhaid iddo arddangos yn gyhoeddus fanylion tebyg i’r rhai a nodir yn y bennod hon. Rhestrir manylion llawn yn ein llyfryn, 'Oversea Companies'.
8. Beth os yw’r cwmni’n cael ei ddirwyn i ben?
Os yw’r cwmni’n cael ei ddirwyn i ben, rhaid i bob anfoneb, archeb nwyddau, llythyr busnes neu ffurflen archebu (boed ar gopi caled, ffurf electronig neu unrhyw ffurf arall) a holl wefannau’r cwmni gynnwys datganiad bod y cwmni yn cael ei ddirwyn i ben.
Brig
PENNOD 6
Y cwmni newydd - edrych ymlaen
Mae gan gyfarwyddwyr cwmni gyfrifoldeb personol am drefnu i wybodaeth am fframwaith cyfalaf, rheolaeth a gweithgareddau eu cwmnïau fod ar gael i aelodau'r cwmni ac i'r cyhoedd yn gyffredinol.
1. A fydd rhaid imi baratoi cyfrifon?
Bydd. I bob cwmni sydd ag atebolrwydd wedi’i gyfyngu, nodwedd bwysig ar y gyfraith gwmnïau yw’r rheidrwydd, at ei gilydd, i gyfarwyddwyr y cwmni baratoi cyfrifon unwaith y flwyddyn er lles aelodau’r cwmni a ffeilio set o gyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau i’w cynnwys ar y gofrestr gyhoeddus.
Mae darpariaethau manwl (a mwyafrif y rheiny i’w cael bellach yn Neddf Cwmnïau 2006 a’r rheoliadau a wnaed o dani) o ran diwyg priodol eich cyfrifon. Darperir hefyd a fydd angen i’r cyfrifon gael eu harchwilio’n ffurfiol, a fydd angen cyflwyno unrhyw adroddiadau eraill gyda nhw i Dŷ’r Cwmnïau, a phwy sydd â hawl i weld a sicrhau copïau o gyfrifon eich cwmni. Mewn termau cyffredinol, os yw’ch cwmni’n gwmni cyhoeddus bydd y gofynion cyfrifeg yn uwch nag os yw’ch cwmni’n gwmni preifat bach.
Os yw’ch cwmni’n anghyfyngedig, rhaid cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau yn yr amgylchiadau canlynol:
- ei fod yn is-ymgymeriad neu’n rhiant i gwmni cyfyngedig; neu
- ei fod wedi bod yn gwmni bancio neu yswiriant, neu wedi gweithredu cynllun stampiau masnachu yn ystod y cyfnod a fodlonir gan y cyfrifon.
Fe welwch wybodaeth bellach yn ein llyfryn canllaw ‘Cyfrifon a Dyddiadau Cyfeirnod Cyfrifeg’.
Fodd bynnag, ni all Tŷ’r Cwmnïau gynghori ynghylch cynnwys cyfrifon cwmnïau. Argymhellwn, felly, fod cwmnïau’n ystyried ceisio cyngor proffesiynol wrth baratoi cyfrifon.
2. Pa gyfnod y dylai'r cyfrifon ei fodloni?
Rhaid i gyfrifon cynta’r cwmni ddechrau ar ddydd ei ffurfio.. Rhaid i'r flwyddyn ariannol gyntaf ddod i ben ar y 'dyddiad cyfeirnod cyfrifeg' neu ar ddyddiad hyd at saith diwrnod y naill ochr neu'r llall i'r dyddiad hwn (gweler cwestiwn 3 isod). Bydd cyfrifon olynol yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad diwedd-blwyddyn y cyfrifon blaenorol. Deuant i ben ar y 'dyddiad cyfeirnod cyfrifeg' nesaf neu ar ddyddiad hyd at saith diwrnod y naill ochr neu'r llall.
3. Sut pennir y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg?
Y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yw’r dyddiad a ddefnyddir bob blwyddyn i bennu blwyddyn ariannol y cwmni. Ar gyfer pob blwyddyn ariannol y caiff ei gyfrifon eu llunio. I bob cwmni newydd, caiff y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf ei bennu’n awtomatig fel blwyddyn ar ôl dydd ola’r mis y ffurfiwyd y cwmni. Bydd y dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg olynol ar yr un dydd bob blwyddyn yn awtomatig. Er enghraifft, os cafodd y cwmni ei ffurfio ar 6 Ebrill 2008, pennid 30 Ebrill 2009 yn ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddo, a 30 Ebrill bob blwyddyn wedyn.
4. Oes modd newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg?
Oes. Y ffordd gyflymaf a hawsaf i newid eich dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yw drwy ddefnyddio’n gwasanaethau Software Filing a WebFiling. Fel arall, gallwch anfon Ffurflen 225 at Dy’r Cwmniau. Rhaid ichi wneud hyn o fewn y cyfnod cyfrifeg yr effeithir arno gan y newid neu yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno'r cyfrifon cysylltiedig inni.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein llyfryn 'Cyfrifon a Dyddiadau Cyfeirnod Cyfrifeg'
5. Faint o amser sydd gen i i gyflwyno cyfrifon?
Mae hyn yn dibynnu ar y “cyfnod cyfeirnod cyfrifeg”, sef y cyfnod o 12 mis yn dod i ben ar bob dyddiad cyfeirnod cyfrifeg
Mae'n rhaid cyflwyno cyfrifon cyntaf cwmni preifat:
- ofewn 9 mis i ddiwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg; neu
- os yw'r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg cyntaf yn hwy na 12 mis, o fewn 21 mis i ddyddiad ei ffurfio, neu dri mis i ddiwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg, p'un bynnag sydd hwyaf.
Rhaid cyflwyno cyfrifon cyntaf cwmni cyhoeddus :
- o fewn 6mis i ddiwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg; neu
- os yw'r cyfnod cyfeirnod cyfrifeg yn hwy na 12 mis, o fewn 19 mis i'r dyddiad ei ffurfio, neu dri mis i ddiwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg, p'un bynnag sydd hwyaf.
Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau cyn 6 Ebrill 2008, yr amser a ganiateir i ffeilio cyfrifon yw mis yn fwy ymhob achos.
6. Beth am y ffurflen flynyddol?
Rhaid i bob cwmni gyflwyno ffurflen flynyddol i Dy’r Cwmniau o leiaf unwaith bob 12 mis. Dyma ddogfen fydd yn rhoi gwybodaeth neilltuol am faterion y cwmni ar ddyddiad arbennig yn y flwyddyn, a elwir yn ‘ddyddiad cyfreithiol cyfleu manylion’. Mae’r wybodaeth sydd angen wedi’i phennu yn Neddf Cwmnïau 1985.
Mae gan eich cwmni 28 diwrnod o’i ddyddiad cyfreithiol cyfleu-manylion i gyflwyno’r ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau. Am wybodaeth bellach gweler ein llyfryn “Ffurflenni Flynyddol”
7. Beth arall sy'n rhaid imi ei ddweud wrth Dŷ'r Cwmnïau?
Dyma rai o'r pethau pwysig y mae'n rhaid ichi ddweud wrthym amdanynt. Yn y mwyafrif o achosion, bydd terfyn amser ar gyfer hysbysu Tŷ’r Cwmnïau am y newid perthnasol ac mae ffurflen wedi’i chreu’n arbennig ichi ei defnyddio i roi gwybod inni am y newid.
| penodiadau |
defnyddiwch ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, neu Ffurflen 288a |
| ymddiswyddiadau |
defnyddiwch ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, neu Ffurflen 288b |
| newid manylion personol |
defnyddiwch ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, neu Ffurflen 288c |
Cyfrannau
Penderfyniadau
- Unrhyw benderfyniad arbennig a rhai mathau o benderfyniad arferol (p’un a gaiff ei fabwysiadu mewn cyfarfod neu yn ysgrifenedig), o fewn 15 diwrnod i’r cwmni eu mabwysiadu.
- Does dim ffurflen arbennig ond bydd angen inni gael copi o’r penderfyniad. Mae gwybodaeth bellach am benderfyniadau cwmni i’w chael yn ein llyfryn Penderfyniadau, ‘Penderfyniadau’.
- Lle bo penderfyniad yn newid memorandwm neu erthyglau cymdeithasiad y cwmni, mae’n rhaid hefyd anfon copi o’r ddogfen ddiwygiedig yr un pryd â’r penderfyniad.
Morgeisiau
- Manylion unrhyw forgais neu arwystl a greir gan y cwmni, o fewn 21 diwrnod ar ôl dyddiad creu yr arwystl.. Gweler ein llyfryn 'Arwystlon a Morgeisiau Cwmni' neu ar gyfer cwmnïau Albanaidd 'Company Charges (Scotland)'.Ond ni fydd angen i’r cwmni wneud hyn os caiff ei gyflawni gan y sawl (megis banc sy’n rhoi benthyg arian) sy’n dal budd y morgais neu’r arwystl.
Cyfeiriad Swyddfa Gofrestredig
- Newid swyddfa gofrestredig, o fewn 14 diwrnod. Defnyddiwch ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, - (neu Ffurflen 287). Sylwer nad yw’r newid cyfeiriad yn dod i rym cyfreithiol nes i Dŷ’r Cwmnïau gofrestru’r hysbysiad a gyflwynwch i roi gwybod inni am y newid.
Cyflwyno manylion cyfarwyddwyr a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig trwy’r dull electronig:
Cynllun PROOF (PRO tected On-line Filing) y Cofrestrydd
Mae cyfarwyddwyr yn dal safle pwysig o fewn y cwmni: mae ganddynt y pŵer i brynu, a gwneud trefniadau credyd ar ran y cwmni. Yn yr un modd, mae cyfeiriad y swyddfa gofrestredig yn bwysig am mai dyma lle’r anfonir pob gohebiaeth swyddogol.
Caiff cofnodion Tŷ’r Cwmnïau eu defnyddio weithiau i wirio cyfreithlonrwydd cwmni a’i gyfarwyddwyr cyn caniatáu credyd neu fenthyciadau, felly mae’n bwysig bod y cofnodion yn gywir. Bydd cwmnïau’n agored i dwyll ariannol os caiff y bobl anghywir eu cynnwys ar y cofnod fel cyfarwyddwyr cwmni neu os caiff cyfeiriad swyddfa gofrestredig ffug ei ffeilio.
I atal twyllwyr rhag ymhonni’n gyfarwyddwyr cyfreithlon, mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynnig i gwmnïau system ddiogel a chwbl electronig ar gyfer rhoi gwybod am newidiadau o ran cyfarwyddwyr a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Os dewiswch roi gwybod am y manylion hyn trwy’r dull electronig yn unig, fe gânt eu diogelu trwy godau electronig ac ni fyddwn yn derbyn hysbysiadau gan eich cwmni wedi eu cyflwyno ar unrhyw ddiwyg arall.
I fanteisio ar y gwasanaeth hwn, bydd angen yn gyntaf ichi gofrestru trwy’n gwasanaeth WebFiling i gael cod diogelwch a chod dilysu fel y gall eich cwmni ffeilio’n electronig. I ddysgu mwy am hyn, ymwelwch â’n gwefan yn www.companieshouse.gov.uk.
Yna bydd angen ichi lenwi ffurflen ‘Opt-in’ (PR1) a chytuno â’r amodau a’r telerau fel mai dim ond pan gânt eu cyflwyno trwy’r dull electronig diogel, a byth ar ffurflen bapur, y bydd Tŷ’r Cwmnïau’n derbyn unrhyw newidiadau o ran cyfarwyddwyr neu gyfeiriad y swyddfa gofrestredig.
Mae’r ffurflen ‘Opt-in’ a’r amodau a’r telerau ar gael trwy’n gwefan neu drwy ffonio 0870 33 33 636. Ar ôl ei llenwi, bydd raid postio’r ffurflen yn ôl i Dŷ’r Cwmnïau. Mae’r gwasanaeth hwn yn wirfoddol; gallwch ddewis peidio â chymryd rhan ar unrhyw adeg a byddwn yn mynd yn ôl i dderbyn hysbysiadau’ch cwmni wedi eu cyflwyno’n electronig neu ar ffurflenni papur. |
8. Beth fydd Tŷ'r Cwmnïau yn ei wneud â'r wybodaeth a anfonir gan fy nghwmni?
Rhaid i Dy’r Cwmniau drefnu i'r wybodaeth a ddaliwn am gwmnïau cofrestredig fod ar gael i unrhyw un sydd am ei gweld. Felly, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn ychwanegu at eich cofnod cwmni yr wybodaeth a anfonwch a bydd honno wedyn ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd. Fodd bynnag, bydd rhywfaint o wybodaeth heb fod ar gael i’r cofnod cyhoeddus, megis cyfeiriad preswyl arferol unigolion sy’n fuddiolwyr Gorchymyn Cyfrinachedd. .
9. Beth sy'n digwydd os nad anfona i'r wybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau mewn pryd?
Mae'n hawdd colli ffydd mewn cwmni nad yw'n cwrdd â'i rwymedigaethau cyfreithiol. Os na ddywedwch chi wrthym am gyflwr ariannol eich cwmni yn brydlon, ac os na chyflwynwch fanylion am newidiadau, ni fydd y sawl sydd am wneud busnes â chi yn cael mantais yr wybodaeth ddiweddaraf am eich cwmni.
Os cyflwynir eich cyfrifon yn hwyr, ceir cosb awtomatig. Bydd y gosb hon rhwng £100 a £1,000 ar gyfer cwmni preifat a rhwng £500 a £5,000 ar gyfer cwmni cyhoeddus. Bydd y ffigurau hyn yn cynyddu o 1 Chwefror 2009 ymlaen.Mae rhagor o wybodaeth am gosbau ffeilio hwyr i'w chael yn ein llyfryn 'Cosbau Ffeilio Hwyr'.
Yn ychwanegol, gellir erlyn cyfarwyddwyr am beidio â ffeilio dogfennau arbennig. O'u collfarnu, bydd ganddynt record droseddu a byddant yn agored i'w dirwyo hyd at £5,000 am bob tramgwydd. Mewn rhai enghreifftiau, gellid hefyd eu gwahardd rhag dal swydd cyfarwyddwr cwmni neu gymryd rhan yn rheolaeth unrhyw gwmni am gyfnod wedi’i rhestri.
10. Beth os na fydd y cwmni'n llwyddo neu na fydd arna i ei angen mwyach?
Gall cwmnïau preifat sydd heb fasnachu na dilyn busnes mewn ffordd arall ers o leiaf tri mis wneud cais i'r Cofrestrydd am gael eu dileu o'r gofrestr. Am wybodaeth ynghylch hyn, gweler ein llyfryn 'Dileu o'r Gofrestr, Diddymu ac Adfer' neu ar gyfer cwmnïau Albanaidd ‘Strike-off, Dissolution and Restoration (Scotland)'.
Nid yw hyn yn drefn yn lle gweithrediadau ansolfedd ffurfiol lle bo'r rheiny'n briodol - gweler ein llyfryn 'Ymddatod ac Ansolfedd' neu ar gyfer cwmnïau Albanaidd ‘Liquidation and Insolvency (Scotland)’.
Brig
PENNOD 7
Gwybodaeth bellach
1. Ble galla i gael cymorth?
Bydd ein staff yng Nghaerdydd a Chaeredin yn gallu’ch cynghori ynghylch materion yn gyffredinol, ond wrth ddechrau cwmni mae’n bwysig gwneud pethau’n iawn. Fel na fyddwch chi’n gwneud camgymeriadau a allai droi’n gostus, gall fod yn ddoeth ymgynghori â chyfreithiwr, asiant ffurfio cwmnïau, ysgrifennydd siartredig neu gyfrifydd fel sy’n briodol. Fe welir y cyfeiriadau yn y llyfrau ffon ar gyfer busnes.
Am ymholiadau ynghylch cwmnïau buddiant cymunedol, ymwelwch ag www.cicregulator.gov.uk
2. Sut mae anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd
Y ffordd fwyaf diogel i anfon gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw defnyddio’n gwasanaethau ffeilio ar-lein. I gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru, edrychwch ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk
Gallwch gyflwyno dogfennau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin - gweler y clawr gefn am y cyfeiriadau.
Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban. Os anfonwch chi ddogfennau drwy'r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:
Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori
yng Nghymru a Lloegr: |
Ar gyfer cwmnïau wedi eu corffori
yn yr Alban: |
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd 1 |
The Registrar of Companies
Companies House
37 Castle Terrace
Edinburgh EH1 2EB
DX ED235 Edinburgh 1
LP - 4 Edinburgh 2 |
Dim ond os darparwch chi amlen stampiedig yn dangos y cyfeiriad dychwelyd y byddwn yn cydnabod i ddogfennau ddod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Os ydych yn anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau(DX) a’ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu cydnabyddiaeth os amgaewch gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch.
Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.
Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn anfon nodyn cydnabod awtomatig drwy’r e-bost ar gyfer pob cyflwyniad a wneir o dan drefn WebFiling, gyda neges e-bost ddiweddarach yn dangos a gafodd y cyflwyniad ei dderbyn neu ei wrthod.
Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs
3. Ga i ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill?
Yn gyffredinol, mae’r dogfennau sy’n cael eu hanfon at y Cofrestrydd yn gorfod bod yn Saesneg. Er hynny, caiff dogfennau sy’n ymwneud â chwmnïau Cymreig.- sef, cwmnïau y dywed eu memoranda fod rhaid i’w swyddfa gofrestredig fod yng Nghymru - gael eu llunio a’u cyflwyno yn Gymraeg
Caiff cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os bydd cyfieithiad Saesneg ardystiedig yn cael ei hanfon gyda nhw:
- Penderfyniadau a chytundebau sy’n effeithio ar gyfansoddiad cwmni
- Contractau sy’n dyrannu cyfrannau am gydnabyddiaeth heblaw arian parod
- Yn achos cwmnïau sydd wedi’u cynnwys yng nghyfrifon grwpiau mwy yn yr EEA neu y tu allan i’r EEA, (bydd eich cyfrifydd yn gwybod beth yw’r rhain) cyfrifon y grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad; ac
- Offerynnau arwystlon (neu gopïau o offerynnau arwystlon)
Caiff cwmnïau hefyd ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen sy’n dod o dan y gofynion yn y Gyfarwyddeb ar ddatgelu. Mae hyn yn cynnwys:
- Dogfennau cyfansoddiadol fel y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad
- Penodiadau cyfarwyddwyr, newid manylion neu ymddiswyddiadau
- Cyfrifon, adroddiadau a ffurflenni blynyddol
- Hysbysiad ynglŷn ag unrhyw newid yn swyddfa gofrestredig y cwmni
- Dogfennau dirwyn i ben
- Dogfennau cyfalaf cydrannau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
- Dogfennau ynghylch cyfuno a rhannu cwmnïau (cwmnïau cyhoeddus yn unig)
- Dogfennau ynghylch cwmnïau tramor
Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol gyfeirio at ddogfen a gyflwynwyd i’r Cofrestrydd ar 1 Ionawr 2007 neu wedi hynny. Gall cyfieithiadau gwirfoddol gael eu ffeilio yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unig a rhaid anfon Ffurflen 1106 i gyd-fynd â nhw.
4. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?
Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i ddeddfwriaeth cwmnïau a pherthynas cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau.
Mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy www.companieshouse.gov.uk neu drwy ffonio 0870 3333636.
Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.
Brig
|