Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni

Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnïau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnïau
Llyfrgell


Y Fonesig Elizabeth Neville, DBE QPM yw Dyfarnwraig annibynnol Tŷ’r Cwmnïau. Bydd y Fonesig Elizabeth yn ymchwilio i gwynion ynglŷn ag oedi, anghwrteisi a chamgymeriadau yn y ffordd y cafodd y cwynion hyn eu trin gan Dŷ’r Cwmnïau.

Bu i’r Fonesig Elizabeth ymddeol fel Prif Gwnstabl Heddlu Wiltshire yn 2004 a hi ar hyn o bryd yw Asesydd Cwynion Annibynnol asiantaethau’r Grŵp Gyrwyr a Gweithredwyr Cerbydau (DVO) sy’n cynnwys DVLA, yr Asiantaeth Safonau Gyrru, yr Asiantaeth Ardystio Cerbydau a’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbyd a Gweithredydd, yn ogystal â bod yn Asesydd Cwynion annibynnol i’r Asiantaeth Briffyrdd.

Hi yw Dyfarnwraig Cwynion annibynnol yr Asiantaeth Adennill Asedion a bydd yn eistedd ar Dribiwnlysoedd Apeliadau Heddlu.  Mae’n Gyfarwyddwraig Anweithredol yn y Swyddfa Twyll Difrifol ac yn aelod o’r Awdurdod Heddlu Ynni Niwclear Sifil.

Bydd y Fonesig Elizabeth hefyd yn adolygu apeliadau ysgrifenedig yn erbyn codi cosbau ffeilio hwyr, er bod y cyfle i ddefnyddio disgresiwn yn gyfyngedig iawn gan fod y Senedd wedi pennu beth yn union y caiff ac na chaiff y Cofrestrydd Cwmnïau ei wneud. Mae’r proses cosbau ffeilio hwyr wedi ei nodi’n ddiamwys yng nghanllawiau Tŷ’r Cwmnïau ar Gosbau Ffeilio Hwyr – Apeliadau; byddwch cystal â darllen yr wybodaeth hon cyn ysgrifennu at y Fonesig Elizabeth ynglŷn â chosb ffeilio hwyr.

Ni all y Fonesig Elizabeth ddelio â’r canlynol:  

  • Cwestiynau ynghylch y Gyfraith Gwmnïau
  • Defnyddio disgresiwn gan yr Ysgrifennydd Gwladol
  • Cwynion sydd dan ystyriaeth gan Ombwdsman y Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd
  • Unrhyw achos lle ceir gweithrediadau troseddol
  • Cwynion henach na chwe mis.

Mae angen i Dŷ’r Cwmnïau gael cyfle i ddatrys unrhyw anghydfod, felly cyn cael ei hatgyfeirio i sylw’r Fonesig Elizabeth, mae’n rhaid bod cwyn wedi mynd drwy holl drefn fewnol Tŷ’r Cwmnïau a chan hynny bod wedi cael ei hystyried gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethu Cwsmeriaid.

PEIDIWCH AG YSGRIFENNU AT Y FONESIG ELIZABETH OS NA DDILYNWYD Y DREFN HON.

Os byddwch yn dal yn anfodlon ar ôl cael dyfarniad, gallwch gysylltu â’ch Aelod Seneddol a gofyn am i’r gŵyn gael ei hatgyfeirio i sylw Ombwdsman y Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd.

Manylion cysylltu:
Y Fonesig Elizabeth Neville DBE QPM
Dyfarnwraig Annibynnol Tŷ’r Cwmnïau
c/o Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies