Amdanon Ni |
|||||||||||||||||||||
|
Cliciwch yma i weld fersiwn Saesneg y Llyfryn Canllaw hwn (gan agor mewn ffenestr arall) Medi 2008 - Fersiwn 16 Fel y’i haddaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006 Rhaid bod yn ymwybodol o’r canlynol wrth ddarllen y nodiadau canllaw hyn: Mae rhai (ond nid y cyfan) o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 2006 wedi dod i rym. Gan hynny, mae rhai o ddarpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 yn dal yn berthnasol. Rydym wedi ceisio gwneud yn glir drwy’r holl nodiadau hyn, gymaint â phosibl, pa Ddeddf sy’n berthnasol. Os hoffech chi wybod rhagor, efallai yr hoffech ymweld â’n gwefan www.companieshouse.gov.uk lle gallwch weld pa ddarpariaethau yn y Deddfau priodol sydd mewn grym. Mae dolen ar ein gwefan hefyd i wefan BERR (Yr Adran Busnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio) www.berr.gov.uk/bbf/co-act-2006/index.html, lle gallwch weld rhagor o wybodaeth. Mae rhai o’r darpariaethau yn y Ddeddf newydd yn amodol ar drefniadau trosiannol. Cyhyd â phosibl, eglurwn hyn yn y canllaw hwn a rhown fanylion ar ein gwefan Mae dau gam pellach yng ngweithrediad Deddf Cwmnïau 2006 a drefnwyd ar gyfer Hydref 2008 a Hydref 2009. Byddwn yn diweddaru unrhyw nodiadau canllaw a effeithir gan y gweithrediadau ar y pryd. Efallai yr hoffech gadw golwg ar ein gwefan hefyd lle byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth wrth i’r broses o weithredu barhau, er mwyn ichi gael mynediad at y newyddion diweddaraf. Tan fis Hydref 2009, mae’r nodiadau canllaw hyn yn gymwys i gwmnïau wedi eu ffurfio ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) yn unig. Bwriedir wedyn i’r system ar wahân ar gyfer Gogledd Iwerddon ymdoddi i system gyfunol ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd.
Cynnwys
Cyflwyniad Nid yw'r llyfryn yn ymdrin â swyddogaeth 'cyfrifydd hysbysu' a benodir i gwmnïau elusennol bach. Mae’r rôl honno’n cael ei dileu, a (heblaw yng Ngogledd Iwerddon) nid yw’r gyfraith ar gyfrifyddion hysbysu yn gymwys i gyfrifon am y blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008. Nac oes. Os ydyn nhw'n gymwys i gael eu heithrio ac am fanteisio ar eithriad felly, does dim rhaid i gwmnïau segur na rhai cwmnïau bach drefnu i'w cyfrifon gael eu harchwilio. I fod yn gymwys i'w eithrio rhag archwilio ariannol cyflawn fel cwmni bach, rhaid i’r cwmni:
Gall cwmni cyfyngedig nad yw wedi masnachu yn ystod blwyddyn ariannol ac sy’n cwrdd â meini prawf penodol eraill wneud cais am eithriad rhag archwilio. Gweler ein llyfryn 'Cwmnïau Segur'. Does dim angen i gwmnïau segur benodi archwilwyr ariannol a chânt gyflwyno cyfrifon sylfaenol iawn i Dŷ'r Cwmnïau. Ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau cyn 6 Ebrill 2008, er mwyn i gwmni elusennol fod yn gymwys i'w eithrio'n llwyr rhag archwilio ariannol, rhaid iddo fodloni'r amodau ar gyfer cwmni bach, rhaid i'w incwm gros beidio â bod yn fwy na £90,000 a rhaid i'w gyfanswm mantolen beidio â bod yn fwy na £2.8 miliwn (£1.4 miliwn ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu cyn 30 Mawrth 2004). Mae elusennau sydd ag incwm gros rhwng £90,000 a £250,000 a chyfanswm mantolen heb fod yn fwy nag £1.4 miliwn, yn gymwys i'w heithrio'n rhannol rhag archwilio. SYLWER: Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill does dim categori penodol mwyach ar gyfer cwmnïau elusennol sydd wedi’u heithrio rhag archwilio. Fe fyddan nhw’n gymwys i’w heithrio rhag archwilio o dan y gyfraith cwmnïau yn yr un ffordd ag unrhyw gwmni arall. Gall cwmnïau elusennol wynebu gofynion ar wahân hefyd ynglŷn ag archwilio neu waith craffu arall ar eu cyfrifon o dan y gyfraith elusennau. I gael rhagor o wybodaeth, gweler: Mae rhagor o wybodaeth am eithrio cwmnïau bach a rhai segur rhag archwilio ariannol i'w chael yn ein llyfryn 'Cyfrifon a Dyddiadau Cyfeirnod Cyfrifeg'. 3. Sut mae cwmni’n penodi archwilydd? Mae’r rheolau yn wahanol yn achos cwmniau cyhoeddus a chwmniau preifat. Ar gyfer cwmniau cyhoeddus, y cyfarwyddwyr fydd yn penodi archwilydd ariannol cynta'r cwmni. Wedyn, bydd yr archwilydd yn dal mewn swydd tan ddiwedd cyfarfod cynta'r cwmni lle rhoir ei gyfrifon gerbron yr aelodau gan y cyfarwyddwyr. Yn y cyfarfod hwnnw, gall aelodau'r cwmni ailbenodi'r archwilydd, neu benodi un arall, i weithredu o ddiwedd y cyfarfod dan sylw hyd ddiwedd y cyfarfod nesaf lle rhoir cyfrifon gerbron gan y cyfarwyddwyr. Ar gyfer cwmnïau preifat, mae’r cyfarwyddwyr yn penodi archwilydd cyntaf y cwmni. Wedyn caiff yr aelodau benodi neu ailbenodi archwilydd mewn cyfarfod o aelodau’r cwmni, neu drwy benderfyniad ysgrifenedig, o fewn 28 diwrnod ar ôl i’r cyfarwyddwyr anfon y cyfrifon at yr aelodau. Ond os na wnân nhw hyn, mae’r archwilydd a benodwyd yn parhau yn ei swydd nes i’r aelodau basio penderfyniad i’w ailbenodi neu i’w ddiswyddo fel archwilydd (caiff 5% o’r aelodau, neu lai os bydd yr erthyglau’n dweud hynny, orfodi penderfyniad i ddiswyddo archwilydd i gael ei ystyried). Er hynny, nid yw’r ddarpariaeth hon ynghylch parhau yn y swydd yn gymwys os cafodd penodiad diweddaraf yr archwilydd ei wneud gan y cyfarwyddwyr neu os yw erthyglau’r cwmni yn ei gwneud yn ofynnol i’r archwilydd gael ei benodi’n flynyddol. I gael rhagor o wybodaeth am benderfyniadau, gweler ein llyfryn. 4. Beth yw gwaith archwilydd ariannol? Rhaid i adroddiad yr archwilydd ariannol gynnwys:
Rhaid i adroddiad yr archwilwyr fod yn ddiamod neu’n amodol a rhaid iddo gynnwys cyfeiriad at unrhyw faterion y mae’r archwilwyr yn dymuno tynnu sylw ato i’w bwysleisio heb amodi’r adroddiad. Bydd yr archwilwyr yn amodi’r adroddiad naill ai lle cafwyd cyfyngiad ar rychwant gwaith yr archwilwyr neu lle cafwyd anghytundeb o sylwedd rhwng y cwmni a’r archwilwyr ynghylch y cyfrifon. Mae’n bosibl na fydd adroddiad amodol yn bodloni gofynion y banciau ar gyfer darparu arian i’r cwmni. Ceir gofynion ychwanegol ar gyfer adroddiadau archwilwyr cwmnïau sydd wedi’u dyfynnu: Adroddiad i aelodau’r cwmni ar y rhan archwiliadwy o’r adroddiad ar gydnabyddiaeth y cyfarwyddwyr ac a yw’r cwmni wedi’i baratoi yn unol â Deddf Cwmnïau 1985 neu 2006. (Deddf 1985 sy’n gymwys yn achos blynyddoedd ariannol yn dechrau cyn 6 Ebrill 2008, a Deddf 2006 ar gyfer blynyddoedd ariannol ar ôl hynny). Rhaid i’r archwilwyr lofnodi a dyddio’r adroddiad y maent yn ei ddarparu ar gyfer y cwmni pan gaiff yr archwiliad ei gwblhau. Yn achos blynyddoedd ariannol yn dechrau cyn 6 Ebrill 2008 (h.y. o dan Ddeddf Cwmnïau 1985), rhaid i’r archwilwyr lofnodi’r copi sy’n cael ei gyflwyno i’r cofrestrydd hefyd. Yn achos blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008 a’r archwilydd yn ffyrm, rhaid i’r uwch-archwilydd statudol lofnodi adroddiad yr archwilwyr yn ei enw ei hun ar ran y ffyrm. Rhaid hefyd iddo ddyddio’r llofnod. Rhaid i’r cwmni ddatgan enw’r uwch-archwilydd statudol mewn copïau o’r adroddiad archwilio y mae’n eu cyhoeddi. Rhaid i gopïau o adroddiad yr archwilwyr a gyflwynir i’r cofrestrydd ddatgan enwau’r ffyrm archwilio a’r uwch-archwilydd statudol, a chael eu llofnodi gan yr archwilydd neu (os ffyrm yw’r archwilydd) gan berson sydd wedi’i awdurdodi i lofnodi ar ran y ffyrm. 5. A oes unrhyw eithriadau rhag nodi enw’r archwilydd ar adroddiad yr archwilwyr? 506notifications@berr.gsi.gov.uk Rhaid i’r hysbysiad nodi:
Byddai angen i adroddiad yr archwilydd ynghlwm wrth y cyfrifon gynnwys y datganiad canlynol: ‘Mae’r cwmni wedi pasio penderfyniad yn unol ag adran 506 o Ddeddf Cwmnïau 2006 na ddylai enw’r archwilydd gael ei nodi.’ SYLWER: Ni ddylid ar unrhyw gyfrif ffeilio copi o’r penderfyniad na’r hysbysiad yn Nhŷ’r Cwmnïau. 6. A gaiff fy nghyfrifydd fod yn archwilydd ariannol imi? Rhaid i archwilydd fod yn annibynnol ar y cwmni. Felly, ni all rhywun gael ei benodi’n archwilydd ariannol os yw:
Os nad yw’ch cyfrifydd yn perthyn i’r un o’r categorïau uchod ac os oes ganddo dystysgrif gyfredol archwilio ariannol wedi ei rhoi gan gorff goruchwylio cydnabyddedig, caiff weithredu’n archwilydd ariannol i’r cwmni. COFIWCH: Nid yw pob aelod o gorff goruchwylio cydnabyddedig yn gymwys i weithredu’n archwilydd. Bydd y corff goruchwylio priodol yn gallu dweud wrthych chi a oes gan unigolyn neu ffyrm arbennig dystysgrif gyfredol i gael dilyn gwaith archwilio ariannol. 7. Beth a phwy yw cyrff goruchwylio cydnabyddedig?
Ceir hefyd Gymdeithas y Cyfrifwyr Cyhoeddus Awdurdodedig, 10 Lincoln's Inn Fields, Llundain WC2A 3BP, Ffôn: 020 7396 5954; ond is-gwmni yw’r gymdeithas hon i Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig COFIWCH: Gallwch chi ofyn i'ch archwilydd ariannol gadarnhau ei fod wedi cofrestru gydag un o'r cyrff hyn, neu fe allwch gysylltu â'r corff priodol. 8. Ai â chyfrifon blynyddol yn unig y bydd archwilydd ariannol yn ymwneud fel arfer? Yn ddarostyngedig i safonau moesegol yr APB, mae dyletswyddau statudol yr archwilwyr wedi’u cyfyngu i wirio bod yna ddogfennau a chofnodion digonol, ac i gyflwyno adroddiad ar y cyfrifon blynyddol. Fodd bynnag, does dim sy'n eich rhwystro rhag cyflogi archwilydd ariannol at ddibenion eraill, fel trefnu'r llyfrau neu'r ffurflen dreth, ar yr amod nad yw'n cyfrannu at reolaeth y cwmni. Mae’n rhaid i gwmnïau y mae eu cyfrannau’n cael eu masnachu ar farchnadoedd stoc rheoledig gynhyrchu cyfrifon yn amlach nag unwaith y flwyddyn. Dyma’r “adroddiadau ariannol hanner blwyddyn” er eu bod weithiau’n cael eu disgrifio fel “cyfrifon interim”. Dylech chi gytuno ar lythyr cyflogi sy'n nodi hyd a lled tasg yr archwilydd a ffurf unrhyw adroddiadau y bydd yr archwilydd yn eu cyflwyno . Er y gall y cwmni symud archwilydd ariannol o'i swydd unrhyw adeg, gall fod gan yr archwilydd hawl i ddigollediad neu iawndal yn sgîl terfynu ei b/phenodiad. Os bydd archwilydd ariannol yn peidio â dal swydd am unrhyw reswm, rhaid iddo adneuo datganiad yn swyddfa gofrestredig y cwmni. Os nad yw'r cwmni wedi’i ddyfynnu ar gyfnewidfa stoc, dylai’r datganiad nodi unrhyw amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’r ffaith ei fod yn peidio â dal swydd y mae’n credu y dylid dod â nhw i sylw aelodau a chredydwyr y cwmni. Os yw’r cwmni wedi’i ddyfynnu, mae’n rhaid iddo nodi’r amgylchiadau p’un a yw’n credu bod angen dod â nhw i sylw aelodau a chredydwyr y cwmni neu beidio.
Os bydd yr archwilydd yn ymddiswyddo neu’n cael ei ddiswyddo yn ystod ei gyfnod yn ei swydd, rhaid i’r cwmni roi gwybod i’r “awdurdod archwilio priodol”, sef y Bwrdd Goruchwylio Proffesiynol os yw’r archwiliad yn “archwiliad mawr”, neu gorff proffesiynol y ffyrm archwilio mewn achosion eraill. “Archwiliad mawr” yw archwiliad ar gwmni ar Restr Swyddogol y Gyfnewidfa Stoc sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, neu gwmni arall y mae gan y cyhoedd fuddiant mawr yn ei gyflwr ariannol. Gyda’r hysbysiad, rhaid i’r cwmni anfon naill ai’r datganiad y mae’r archwilydd wedi’i adneuo gyda'r cwmni neu ddatganiad y cwmni ei hun. Mae canllawiau manylach am y darpariaethau hyn ar gael ar wefan y Cyngor Adroddiadau Ariannol yn www.frc.org.uk/pob/regulation/notification.cfm PENNOD 3 Gwybodaeth bellach 1. Sut mae anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd? Y ffordd fwyaf diogel a sicr i anfon gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw defnyddio’n gwasanaethau ffeilio ar-lein. Mae WebFiling yn cynnig templedi dogfennau i’w lawrlwytho am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys gwiriadau pwrpasol er mwyn ichi sicrhau nad ydych wedi hepgor gwybodaeth allweddol. I gael rhagor o wybodaeth am argaeledd a manylion cofrestru, edrychwch ar ein gwefan www.companieshouse.gov.uk. Gallwch chi gyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd, Llundain a Chaeredin. Gallwch chi hefyd anfon dogfennau drwy’r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban. Os anfonwch chi ddogfennau drwy'r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:
Dim ond os darparwch chi amlen stampiedig yn dangos eich cyfeiriad dychwelyd y byddwn yn cydnabod bod dogfennau wedi dod i law yn Nhŷ’r Cwmnïau. Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i'w chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau. Mae Tŷ’r Cwmnïau yn anfon cydnabyddiaeth awtomatig drwy’r e-bost ar gyfer pob cyflwyniad sy’n cael ei wneud drwy WebFiling a neges e-bost ychwanegol i ddweud a yw’r cyflwyniad wedi’i dderbyn ynteu wedi’i wrthod. Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs. 2. Ble galla i gael ffurflenni a llyfrynnau canllaw?Cewch gyflwyno llawer o ffurflenni i Dŷ’r Cwmnïau ar-lein drwy’n gwasanaethau Software Filing neu WebFiling. Mae’r gwasanaeth yn system ddiogel ar gyfer cyflwyno gwybodaeth am gwmnïau. (www.companieshouse.gov.uk) Fel arall, mae ffurflenni statudol a llyfrynnau canllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’n gwefan neu drwy ffonio +44 (0)303 1234 500.Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau. |
||||||||||||||||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|