Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni


22/02/2008

Hysbysiad Pwysig ynglŷn â Swyddogaethau Prosesu Tŷ’r Cwmnïau ac Ataliad Gwasanaethau Dros Dro

Rydym bellach yn tynnu at weithrediad project Systemau Prosesu Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau. System newydd i gymryd lle ein hen brif  gyfrifiadur yw hon a fydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd inni er mwyn datblygu ein gwasanaethau yn y dyfodol.

 O ganlyniad, fe effeithir ar y gwasanaethau canlyno rhwng dydd Gwener 22 a dydd Llun 25 Chwefror 2008, cynwysedig.

Noder - Yr ydym yn argymell bod cwsmeriaid yn bwrw golwg ar y ddalen hon yn gyson i weld a oes unrhyw newidiadau i’r swyddogaethau a’r gwasanaethau.

Gwasanaethau Ar-lein

Gwasanaeth Dydd Gwener 22 Dydd Sadwrn 23 Dydd Sul 24 Dydd Llun 25
Gwefan Ar agor Ar agor Ar agor Ar agor
CH Direct Ar agor Ar gau Ar gau Ar gau
WebCHeck Ar agor Ar gau Ar gau Ar gau
Extranets Ar agor Ar gau Ar gau Ar gau
XML Gateway Ar agor Ar gau Ar gau Ar gau
WebFiling *Ar gael i gyflwyno gwybodaeth. Caiff y data eu dal ond ni phrosesir mohonynt Ar gau Ar gau Ar gau

*Sylwer mai dyddiad eu derbyn fydd yn cael ei briodoli i ddogfennau, ni waeth pa bryd y byddant yn cael eu prosesu ac yn ymddangos ar y gwasanaethau allbwn.

Ailgydir yn y Gwasanaethau  ar-lein am 9.00am ar ddydd Mawrth 26 Chwefror 2008.

Bydd y Ddesg Gymorth CH Direct ar gael fel arfer ar ddydd Gwener 22 a dydd Llun 25 Chwefror

Bydd Canolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau ar agor fel arfer ond effeithir ar y gwasanaethau canlynol

Gwasanaeth Dydd Gwener 22 Dydd Llun 25
Gwasanaeth Chwilio’r System Wybodaeth Ar agor Ar gau
* Gwasanaethau yr Un Diwrnod Heb fod ar gael Heb fod ar gael
Copïau Ardystiedig yr Un Diwrnod Ar gael Heb fod ar gael

* Ailgydir yn y gwasanaethau Prosesu Corfforiad ar Bapur yr Un Diwrnod, Newid Enw, a  Chofrestru  ar ddydd Mawrth 26 Chwefror 2008.

Canolfan Cysylltu Tŷ’r Cwmnïau

Bydd y Canolfan Cysylltu ar agor fel arfer ar ddydd Gwener 22 a dydd Llun 25.  Fodd bynnag, fe effeithir ar y gwasanaethau canlynol:

Gwasanaeth Dydd Gwener 22 Dydd Llun 25
Archebion Amnewidiad Ffurflen Flynyddol ôl -a-blaen Ar gael Ar gael
Gwirio Enwau Cwmni Ar gael Heb fod ar gael
Copïau Ardystiedig yr Un Diwrnod Ar gael Heb fod ar gael
Archebu delwedd ddogfen Ar gael Heb fod ar gael

* Gwasanaeth Software Filing

Gwasanaeth Dydd Iau 21 Dydd Gwener 22 Dydd Llun 25
Corffori Safonol Daw’r prosesu i ben am 3.00pm Heb fod ar gael Caiff y dogfennau eu dal ond ni phrosesir mohonynt
Corffori yr Un Diwrnod Daw’r prosesu i ben am 3.00pm Heb fod ar gael Heb fod ar gael
Mathau Eraill o Ddogfen Daw’r prosesu i ben am 3.00pm Heb fod ar gael Caiff y dogfennau eu dal ond ni phrosesir mohonynt

* Bydd pob prosesu’n dod i ben am 3.00pm ar ddydd Iau 21 Chwefror 2008. Pob cyflwyniad sy’n dal i ddod i law yn cael ei gydnabod a’i roi i gadw. Bydd y prosesu’n ailddechrau ar ddydd Mawrth 26 Chwefror 2008.

Fe lwyr werthfawrogwn na fydd croeso, hwyrach, i unrhyw darfu ar ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn. Gobeithiwn y byddwch yn deall bod angen inni wneud hyn er mwyn sicrhau gweithrediad llwyddiannus i’r drefn newydd.

Carem ddiolch ichi ymlaen llaw am eich cydweithrediad cyson, ac ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a gaiff ei achosi i chi neu’ch cleientydd.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, peidiwch â phetruso rhag cysylltu â ni.

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies